Actau’r Apostolion 21:1-40
21 Ar ôl ffarwel emosiynol, gwnaethon ni hwylio ar y môr a mynd yn syth i Cos, a’r diwrnod wedyn i Rhodos, ac oddi yno i Patara.
2 Pan ddaethon ni o hyd i long a oedd yn croesi i Phoenicia, aethon ni arni a hwylio i ffwrdd.
3 Ar ôl dod o fewn golwg ynys Cyprus, gwnaethon ni ei gadael hi ar yr ochr chwith a hwylio ymlaen i Syria a glanio yn Tyrus, oherwydd yno roedd y llong yn dadlwytho ei chargo.
4 Chwilion ni am y disgyblion a daethon ni o hyd iddyn nhw ac aros yno am saith diwrnod. Ond drwy’r ysbryd roedden nhw’n dweud wrth Paul dro ar ôl tro am beidio â mynd i Jerwsalem.
5 Felly pan ddaeth ein hamser ni yno i ben, gadawon ni a mynd ar ein ffordd, ac fe wnaeth pawb ohonyn nhw, ynghyd â’r merched* a’r plant, ddod gyda ni nes inni gyrraedd y tu allan i’r ddinas. Ac aethon ni ar ein gliniau ar y traeth, a gweddïo
6 a dweud ffarwel wrth ein gilydd. Yna aethon ni ar fwrdd y llong, ac aethon nhw adref.
7 Ar ôl inni orffen ein taith o Tyrus a chyrraedd Ptolemais, dyma ni’n cyfarch y brodyr ac aros un diwrnod gyda nhw.
8 Y diwrnod wedyn gwnaethon ni adael a dod i Cesarea, ac aethon ni i mewn i dŷ Philip y pregethwr, a oedd yn un o’r saith dyn, ac aros gydag ef.
9 Roedd gan y dyn hwn bedair merch ddibriod a oedd yn proffwydo.
10 Ond ar ôl inni aros yno am ddyddiau lawer, daeth proffwyd o’r enw Agabus i lawr o Jwdea.
11 A daeth aton ni a chymryd belt Paul a rhwymo ei draed a’i ddwylo ei hun a dweud: “Dyma beth mae’r ysbryd glân yn ei ddweud, ‘Bydd y dyn sydd biau’r belt hwn yn cael ei rwymo fel hyn gan yr Iddewon yn Jerwsalem, a byddan nhw’n ei roi yn nwylo pobl y cenhedloedd.’”
12 Nawr pan glywson ni hyn, gwnaethon ni a’r rhai a oedd yno ddechrau erfyn arno i beidio â mynd i fyny i Jerwsalem.
13 Yna atebodd Paul: “Pam rydych chi’n wylo ac yn ceisio torri fy nghalon? Gallwch fod yn hollol sicr, rydw i’n barod nid yn unig i gael fy rhwymo ond hefyd i farw yn Jerwsalem er mwyn enw’r Arglwydd Iesu.”
14 Pan sylweddolon ni nad oedd hi’n bosib ei berswadio, fe wnaethon ni stopio mynnu* a dweud: “Rydyn ni eisiau i ewyllys Jehofa ddigwydd.”
15 Nawr ar ôl y dyddiau hynny, gwnaethon ni baratoi ar gyfer y daith a chychwyn ar ein ffordd i Jerwsalem.
16 Daeth rhai o’r disgyblion o Cesarea gyda ni hefyd, gan fynd â ni at un o’r disgyblion cyntaf, Mnason o Gyprus, ac roedden ni am aros gydag ef yn ei gartref.
17 Pan gyrhaeddon ni Jerwsalem, gwnaeth y brodyr ein croesawu ni’n llawen.
18 Ond, y diwrnod wedyn, aeth Paul i mewn gyda ni at Iago, ac roedd yr henuriaid i gyd yno.
19 A dyma’n eu cyfarch nhw a dechrau adrodd yn fanwl y pethau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd drwy ei weinidogaeth.
20 Ar ôl clywed hyn, dechreuon nhw ogoneddu Duw, ond dywedon nhw wrtho ef: “Fe weli di, frawd, fod ’na filoedd o gredinwyr ymhlith yr Iddewon, ac maen nhw i gyd yn selog dros y Gyfraith.
21 Ond maen nhw wedi clywed si dy fod ti wedi bod yn dysgu’r holl Iddewon sydd ymhlith y cenhedloedd i wrthgilio oddi wrth Moses, gan ddweud wrthyn nhw am beidio ag enwaedu eu plant na dilyn y defodau traddodiadol.
