Actau’r Apostolion 25:1-27

  • Treial Paul o flaen Ffestus (1-12)

    • “Rydw i’n apelio at Gesar!” (11)

  • Ffestus yn ymgynghori â’r Brenin Agripa (13-22)

  • Paul o flaen Agripa (23-27)

25  Felly, dri diwrnod ar ôl i Ffestus gyrraedd y dalaith a dechrau llywodraethu yno, aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea.  A dyma’r prif offeiriaid a phrif ddynion yr Iddewon yn rhoi gwybodaeth yn erbyn Paul iddo. Felly dechreuon nhw erfyn ar Ffestus  i wneud cymwynas â nhw drwy anfon Paul i Jerwsalem. Ond roedden nhw’n cynllwynio i ymosod ar Paul a’i ladd ar hyd y ffordd.  Fodd bynnag, atebodd Ffestus fod Paul am gael ei gadw yn Cesarea a’i fod ef ei hun ar fin mynd yn ôl yno cyn bo hir.  “Felly gadewch i’r rhai sydd mewn grym yn eich plith,” meddai, “ddod i lawr gyda mi a’i gyhuddo, os ydy’r dyn yn wir wedi gwneud rhywbeth o’i le.”  Felly pan oedd ef wedi treulio wyth neu ddeg diwrnod ar y mwyaf yn eu plith, aeth i lawr i Cesarea, a’r diwrnod wedyn eisteddodd ar y sedd farnu a gorchymyn i Paul ddod i mewn.  Pan ddaeth i mewn, dyma’r Iddewon a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem yn sefyll o’i gwmpas, yn dwyn llawer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, cyhuddiadau nad oedden nhw’n gallu eu profi.  Ond gwnaeth Paul ei amddiffyn ei hun drwy ddweud: “Dydw i ddim wedi cyflawni unrhyw bechod yn erbyn Cyfraith yr Iddewon nac yn erbyn y deml nac yn erbyn Cesar.”  Roedd Ffestus eisiau ennill ffafr yr Iddewon, felly dywedodd wrth Paul: “Wyt ti eisiau mynd i fyny i Jerwsalem a chael dy farnu o fy mlaen i yno ynglŷn â’r pethau hyn?” 10  Ond dywedodd Paul: “Rydw i’n sefyll o flaen sedd farnu Cesar, lle dylwn i gael fy marnu. Dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth yn erbyn yr Iddewon, fel rwyt ti’n gwybod yn iawn. 11  Os ydw i’n wir yn droseddwr ac wedi gwneud unrhyw beth sy’n haeddu marwolaeth, dydw i ddim yn ceisio osgoi marw; ond os nad oes unrhyw sail i’r cyhuddiadau mae’r dynion yma wedi eu gwneud yn fy erbyn i, nid oes gan unrhyw ddyn yr hawl i fy nhrosglwyddo i iddyn nhw fel cymwynas. Rydw i’n apelio at Gesar!” 12  Yna, ar ôl iddo siarad â’i gynghorwyr, atebodd Ffestus: “At Gesar rwyt ti wedi apelio; at Gesar y byddi di’n mynd.” 13  Ar ôl i rai dyddiau fynd heibio, gwnaeth y brenin Agripa a Bernice gyrraedd Cesarea i gyfarch Ffestus yn swyddogol. 14  Oherwydd eu bod nhw’n treulio nifer o ddyddiau yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i’r brenin, gan ddweud: “Mae ’na ddyn sydd wedi cael ei adael yn y carchar gan Ffelics, 15  a phan oeddwn i yn Jerwsalem dyma brif offeiriaid a henuriaid yr Iddewon yn dod â gwybodaeth amdano, yn gofyn am iddo gael ei farnu a’i gondemnio. 16  Ond atebais drwy ddweud nad arfer Rhufeinig yw trosglwyddo unrhyw ddyn fel cymwynas cyn i’r dyn sydd wedi cael ei gyhuddo gyfarfod â’i gyhuddwyr wyneb yn wyneb a chael cyfle i’w amddiffyn ei hun. 17  Felly pan gyrhaeddon nhw yma, ni wnes i oedi, ond y diwrnod wedyn eisteddais ar y sedd farnu a gorchymyn dod â’r dyn i mewn. 18  Wrth roi tystiolaeth, ni wnaeth y cyhuddwyr ei gyhuddo o unrhyw un o’r pethau drwg roeddwn i’n ei ddisgwyl yn ei achos ef. 19  Dim ond rhyw ddadleuon oedd ganddyn nhw yn ei erbyn ynghylch addoli’r duwdod* ac ynghylch dyn o’r enw Iesu, a oedd wedi marw ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw. 20  Gan fy mod i’n pendroni ynglŷn â sut i ddelio gyda’r ddadl hon, gofynnais a fyddai’n hoffi mynd i Jerwsalem a chael ei farnu yno am y materion hyn. 21  Ond pan apeliodd Paul am gael ei gadw o dan warchodaeth i gael penderfyniad gan yr Un Mawreddog,* gorchmynnais ei fod yn cael ei gadw nes imi ei anfon at Gesar.” 22  Yna dywedodd Agripa wrth Ffestus: “Byddwn i’n hoffi clywed y dyn hwn fy hun.” “Yfory,” meddai, “fe fyddi di’n ei glywed.” 23  Felly, y diwrnod wedyn, daeth Agripa a Bernice â ffanffer fawr a mynd i mewn i’r neuadd gyda chadlywyddion y fyddin ynghyd â phrif ddynion y ddinas; ac ar ôl i Ffestus roi’r gorchymyn, dyma’r milwyr yn dod â Paul i mewn. 24  A dywedodd Ffestus: “Frenin Agripa a phob un ohonoch chi sy’n bresennol gyda ni, dyma’r dyn y mae holl boblogaeth yr Iddewon yn Jerwsalem a fan hyn wedi erfyn arna i amdano, gan weiddi na ddylai ef gael byw ddim mwy. 25  Ond rydw i’n gweld nad ydy ef wedi gwneud unrhyw beth sy’n haeddu marwolaeth. Felly, ar ôl iddo apelio at yr Un Mawreddog, penderfynais ei anfon ato. 26  Ond does gen i ddim byd pendant i’w ysgrifennu at fy Arglwydd amdano. Felly rydw i wedi dod ag ef o’ch blaen chi i gyd, ac yn enwedig o dy flaen di, Frenin Agripa, fel y bydd gen i rywbeth i’w ysgrifennu ar ôl i’r archwiliad barnwrol ddigwydd. 27  Oherwydd yn fy marn i, mae’n afresymol anfon carcharor i Rufain heb esbonio’r cyhuddiadau yn ei erbyn.”

Troednodiadau

Neu “ynghylch eu crefydd eu hunain.”
Teitl ar gyfer yr Ymerawdwr Rhufeinig.