Barnwyr 18:1-31
18 Yn y dyddiau hynny, doedd ’na ddim brenin yn Israel. Ac yn y dyddiau hynny, roedd llwyth Dan yn edrych am diriogaeth i fyw ynddi, oherwydd tan hynny doedden nhw ddim wedi derbyn etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.
2 Anfonodd y Daniaid bum dyn o blith eu teulu, dynion call o Sora ac Estaol, i ysbïo’r wlad ac i edrych drwyddi. Dywedon nhw wrth y dynion: “Ewch, chwiliwch drwy’r wlad.” Pan ddaethon nhw at ardal fynyddig Effraim, at dŷ Micha, arhoson nhw yno dros nos.
3 Tra oedden nhw’n agos i dŷ Micha, gwnaethon nhw adnabod llais* y Lefiad ifanc, felly aethon nhw draw ato a gofyn: “Pwy ddaeth â ti yma? Beth rwyt ti’n ei wneud yn y lle yma? Beth sy’n dy gadw di yma?”
4 Dywedodd wrthyn nhw beth roedd Micha wedi ei wneud ar ei gyfer ac ychwanegu: “Gwnaeth ef fy nghyflogi i wasanaethu fel offeiriad iddo.”
5 Yna dywedon nhw wrtho: “Plîs gofynna i Dduw a fydd ein siwrnai yn llwyddiannus.”
6 Dywedodd yr offeiriad wrthyn nhw: “Ewch mewn heddwch. Bydd Jehofa gyda chi ar eich taith.”
7 Felly aeth y pum dyn yn eu blaenau a chyrraedd Lais. Gwelson nhw sut roedd y bobl ynddi yn dibynnu arnyn nhw eu hunain fel roedd y Sidoniaid. Roedden nhw’n teimlo’n saff a doedden nhw ddim yn poeni am unrhyw ymosodiad, a doedd neb yn y wlad yn ceisio eu gorchfygu nhw nac yn tarfu arnyn nhw. Roedden nhw’n bell i ffwrdd oddi wrth y Sidoniaid, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad â neb arall.
8 Pan aethon nhw yn ôl at eu brodyr yn Sora ac Estaol, gofynnodd eu brodyr wrthyn nhw: “Sut aeth hi?”
9 Atebon nhw: “Dewch inni fynd i fyny yn eu herbyn nhw, oherwydd rydyn ni wedi gweld bod y wlad yn dda iawn. Pam rydych chi’n dal yn ôl? Peidiwch ag oedi i fynd i mewn a meddiannu’r wlad.
10 Pan fyddwch chi’n cyrraedd, byddwch chi’n dod o hyd i bobl sy’n meddwl eu bod nhw’n hollol saff, ac mae’r wlad yn eang. Mae Duw wedi ei rhoi yn eich dwylo, gwlad heb brinder o unrhyw beth.”
11 Yna, dyma 600 o ddynion o deulu Dan oedd wedi eu harfogi ar gyfer brwydr yn gadael Sora ac Estaol.
12 Aethon nhw i fyny a gwersylla yn erbyn Ciriath-jearim yn Jwda. Dyna pam mae’r lle hwnnw, sydd i’r gorllewin o Ciriath-jearim, yn cael ei alw’n Mahane-dan* hyd heddiw.
13 Aethon nhw o fan ’na i ardal fynyddig Effraim a chyrraedd tŷ Micha.
14 Yna dywedodd y pum dyn oedd wedi mynd i ysbïo ar wlad Lais wrth eu brodyr: “A oeddech chi’n gwybod bod ’na effod, delwau teraffim,* eilun wedi ei gerfio, a delw o fetel yn y tai hyn? Meddyliwch am beth dylech chi ei wneud.”
15 Felly, dyma nhw’n stopio yno a chyrraedd tŷ’r Lefiad ifanc wrth dŷ Micha a gofyn sut roedd ef.
16 Yn y cyfamser, roedd y 600 o ddynion o lwyth Dan a oedd wedi eu harfogi ar gyfer brwydr, yn sefyll wrth borth y ddinas.
