Barnwyr 15:1-20

  • Samson yn dial ar y Philistiaid (1-20)

15  Beth amser wedyn, yn nyddiau’r cynhaeaf gwenith, aeth Samson i weld ei wraig, a daeth â gafr ifanc gydag ef. Dywedodd: “Rydw i eisiau mynd i mewn i weld fy ngwraig yn yr ystafell wely.” Ond wnaeth ei thad ddim gadael iddo fynd i mewn.  Dywedodd ei thad: “Roeddwn i’n meddwl, ‘Mae’n rhaid dy fod ti’n ei chasáu hi.’ Felly gwnes i ei rhoi i un o dy weision priodas. Onid ydy ei chwaer iau yn harddach na hi? Plîs cymera hi yn ei lle.”  Ond dywedodd Samson: “Y tro yma all y Philistiaid ddim rhoi’r bai arna i am achosi niwed iddyn nhw.”  Felly aeth Samson a dal 300 o lwynogod.* Yna cymerodd ffaglau, clymu’r llwynogod gynffon yn gynffon, a rhoi un ffagl rhwng pob pâr o gynffonnau.  Yna taniodd y ffaglau ac anfon y llwynogod allan i gaeau gwenith y Philistiaid. Rhoddodd bopeth ar dân, o’r gwenith oedd yn tyfu i’r ysgubau oedd wedi eu clymu, yn ogystal â’r gwinllannoedd a’r coed olewydd.  Gofynnodd y Philistiaid: “Pwy wnaeth hyn?” Cawson nhw wybod: “Samson wnaeth hyn, am fod ei dad-yng-nghyfraith, y dyn o Timna, wedi cymryd ei wraig a’i rhoi i un o’i weision priodas.” Gyda hynny aeth y Philistiaid i fyny a’i llosgi hi a’i thad â thân.  Yna dywedodd Samson wrthyn nhw: “Os mai dyma sut rydych chi’n ymddwyn, wna i ddim stopio nes imi ddial arnoch chi.”  Yna dyma’n eu taro nhw i lawr un ar ôl y llall,* a lladd nifer enfawr ohonyn nhw. Ac wedyn aeth i lawr ac aros mewn ogof yng nghraig Etam.  Yn hwyrach ymlaen daeth y Philistiaid i fyny a gwersylla yn Jwda ac roedden nhw’n crwydro o gwmpas Lehi yn barod i ymosod. 10  Yna dywedodd dynion Jwda: “Pam rydych chi wedi dod i fyny yn ein herbyn ni?” a dyma nhw’n ateb: “Rydyn ni wedi dod i fyny i gipio Samson, i wneud iddo ef yn union fel gwnaeth ef i ni.” 11  Felly aeth 3,000 o ddynion Jwda i lawr at yr ogof yng nghraig Etam a dweud wrth Samson: “Onid wyt ti’n gwybod bod y Philistiaid yn rheoli droston ni? Felly pam rwyt ti wedi gwneud hyn inni?” Dywedodd wrthyn nhw: “Gwnes i iddyn nhw fel roedden nhw wedi ei wneud i mi.” 12  Ond dywedon nhw wrtho: “Rydyn ni wedi dod i dy gipio di ac i dy roi di drosodd i’r Philistiaid.” Yna dywedodd Samson: “A wnewch chi addo imi na fyddwch chi’ch hunain yn ceisio fy lladd i?” 13  Yna dywedon nhw wrtho: “Byddwn ni ond yn dy glymu di ac yn dy roi di drosodd iddyn nhw, fyddwn ni ddim yn dy ladd di.” Felly dyma nhw’n ei glymu â dwy raff newydd ac yn dod ag ef yn ôl o’r graig. 14  Pan gyrhaeddodd ef Lehi, gwaeddodd y Philistiaid yn fuddugol wrth ei weld. Yna daeth ysbryd Jehofa arno a rhoi nerth iddo, a daeth y rhaffau ar ei freichiau fel edau lliain oedd wedi eu llosgi yn y tân, a dyma ei rwymau yn toddi oddi ar ei ddwylo. 15  Nawr daeth o hyd i asgwrn gên asyn;* estynnodd allan a gafael ynddo a’i ddefnyddio i ladd 1,000 o ddynion. 16  Yna dywedodd Samson: “Gydag asgwrn gên asyn—un pentwr, dau bentwr! Gydag asgwrn gên asyn gwnes i daro 1,000 o ddynion i lawr.” 17  Unwaith iddo orffen siarad, taflodd yr asgwrn gên i ffwrdd a galw’r lle yn Ramath-lehi.* 18  Yna daeth yn sychedig iawn, a galwodd ar Jehofa a dweud: “Ti roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i mi, dy was. Ond ydw i nawr am farw o syched a syrthio i ddwylo’r rhai sydd heb eu henwaedu?” 19  Felly dyma Duw yn agor pant oedd yn Lehi, a dyma ddŵr yn llifo allan ohono. Pan yfodd Samson ohono, daeth ei nerth* yn ôl a chafodd ei adfywio. Dyna pam rhoddodd yr enw En-haccore* arno, sydd yn Lehi hyd heddiw. 20  A gwnaeth ef farnu Israel yn nyddiau’r Philistiaid am 20 mlynedd.

Troednodiadau

Neu “o gadnoaid.”
Neu “gan bentyrru coesau ar ben cluniau.”
Hynny yw, asgwrn oedd heb fynd yn sych ac yn frau eto.
Sy’n golygu “Bryn yr Asgwrn Gên.”
Llyth., “ysbryd.”
Sy’n golygu “Ffynnon yr Un Sy’n Galw.”