22 Beth, felly, sy’n mynd i gael ei wneud am y peth? Maen nhw’n bendant yn mynd i glywed dy fod ti wedi cyrraedd.
23 Felly gwna’r hyn rydyn ni’n ei ddweud wrthot ti: Mae gynnon ni bedwar dyn sydd wedi eu gosod eu hunain o dan adduned.
24 Dos â’r dynion hyn gyda ti ac mae’n rhaid i ti a nhwthau eich glanhau eich hunain yn seremonïol a thala’r costau drostyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu siafio eu pennau. Yna bydd pawb yn gwybod does ’na ddim sail i’r sibrydion roedden nhw wedi eu clywed amdanat ti, ond dy fod ti’n cerdded yn y ffordd iawn ac yn cadw’r Gyfraith hefyd.
25 O ran y credinwyr o blith y cenhedloedd, rydyn ni wedi anfon ein penderfyniad atyn nhw mewn llythyr, eu bod nhw i gadw draw rhag pethau sydd wedi cael eu haberthu i eilunod a rhag gwaed, rhag yr hyn sydd wedi cael ei dagu,* a rhag anfoesoldeb rhywiol.”*
26 Yna, y diwrnod wedyn, fe gymerodd Paul y dynion, a gwnaethon nhw eu glanhau eu hunain yn seremonïol, ac aeth Paul i mewn i’r deml i roi rhybudd ynglŷn â pha bryd y byddai’r dyddiau ar gyfer y glanhau seremonïol yn cael eu cyflawni a pha bryd y dylai’r offrwm gael ei gyflwyno dros bob un ohonyn nhw.
27 Nawr pan oedd y saith diwrnod ar fin dod i ben, gwnaeth yr Iddewon o Asia, o weld Paul yn y deml, gynhyrfu’r holl dyrfa, a gafaelon nhw ynddo,
28 gan weiddi: “Ddynion Israel, helpwch ni! Dyma’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl a’n Cyfraith a’r lle hwn. Ac ar ben hynny, y mae hyd yn oed wedi dod â Groegiaid i mewn i’r deml ac wedi llygru’r lle sanctaidd hwn.”
29 Oherwydd yn gynharach roedden nhw wedi gweld Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, ac roedden nhw’n cymryd bod Paul wedi dod ag ef i mewn i’r deml.
30 Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf, a rhedodd y bobl gyda’i gilydd a gafael yn Paul a’i lusgo y tu allan i’r deml, ac ar unwaith cafodd y drysau eu cau.
31 Tra oedden nhw’n ceisio ei ladd, dyma neges yn cyrraedd cadlywydd y fyddin yn dweud bod Jerwsalem yn llawn anhrefn;
32 ac ar unwaith, cymerodd ef filwyr a swyddogion o’r fyddin a rhedeg i lawr atyn nhw. Pan welodd y bobl gadlywydd y fyddin a’r milwyr, gwnaethon nhw stopio curo Paul.
33 Yna daeth cadlywydd y fyddin yn agos a’i arestio a gorchymyn iddo gael ei rwymo â dwy gadwyn; yna dyma’n gofyn pwy oedd ef a beth roedd wedi ei wneud.
34 Ond dechreuodd rhai o’r dyrfa weiddi un peth, ac eraill rywbeth arall. Felly gan nad oedd ef yn gallu dysgu unrhyw beth yn bendant oherwydd y cynnwrf, gorchmynnodd iddo gael ei gymryd i lety’r milwyr.
35 Ond pan gyrhaeddodd ef y grisiau, roedd yn rhaid iddo gael ei gario gan y milwyr oherwydd bod y dyrfa mor dreisgar,
36 achos roedd tyrfa o bobl yn parhau i ddilyn, a gweiddi: “Lladdwch ef!”
37 Pan oedd Paul ar fin cael ei arwain i mewn i lety’r milwyr, dywedodd wrth gadlywydd y fyddin: “Ydw i’n cael dweud rhywbeth wrthot ti?” Dywedodd ef: “Wyt ti’n gallu siarad Groeg?
38 Onid ti, felly, ydy’r Eifftiwr a achosodd wrthryfel ychydig yn ôl ac a arweiniodd 4,000 o ddynion y cyllyll dagr i mewn i’r anialwch?”
39 Yna dywedodd Paul: “Yn wir, Iddew ydw i, un o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas adnabyddus. Felly rydw i’n erfyn arnat ti, gad imi siarad â’r bobl.”
40 Ar ôl iddo roi caniatâd, fe wnaeth Paul, a oedd yn sefyll ar y grisiau, godi ei law er mwyn tawelu’r bobl. Pan ddaeth distawrwydd llwyr, dyma’n eu hannerch nhw yn yr iaith Hebraeg, gan ddweud:
Troednodiadau
^ Neu “menywod.”
^ Llyth., “fe wnaethon ni ymdawelu.”
^ Neu “yr hyn sydd wedi cael ei ladd heb ddraenio ei waed.”