Barnwyr 19:1-30

  • Trosedd rhyw y Benjaminiaid yn Gibea (1-30)

19  Yn y dyddiau hynny pan doedd ’na ddim brenin yn Israel, roedd ’na Lefiad yn byw mewn rhan anghysbell o ardal fynyddig Effraim, a chymerodd wraig arall* iddo’i hun o Fethlehem yn Jwda.  Ond roedd hi’n anffyddlon iddo, a gwnaeth hi ei adael i fynd i dŷ ei thad ym Methlehem yn Jwda. Arhosodd hi yno am bedwar mis.  Yna, aeth ei gŵr ar ei hôl hi i geisio ei pherswadio i ddod yn ôl; aeth â’i was a dau asyn gydag ef. Felly daeth hi ag ef i mewn i dŷ ei thad. Pan welodd ei thad ef roedd yn hapus i’w gyfarfod.  Felly dyma ei dad-yng-nghyfraith, tad y ddynes* ifanc, yn ei berswadio i aros yno am dri diwrnod; ac roedden nhw’n bwyta ac yn yfed, ac arhosodd yno dros nos.  Ar y pedwerydd diwrnod, pan godon nhw’n gynnar yn y bore i fynd, dywedodd tad y ddynes* ifanc wrth ei fab-yng-nghyfraith: “Bwyta rywbeth er mwyn iti gael nerth, ac yna cewch chi fynd.”  Felly eisteddon nhw i lawr, a gwnaeth y ddau ohonyn nhw fwyta ac yfed gyda’i gilydd; ar ôl hynny, dywedodd tad y ddynes* ifanc wrth y dyn: “Plîs, arhosa dros nos a mwynha dy hun.”  Pan gododd y dyn i adael, roedd ei dad-yng-nghyfraith yn erfyn arno, felly arhosodd dros nos eto.  Pan gododd yn gynnar i adael ar y pumed diwrnod, dywedodd tad y ddynes* ifanc: “Plîs, bwyta rywbeth i roi nerth iti.” Felly cymeron nhw eu hamser a bwyta nes ei bod hi’n hwyr yn y dydd.  Pan gododd y dyn i fynd gyda’i wraig arall* a’i was, dywedodd ei dad-yng-nghyfraith wrtho: “Edrycha! Mae hi bron â nosi. Plîs arhoswch dros nos. Mae’r diwrnod yn dod i ben. Arhosa yma dros nos a mwynha dy hun. Yfory cewch chi godi yn gynnar ar gyfer eich taith a mynd yn ôl adref.” 10  Ond, doedd y dyn ddim eisiau aros noson arall, felly cododd a theithio mor bell â Jebus, hynny yw, Jerwsalem. Roedd y ddau asyn, ei wraig arall,* a’i was gydag ef. 11  Pan oedden nhw’n agos i Jebus, roedd golau’r dydd bron â mynd. Felly dywedodd y gwas wrth ei feistr: “A ddylen ni stopio yn ninas y Jebusiaid ac aros yno dros nos?” 12  Ond dywedodd ei feistr wrtho: “Ddylen ni ddim stopio mewn dinas estroniaid sydd ddim yn Israeliaid. Awn ni ymlaen mor bell â Gibea.” 13  Yna dywedodd wrth ei was: “Dewch inni geisio cyrraedd un o’r llefydd yna; gwnawn ni aros dros nos naill ai yn Gibea neu yn Rama.” 14  Felly aethon nhw ar eu ffordd a dechreuodd yr haul fachlud pan oedden nhw’n agos i Gibea, sy’n perthyn i Benjamin. 15  Felly gwnaethon nhw stopio yno a mynd i mewn i Gibea i aros dros nos. Unwaith roedden nhw y tu mewn i’r ddinas eisteddon nhw i lawr yn y sgwâr, ond wnaeth neb eu cymryd nhw i mewn i’w dŷ i aros dros nos. 16  O’r diwedd, y noson honno, daeth hen ddyn yn ôl o’i waith yn y cae. Roedd yn dod o ardal fynyddig Effraim, ac roedd yn byw am gyfnod yn Gibea; ond roedd pobl y ddinas o lwyth Benjamin. 