Barnwyr 1:1-36

  • Buddugoliaethau Jwda a Simeon (1-20)

  • Jebusiaid yn aros yn Jerwsalem (21)

  • Joseff yn cymryd Bethel (22-26)

  • Canaaneaid heb eu gyrru allan yn gyfan gwbl (27-36)

1  Ar ôl i Josua farw, gofynnodd yr Israeliaid i Jehofa:* “Pwy ohonon ni fydd y cyntaf i fynd i frwydro yn erbyn y Canaaneaid?”  Atebodd Jehofa: “Bydd Jwda yn mynd i fyny. Edrychwch! rydw i’n* rhoi’r wlad yn ei ddwylo.”  Yna dywedodd Jwda wrth ei frawd Simeon: “Tyrd i fyny gyda mi i mewn i’r diriogaeth sydd wedi ei haseinio* imi, i frwydro yn erbyn y Canaaneaid. Yna bydda i’n mynd gyda ti i’r diriogaeth sydd wedi ei haseinio i ti.” Felly aeth Simeon gydag ef.  Pan aeth llwyth Jwda i fyny, rhoddodd Jehofa y Canaaneaid a’r Peresiaid yn eu dwylo, a gwnaethon nhw drechu 10,000 o ddynion yn Besec.  Daethon nhw o hyd i Adoni-besec yn Besec, a brwydro yn ei erbyn yno a threchu’r Canaaneaid a’r Peresiaid.  Pan wnaeth Adoni-besec ffoi, aethon nhw ar ei ôl a’i ddal, a thorri bodiau ei ddwylo a bodiau ei draed i ffwrdd.  Yna dywedodd Adoni-besec: “Mae ’na 70 brenin gyda bodiau eu dwylo a bodiau eu traed wedi eu torri i ffwrdd, ac maen nhw’n casglu’r bwyd sydd wedi disgyn oddi ar fy mwrdd. Mae Duw wedi gwneud i mi yn union fel rydw i wedi gwneud i eraill.” Ar ôl hynny, daethon nhw ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.  Hefyd, brwydrodd dynion Jwda yn erbyn Jerwsalem a’i chipio; gwnaethon nhw ei tharo â’r cleddyf a gosod y ddinas ar dân.  Yna, aeth dynion Jwda i lawr i frwydro yn erbyn y Canaaneaid oedd yn byw yn yr ardal fynyddig, yn y Negef, ac yn y Seffela. 10  Felly ymosododd Jwda ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (roedd Hebron yn arfer cael ei galw’n Ciriath-arba), a gwnaethon nhw drechu Sesai, Ahiman, a Talmai. 11  Dyma nhw’n martsio* o fan ’na yn erbyn pobl Debir. (Roedd Debir yn arfer cael ei galw’n Ciriath-seffer.) 12  Yna dywedodd Caleb: “Bydda i’n rhoi fy merch Achsa yn wraig i’r dyn sy’n taro Ciriath-seffer ac yn ei chipio.” 13  A gwnaeth Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, gipio’r ddinas. Felly rhoddodd Caleb ei ferch Achsa iddo yn wraig. 14  Tra oedd hi’n mynd adref, roedd hi’n mynnu bod Othniel yn gofyn i’w thad am gae. Yna daeth hi i lawr oddi ar ei hasyn,* a gofynnodd Caleb iddi: “Beth wyt ti eisiau?” 15  Dywedodd hi wrtho: “Plîs rho fendith imi. Rydw i ond wedi cael darn o dir sych yn y de.* Felly rho Guloth-maim* imi hefyd.” Felly rhoddodd Caleb Guloth Uchaf a Guloth Isaf iddi. 16  A daeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, i fyny o ddinas y palmwydd gyda phobl Jwda i anialwch Jwda i’r de o Arad. Aethon nhw yno a setlo ymhlith y bobl. 17  Ond, dyma Jwda yn martsio ymlaen gyda’i frawd Simeon, ac ymosodon nhw ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a dinistrio’r ddinas yn llwyr. Dyna pam rhoddon nhw’r enw Horma* ar y ddinas. 18  Yna, cipiodd Jwda Gasa a’i thiriogaeth, Ascalon a’i thiriogaeth, ac Ecron a’i thiriogaeth. 19  Roedd Jehofa gyda Jwda, a gwnaethon nhw feddiannu’r ardal fynyddig, ond doedden nhw ddim yn gallu gyrru allan y rhai oedd yn byw ar y gwastatir,* oherwydd roedd ganddyn nhw gerbydau rhyfel â chleddyfau haearn ar yr olwynion.