Actau’r Apostolion 24:1-27
24 Bum diwrnod yn ddiweddarach, daeth yr archoffeiriad Ananias i lawr gyda rhai henuriaid a siaradwr cyhoeddus* o’r enw Tertulus, a dyma nhw’n cyflwyno eu hachos yn erbyn Paul i’r llywodraethwr.
2 Pan gafodd ei alw, dechreuodd Tertulus ei gyhuddo ef, gan ddweud:
“Gan ein bod ni’n mwynhau heddwch mawr drwyddot ti a bod ’na welliannau yn digwydd oherwydd dy fod ti’n rheoli’r genedl hon yn graff,
3 rydyn ni’n cydnabod hyn â’r diolchgarwch mwyaf drwy’r amser ac ym mhobman, Ardderchocaf Ffelics.
4 Ond rhag ofn imi dy gadw di ymhellach, rydw i’n erfyn arnat ti i wrando arnon ni mewn ychydig eiriau yn dy garedigrwydd.
5 Rydyn ni eisiau dweud wrthot ti fod y dyn hwn yn bla,* yn annog gwrthryfel ymhlith yr Iddewon drwy’r holl fyd, ac mae’n arweinydd sect y Nasareaid.
6 Ceisiodd hefyd halogi’r deml, felly dyma ni’n ei ddal.
7 ——
8 Pan fyddi di’n ei holi dy hun, fe fyddi di’n cael gwybod am yr holl bethau rydyn ni’n ei gyhuddo ohonyn nhw.”
9 Gyda hynny, ymunodd yr Iddewon hefyd yn yr ymosodiad, gan honni bod y pethau hyn yn wir.
10 Ar ôl i’r llywodraethwr nodio arno i siarad, atebodd Paul:
“Gan fy mod i’n gwybod yn iawn dy fod ti wedi bod yn farnwr ar y genedl hon ers llawer o flynyddoedd, rydw i’n hapus i siarad er mwyn fy amddiffyn fy hun.
11 Fel y gelli di gadarnhau drostot ti dy hun, does dim mwy na 12 diwrnod ers imi fynd i fyny i addoli yn Jerwsalem;
12 ac ni wnaethon nhw ddod o hyd imi’n dadlau â neb yn y deml nac yn hel tyrfa at ei gilydd, naill ai yn y synagogau neu drwy’r ddinas i gyd.
13 Ni allan nhw brofi i ti y pethau maen nhw’n fy nghyhuddo i ohonyn nhw nawr.
14 Ond rydw i’n cyfaddef hyn wrthot ti, yn ôl y ffordd o fyw maen nhw’n galw’n sect, yn y ffordd honno rydw i’n gwasanaethu Duw fy nghyndadau, ac rydw i’n credu’r holl bethau sydd yn y Gyfraith ac sydd wedi eu hysgrifennu yn y Proffwydi.
15 Ac mae gen i’r un gobaith â’r dynion yma, sef bod Duw yn mynd i atgyfodi’r rhai cyfiawn a’r rhai anghyfiawn.
16 Oherwydd hyn rydw i’n wastad yn ceisio cadw cydwybod lân* o flaen Duw a dynion.
17 Nawr ar ôl llawer o flynyddoedd, gwnes i ddod yn ôl er mwyn dod â rhoddion o drugaredd i fy nghenedl ac er mwyn offrymu.
18 Tra oeddwn i’n gofalu am y materion hyn, daethon nhw o hyd imi yn y deml wedi fy nglanhau’n seremonïol, ond nid gyda thyrfa nac yn achosi cynnwrf. Ond roedd ’na rai Iddewon yno o dalaith Asia
19 a ddylai fod yn bresennol o dy flaen di i fy nghyhuddo i os oes ganddyn nhw unrhyw beth yn fy erbyn i.
20 Neu gad i’r dynion yma ddweud drostyn nhw eu hunain pa ddrygioni a welson nhw pan oeddwn i’n sefyll o flaen y Sanhedrin,
21 heblaw’r un peth hwn y gwnes i ei weiddi tra oeddwn i’n sefyll yn eu plith: ‘Ynglŷn â’r gobaith am atgyfodiad y meirw rydw i’n cael fy marnu o’ch blaen chi heddiw!’”
22 Fodd bynnag, roedd Ffelics yn gwybod yn iawn am y ffeithiau ynglŷn â’r Ffordd hon, a gohiriodd eu hachos gan ddweud: “Bryd bynnag y bydd Lysias, cadlywydd y fyddin, yn dod i lawr, bydda i’n penderfynu ar y materion hyn sy’n ymwneud â chi.”
23 A rhoddodd ef orchymyn i swyddog y fyddin y dylai’r dyn gael ei gadw o dan warchodaeth ond gyda rhywfaint o ryddid, ac y dylai ei bobl gael caniatâd i ofalu am ei anghenion.
24 Rai dyddiau yn ddiweddarach daeth Ffelics gyda’i wraig Drwsila, a oedd yn Iddewes, ac anfonodd am Paul a gwrandawodd arno’n siarad am beth mae credu yng Nghrist Iesu’n ei olygu.
25 Ond tra oedd Paul yn siarad am gyfiawnder a hunanreolaeth a’r farnedigaeth i ddod, cododd ofn ar Ffelics ac atebodd: “Dos i ffwrdd am y tro, ond pan fydd y cyfle gen i, fe wna i anfon amdanat ti eto.”
26 Ar yr un pryd roedd yn gobeithio y byddai Paul yn rhoi arian iddo. Am y rheswm hwnnw, anfonodd amdano yn fwy aml byth a sgwrsiodd ag ef.
27 Ond ar ôl i ddwy flynedd fynd heibio, cafodd Ffelics ei olynu gan Porcius Ffestus; ac oherwydd bod Ffelics eisiau ennill ffafr yr Iddewon, gadawodd ef Paul o dan warchodaeth.
Troednodiadau
^ Neu “a chyfreithiwr.”
^ Neu “yn godwr twrw.” Llyth., “haint.”
^ Neu “cydwybod ddi-fai.”