Barnwyr 17:1-13
-
Eilunod Micha a’i offeiriad (1-13)
17 Roedd ’na ddyn yn ardal fynyddig Effraim o’r enw Micha.
2 Dywedodd wrth ei fam: “A wyt ti’n cofio’r 1,100 darn o arian gafodd eu cymryd oddi wrthot ti? Gwnes i dy glywed di’n melltithio’r un wnaeth eu cymryd nhw. Mae’r arian gyda fi. Fi yw’r un wnaeth ei gymryd.” Gyda hynny, dywedodd ei fam: “Gad i Jehofa fendithio fy mab!”
3 Felly gwnaeth ef roi’r 1,100 darn o arian yn ôl i’w fam, ond dywedodd ei fam wrtho: “Gwna i sancteiddio fy arian i Jehofa. Rydw i eisiau i ti ei ddefnyddio i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel i ti dy hun. Felly rydw i’n rhoi’r arian yn ôl i ti.”
4 Ar ôl iddo ddychwelyd yr arian i’w fam, cymerodd ei fam 200 darn o arian a’u rhoi i’r gof arian. Gwnaeth ef eilun wedi ei gerfio a delw o fetel, a chawson nhw eu rhoi yn nhŷ Micha.
5 Roedd gan y dyn hwn, Micha, dŷ o dduwiau, a gwnaeth ef effod a delwau teraffim* a phenodi un o’i feibion i wasanaethu fel offeiriad iddo.
6 Bryd hynny, doedd ’na ddim brenin yn Israel. Roedd pawb yn gwneud beth oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.
7 Nawr roedd ’na ddyn ifanc o Fethlehem yn Jwda oedd o deulu Jwda. Roedd yn Lefiad a oedd wedi bod yn byw yno am gyfnod.
8 Gwnaeth y dyn adael dinas Bethlehem yn Jwda i chwilio am rywle i fyw. Tra oedd ef ar ei daith, daeth i ardal fynyddig Effraim, at dŷ Micha.
9 Yna dywedodd Micha wrtho: “O le rwyt ti’n dod?” Atebodd: “Rydw i’n Lefiad o Fethlehem yn Jwda, ac rydw i ar y ffordd i chwilio am rywle i fyw.”
10 Felly dywedodd Micha wrtho: “Arhosa gyda fi a gwasanaethu fel tad* ac offeiriad imi. Gwna i roi deg darn o arian iti bob blwyddyn yn ogystal â’r dillad byddi di eu hangen a bwyd.” Ac aeth y Lefiad i mewn.
11 Cytunodd y Lefiad i aros gyda Micha, a daeth y dyn ifanc fel un o’i feibion.
12 Felly penododd Micha y Lefiad i wasanaethu fel offeiriad iddo, ac roedd yn byw yn nhŷ Micha.
13 Yna dywedodd Micha: “Nawr rydw i’n gwybod bydd Jehofa yn fy nhrin i’n dda, oherwydd mae fy offeiriad yn Lefiad.”