Barnwyr 10:1-18
10 Ar ôl Abimelech, cododd Tola, mab Pua, mab Dodo, dyn o Issachar i achub Israel. Roedd yn byw yn Samir yn ardal fynyddig Effraim.
2 Gwnaeth ef farnu Israel am 23 blynedd. Yna bu farw a chafodd ei gladdu yn Samir.
3 Cododd Jair o Gilead ar ei ôl, a barnu Israel am 22 o flynyddoedd.
4 Roedd ganddo 30 mab, ac roedd gan bob un o’i feibion asyn a dinas. Mae’r 30 dinas hyn yn cael eu galw’n Hafoth-jair hyd heddiw; maen nhw yng ngwlad Gilead.
5 Ar ôl hynny, bu farw Jair a chafodd ei gladdu yn Camon.
6 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a dechreuon nhw wasanaethu delwau o Baal, delwau Astoreth, duwiau Aram,* duwiau Sidon, duwiau Moab, duwiau’r Ammoniaid, a duwiau’r Philistiaid. Gwnaethon nhw gefnu ar Jehofa a doedden nhw ddim yn ei wasanaethu.
7 Yna, gwylltiodd Jehofa yn lân â’r Israeliaid, a gwnaeth ef eu gwerthu nhw i ddwylo’r Philistiaid a’r Ammoniaid.
8 Felly, roedden nhw’n sathru ar yr Israeliaid ac yn eu herlid nhw’n ofnadwy yn ystod y flwyddyn honno—am 18 mlynedd roedden nhw’n gormesu’r holl Israeliaid ar ochr yr Iorddonen a oedd yn arfer bod yn dir yr Amoriaid yn Gilead.
9 Byddai’r Ammoniaid hefyd yn croesi’r Iorddonen i frwydro yn erbyn Jwda a Benjamin a thŷ Effraim; ac roedd Israel yn dioddef yn fawr iawn.
10 Yna galwodd yr Israeliaid ar Jehofa am help gan ddweud: “Rydyn ni wedi pechu yn dy erbyn di am ein bod ni wedi troi ein cefnau arnat ti, ein Duw, ac wedi gwasanaethu delwau o Baal.”
11 Ond dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid: “Oni wnes i eich achub chi rhag yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid,
12 y Sidoniaid, yr Amaleciaid, a’r Midianiaid pan oedden nhw’n eich gormesu chi? Pan wnaethoch chi alw arna i, gwnes i eich achub chi o’u dwylo.
13 Ond gwnaethoch chi fy ngadael i a gwasanaethu duwiau eraill. Dyna pam fydda i ddim yn eich achub chi eto.
14 Ewch at y duwiau rydych chi wedi eu dewis a galw arnyn nhw am help. Gadewch iddyn nhw eich achub chi o’ch helbul.”
15 Ond dywedodd yr Israeliaid wrth Jehofa: “Rydyn ni wedi pechu. Gwna i ni beth bynnag sy’n dda yn dy olwg di. Ond plîs achuba ni heddiw.”
16 A dyma nhw’n cael gwared ar y duwiau estron oedd yn eu plith a gwasanaethu Jehofa, fel nad oedd ef yn gallu goddef gweld Israel yn dioddef bellach.
17 Ymhen amser, daeth yr Ammoniaid at ei gilydd a chodi gwersyll yn Gilead. Felly daeth yr Israeliaid at ei gilydd a chodi gwersyll ym Mispa.
18 Dywedodd pobl Gilead a’u tywysogion wrth ei gilydd: “Pwy fydd yn cymryd y blaen wrth frwydro yn erbyn yr Ammoniaid? Gad iddo ef ddod yn bennaeth ar holl bobl Gilead.”
Troednodiadau
^ Neu “Syria.”