Barnwyr 12:1-15

  • Brwydro yn erbyn Effraim (1-7)

    • Prawf Shibboleth (6)

  • Y Barnwyr Ibsan, Elon, ac Abdon (8-15)

12  Yna cafodd dynion Effraim eu galw at ei gilydd, a dyma nhw’n croesi drosodd i Saffon,* a dweud wrth Jefftha: “Pam na wnest ti ein galw ni i fynd gyda ti pan wnest ti groesi drosodd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid? Byddwn ni’n llosgi dy dŷ i lawr gyda ti ynddo.”  Ond dywedodd Jefftha wrthyn nhw: “Roeddwn i a fy mhobl yng nghanol brwydr fawr yn erbyn yr Ammoniaid. Fe wnes i alw arnoch chi am help ond wnaethoch chi ddim fy achub i o’u dwylo.  Pan welais i nad oeddech chi am fy achub i, penderfynais fentro fy mywyd* a mynd yn erbyn yr Ammoniaid, a gwnaeth Jehofa eu rhoi nhw yn fy llaw. Felly pam rydych chi wedi dod heddiw i frwydro yn fy erbyn i?”  Yna casglodd Jefftha holl ddynion Gilead at ei gilydd, a dyma nhw’n brwydro yn erbyn Effraim; gwnaeth dynion Gilead drechu Effraim a oedd wedi dweud: “Dim ond ffoaduriaid o Effraim ydych chi, chi bobl Gilead yn Effraim a Manasse.”  Cipiodd Gilead rydau’r Iorddonen o flaen Effraim; a phan oedd dynion Effraim yn ceisio dianc, bydden nhw’n dweud, “Gadewch imi groesi drosodd”; yna byddai dynion Gilead yn gofyn i bob un, “A wyt ti’n dod o Effraim?” Pan fyddai’n ateb, “Nac ydw!”  bydden nhw’n dweud wrtho, “Plîs dyweda Shibboleth.” Ond byddai’n dweud, “Sibboleth,” am nad oedd yn gallu ynganu’r gair yn gywir. Yna bydden nhw’n cael gafael arno ac yn ei ladd wrth rydau’r Iorddonen. Felly bu farw 42,000 o ddynion Effraim bryd hynny.  Gwnaeth Jefftha farnu Israel am chwe mlynedd, ac ar ôl hynny bu farw Jefftha o Gilead, a chafodd ei gladdu yn ei ddinas yn Gilead.  Ibsan o Fethlehem oedd yn barnu Israel ar ei ôl.  Roedd ganddo 30 mab a 30 merch. Anfonodd ei ferched i briodi dynion o deuluoedd eraill, a chymerodd 30 o ferched* o deuluoedd eraill i briodi ei feibion. Barnodd Israel am saith mlynedd. 10  Yna bu farw Ibsan a chafodd ei gladdu ym Methlehem. 11  Ar ei ôl ef, Elon o Sabulon oedd yn barnu Israel; gwnaeth hynny am ddeng mlynedd. 12  Yna bu farw Elon o Sabulon, a chafodd ei gladdu yn Ajalon yn nhiriogaeth Sabulon. 13  Ar ei ôl ef, Abdon fab Hilel o Pirathon oedd yn barnu Israel. 14  Roedd ganddo 40 mab a 30 o wyrion, ac roedd gan bob un ei asyn ei hun. Roedd yn barnu Israel am wyth mlynedd. 15  Yna bu farw Abdon fab Hilel o Pirathon a chafodd ei gladdu yn Pirathon yn nhiriogaeth Effraim ym mynydd yr Amaleciaid.

Troednodiadau

Neu efallai, “croesi drosodd i’r gogledd.”
Neu “rhoddais fy enaid yn fy llaw.”
Neu “o fenywod.”