17 Aeth y pum dyn oedd wedi mynd i ysbïo’r wlad i mewn i dŷ Micha i gymryd yr eilun oedd wedi ei gerfio, yr effod, y delwau teraffim, a’r ddelw o fetel. (Roedd yr offeiriad yn sefyll wrth giât y ddinas gyda’r 600 o ddynion oedd wedi eu harfogi ar gyfer brwydr.)
18 Aethon nhw i mewn i dŷ Micha a chymryd yr eilun oedd wedi ei gerfio, yr effod, y delwau teraffim, a’r ddelw o fetel. Dywedodd yr offeiriad wrthyn nhw: “Beth rydych chi’n ei wneud?”
19 Ond dywedon nhw wrtho: “Paid â dweud gair. Rho dy law dros dy geg a thyrd gyda ni i fod yn dad* ac yn offeiriad i ni. Beth sy’n well—iti fod yn offeiriad i dŷ un dyn, neu yn offeiriad i lwyth a theulu yn Israel?”
20 Felly roedd yr offeiriad yn fodlon a chymerodd yr effod, y delwau teraffim, a’r eilun oedd wedi ei gerfio a gadael gyda’r bobl.
21 Yna dyma nhw’n troi i fynd ar eu ffordd gan roi’r plant, yr anifeiliaid, a’r pethau gwerthfawr ar y blaen.
22 Roedden nhw wedi mynd yn eithaf pell oddi wrth dŷ Micha pan ddaeth y dynion oedd yn byw yn y tai wrth ymyl tŷ Micha at ei gilydd a dal i fyny â’r Daniaid.
23 Pan wnaethon nhw weiddi ar y Daniaid, dyma nhw’n troi i’w hwynebu nhw a dweud wrth Micha: “Beth sy’n bod? Pam rydych chi wedi casglu at eich gilydd?”
24 Felly dywedodd: “Rydych chi wedi cymryd y duwiau a wnes i, a fy offeiriad hefyd. Beth sydd gen i ar ôl? Sut felly allwch chi ofyn imi, ‘Beth sy’n bod arnat ti?’”
25 Atebodd y Daniaid: “Paid â chodi dy lais yn ein herbyn ni; neu efallai bydd dynion gwyllt yn ymosod arnoch chi, ac yna byddet ti a dy deulu yn talu â’ch bywydau.”*
26 Felly aeth y Daniaid ar eu ffordd; a phan welodd Micha eu bod nhw’n gryfach nag oedd ef, trodd yn ôl am adref.
27 Ar ôl cymryd y duwiau roedd Micha wedi eu gwneud, yn ogystal â’i offeiriad, aethon nhw i Lais, at bobl oedd yn meddwl eu bod nhw’n saff. Dyma nhw’n eu taro nhw i lawr â’r cleddyf ac yn llosgi’r ddinas â thân.
28 Doedd ’na neb i achub y ddinas oherwydd roedd hi’n bell oddi wrth Sidon, yng ngwastatir y dyffryn* a oedd yn perthyn i Beth-rehob, a doedd gan y bobl ddim cysylltiad â neb arall. Yna, gwnaethon nhw ailadeiladu’r ddinas a setlo ynddi.
29 Ar ben hynny, dyma nhw’n enwi’r ddinas ar ôl eu tad, Dan, a gafodd ei eni i Israel. Ond Lais oedd hen enw’r ddinas.
30 Ar ôl hynny, gwnaeth pobl Dan gadw’r eilun oedd wedi ei gerfio er mwyn ei addoli, a daeth Jonathan fab Gersom, mab Moses, a’i feibion yn offeiriaid i lwyth Dan nes y diwrnod cafodd pobl y wlad eu halltudio.
31 A dyma nhw’n cadw’r eilun roedd Micha wedi ei gerfio yno er mwyn ei addoli, ac arhosodd yno yr holl ddyddiau roedd tŷ y gwir Dduw yn Seilo.
Troednodiadau
^ Neu “acen.”
^ Sy’n golygu “Gwersyll Dan.”
^ Neu “duwiau teulu; eilunod.”
^ Neu “yn gynghorwr.”
^ Neu “eneidiau.”
^ Neu “yn y gwastatir isel.”