* 20  Rhoddon nhw Hebron i Caleb, yn union fel roedd Moses wedi addo, a gyrrodd Caleb dri mab Anac allan o’r lle hwnnw. 21  Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, felly mae’r Jebusiaid yn dal i fyw gyda’r Benjaminiaid yn Jerwsalem hyd heddiw. 22  Yn y cyfamser, aeth tŷ Joseff i fyny yn erbyn Bethel, ac roedd Jehofa gyda nhw. 23  Roedd tŷ Joseff yn ysbïo ar Fethel (roedd y ddinas yn arfer cael ei galw’n Lus), 24  a gwelodd yr ysbïwyr ddyn yn mynd allan o’r ddinas. Felly dywedon nhw wrtho: “Plîs dangos inni y ffordd i mewn i’r ddinas, a byddwn ni’n garedig tuag atat ti.”* 25  Felly, dangosodd y dyn y ffordd i mewn i’r ddinas iddyn nhw, a dyma nhw’n taro’r ddinas â’r cleddyf, ond gwnaethon nhw adael i’r dyn a’i deulu cyfan fynd yn rhydd. 26  Aeth y dyn i wlad yr Hethiaid ac adeiladodd ddinas a’i galw’n Lus, a dyna ei henw hyd heddiw. 27  Wnaeth Manasse ddim meddiannu Beth-sean a’i threfi cyfagos, Taanach a’i threfi cyfagos, pobl Dor a’i threfi cyfagos, pobl Ibleam a’i threfi cyfagos, na phobl Megido a’i threfi cyfagos. Parhaodd y Canaaneaid i fyw yn y wlad hon. 28  Pan oedd Israel yn gryfach, gwnaethon nhw orfodi’r Canaaneaid i lafurio fel caethweision, ond wnaethon nhw ddim eu gyrru nhw allan yn gyfan gwbl. 29  Ni wnaeth Effraim yrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser chwaith. Parhaodd y Canaaneaid i fyw yn eu plith yn Geser. 30  Ni wnaeth Sabulon yrru allan pobl Citron na phobl Nahalol. Roedd y Canaaneaid yn dal i fyw yn eu mysg a chawson nhw eu gorfodi i lafurio fel caethweision. 31  Ni wnaeth Aser yrru allan pobl Acco na phobl Sidon, Ahlab, Achsib, Helba, Affec, na Rehob. 32  Felly, parhaodd yr Aseriaid i fyw ymhlith y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad, oherwydd doedden nhw ddim wedi eu gyrru nhw allan. 33  Ni wnaeth Nafftali yrru allan pobl Beth-semes na phobl Beth-anath, ond roedden nhw’n parhau i fyw ymhlith y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad. Cafodd pobl Beth-semes a Beth-anath eu gorfodi i lafurio fel caethweision iddyn nhw. 34  Doedd yr Amoriaid ddim yn gadael i’r Daniaid ddod i lawr i mewn i’r gwastatir,* felly roedden nhw’n gorfod byw yn yr ardal fynyddig. 35  Felly parhaodd yr Amoriaid i fyw ym Mynydd Heres, yn Ajalon, ac yn Saalbim. Ond pan ddaeth tŷ Joseff yn gryfach,* gwnaethon nhw orfodi’r Amoriaid i lafurio fel caethweision. 36  Roedd tiriogaeth yr Amoriaid yn ymestyn o’r ffordd sy’n mynd i fyny at Acrabbim, o Sela i fyny.

Troednodiadau

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Neu “rydw i wedi.”
Hynny yw, y diriogaeth a gawson nhw drwy daflu coelbren.
Neu “gorymdeithio.”
Neu efallai, “gwnaeth hi glapio ei dwylo tra oedd hi ar gefn ei hasyn.”
Neu “y Negef.”
Sy’n golygu “Pyllau o Ddŵr.”
Sy’n golygu “Rhywle Wedi ei Neilltuo i Gael ei Ddinistrio.”
Neu “gwastatir isel.”
Llyth., “cerbydau haearn.”
Llyth., “dangos cariad ffyddlon tuag atat ti.”
Neu “gwastatir isel.”
Llyth., “pan ddaeth llaw tŷ Joseff yn drwm.”