17  Pan edrychodd i fyny a gweld y teithiwr yn sgwâr y ddinas, dywedodd yr hen ddyn: “Ble rwyt ti’n mynd, ac o le rwyt ti’n dod?” 18  Atebodd ef: “Rydyn ni’n teithio o Fethlehem yn Jwda i ran anghysbell o ardal fynyddig Effraim; rydw i’n dod o fan ’na. Es i i Fethlehem yn Jwda ac rydw i’n mynd i dŷ Jehofa,* ond does neb yn fy nghymryd i mewn i’w dŷ. 19  Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd ar gyfer ein hasynnod, a bara a gwin ar fy nghyfer i, y ddynes,* a’n gwas. Mae gynnon ni bopeth rydyn ni ei angen.” 20  Ond dywedodd yr hen ddyn: “Heddwch ichi! Gadewch imi ofalu am unrhyw beth rydych chi ei angen. Ond peidiwch ag aros dros nos yn y sgwâr.” 21  Yna daeth â nhw i mewn i’w dŷ a bwydo’r asynnod. Yna gwnaethon nhw olchi eu traed a bwyta ac yfed. 22  Tra oedden nhw’n mwynhau eu hunain, dyma ddynion ffiaidd o’r ddinas yn amgylchynu’r tŷ ac yn curo ar y drws yn dweud ac yn dweud wrth yr hen ddyn oedd biau’r tŷ: “Tyrd â’r dyn ddaeth i mewn i dy dŷ allan inni gael rhyw gydag ef.” 23  Gyda hynny, aeth perchennog y tŷ allan a dweud wrthyn nhw: “Na, fy mrodyr, peidiwch â gwneud rhywbeth mor ofnadwy o ddrwg. Plîs, mae’r dyn hwn wedi dod i aros yn fy nhŷ. Peidiwch â gwneud rhywbeth mor gywilyddus. 24  Dyma fy merch sy’n wyryf, a gwraig arall* y dyn yma. Gadewch imi ddod â nhw allan a chewch chi eu cam-drin nhw os mai dyna rydych chi’n benderfynol o’i wneud. Ond rhaid ichi beidio â gwneud rhywbeth mor gywilyddus i’r dyn hwn.” 25  Ond gwrthododd y dynion wrando arno, felly dyma’r Lefiad yn cael gafael ar ei wraig arall* ac yn dod â hi allan atyn nhw. Gwnaethon nhw ei threisio hi a’i cham-drin hi drwy’r nos tan y bore. Yna gwnaethon nhw ei hanfon hi i ffwrdd ar doriad y wawr. 26  Yn fuan yn y bore, daeth y ddynes* yn ôl a disgyn wrth fynedfa’r tŷ lle roedd ei meistr yn aros, a gorwedd yno nes bod yr haul wedi codi. 27  Pan gododd ei meistr yn y bore ac agor drysau’r tŷ i fynd allan a pharhau ar ei daith, gwelodd y ddynes,* ei wraig arall,* yn gorwedd wrth fynedfa’r tŷ gyda’i dwylo ar y trothwy. 28  Felly dywedodd wrthi: “Cod; dewch inni fynd.” Ond doedd ’na ddim ateb. Felly dyma’r dyn yn ei rhoi hi ar gefn ei asyn a mynd am adref. 29  Pan gyrhaeddodd ei dŷ, cymerodd gyllell a’i wraig arall,* a’i thorri hi i mewn i 12 darn ac anfon un darn at bob llwyth yn Israel. 30  Dywedodd pawb a’i gwelodd: “Dydy’r fath beth erioed wedi digwydd nac wedi cael ei weld o’r diwrnod daeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft hyd heddiw. Meddyliwch am hyn a’i drafod, a dywedwch sut rydych chi’n teimlo am y peth.”

Troednodiadau

Neu “a chymerodd wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “gyda’i wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “ei wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu efallai, “rydw i’n gwasanaethu yn nhŷ Jehofa.”
Neu “y fenyw.”
Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “ei wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “ei wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “a’i wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.