Barnwyr 2:1-23

  • Rhybudd oddi wrth angel Jehofa (1-5)

  • Josua yn marw (6-10)

  • Barnwyr yn cael eu codi i achub Israel (11-23)

2  Yna, aeth angel Jehofa i fyny o Gilgal i Bochim a dweud: “Des i â chi i fyny allan o’r Aifft i mewn i’r wlad gwnes i ei haddo ar lw i’ch cyndadau. Ar ben hynny, dywedais, ‘Wna i byth dorri fy nghyfamod â chi.  A chithau, ni ddylech chi wneud cyfamod â phobl y wlad hon, a dylech chi dynnu eu hallorau i lawr.’ Ond rydych chi heb ufuddhau i fy llais. Pam na wnaethoch chi hynny?  Dyna pam dywedais i hefyd, ‘Wna i ddim eu gyrru nhw allan o’ch blaenau chi, a byddan nhw’n eich dal chi mewn magl, a bydd eu duwiau yn eich denu chi i ffwrdd.’”  Pan ddywedodd angel Jehofa y geiriau hyn wrth yr Israeliaid i gyd, dechreuodd y bobl wylo’n uchel.  Felly, dyma nhw’n galw’r lle hwnnw yn Bochim,* a gwnaethon nhw aberthu i Jehofa yno.  Pan anfonodd Josua y bobl i ffwrdd, aeth pob un o’r Israeliaid i’w etifeddiaeth er mwyn meddiannu’r wlad.  Parhaodd y bobl i wasanaethu Jehofa holl ddyddiau Josua a holl ddyddiau’r henuriaid wnaeth fyw yn hirach na Josua, ac a oedd wedi gweld yr holl bethau gwych a wnaeth Jehofa dros Israel.  Yna bu farw Josua fab Nun, gwas Jehofa, yn 110 mlwydd oed.  Felly dyma nhw’n ei gladdu yn nhiriogaeth ei etifeddiaeth yn Timnath-heres, yn ardal fynyddig Effraim, i’r gogledd o Fynydd Gaas. 10  Cafodd pawb yn y genhedlaeth honno eu casglu at eu cyndadau,* a chododd cenhedlaeth arall ar eu holau doedd ddim yn adnabod Jehofa, nac yn gwybod am beth roedd ef wedi ei wneud dros Israel. 11  Felly, gwnaeth yr Israeliaid beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa a gwasanaethu* delwau o Baal. 12  Gwnaethon nhw gefnu ar Jehofa, Duw eu tadau, a ddaeth â nhw allan o’r Aifft. A dilynon nhw dduwiau eraill, duwiau’r bobl oedd o’u cwmpas, a gwnaethon nhw ymgrymu iddyn nhw a digio Jehofa. 13  Cefnon nhw ar Jehofa a gwasanaethu Baal a delwau Astaroth. 14  Gyda hynny, gwylltiodd Jehofa yn lân â’r Israeliaid, felly gadawodd i’w gelynion eu concro nhw a dwyn eu heiddo. Gwnaeth ef eu gwerthu nhw i ddwylo’r gelynion o’u cwmpas, a doedden nhw ddim bellach yn gallu dal eu tir yn erbyn eu gelynion. 15  Ble bynnag roedden nhw’n mynd, roedd llaw Jehofa yn eu herbyn nhw, yn dod â thrychineb arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud, ac yn union fel roedd Jehofa wedi addo iddyn nhw ar lw, ac roedden nhw’n dioddef yn ofnadwy. 16  Felly, cododd Jehofa farnwyr er mwyn eu hachub nhw o law eu gelynion. 17  Ond gwrthodon nhw wrando hyd yn oed ar y barnwyr, ac roedden nhw’n eu puteinio eu hunain i dduwiau eraill ac yn ymgrymu iddyn nhw. Buan iawn y gwnaethon nhw grwydro oddi ar y ffordd roedd eu cyndadau wedi cerdded arni, y rhai a oedd wedi ufuddhau i orchmynion Jehofa. Doedden nhw ddim fel eu cyndadau. 18  Bryd bynnag roedd Jehofa yn codi barnwr iddyn nhw, byddai Jehofa gyda’r barnwr ac yn achub yr Israeliaid o law eu gelynion holl ddyddiau’r barnwr; am fod Jehofa yn teimlo trueni drostyn nhw* o’u clywed nhw’n griddfan oherwydd y rhai oedd yn eu gormesu nhw, a’r rhai oedd yn eu cam-drin. 19  Ond pan oedd y barnwr yn marw, roedden nhw unwaith eto yn ymddwyn yn waeth na’u tadau drwy ddilyn duwiau eraill, eu gwasanaethu nhw, ac ymgrymu iddyn nhw. Doedden nhw ddim yn cefnu ar eu harferion nac ar eu hymddygiad ystyfnig. 20  O’r diwedd, gwylltiodd Jehofa yn lân â’r Israeliaid, a dywedodd: “Am fod y genedl hon wedi llwyr dorri’r cyfamod wnes i â’u cyndadau, ac am nad ydyn nhw wedi ufuddhau imi, 21  dydw i ddim yn mynd i yrru allan o’u blaenau nhw hyd yn oed un o’r cenhedloedd a adawodd Josua ar ôl pan fu farw. 22  Bydd hyn yn brawf i weld a fydd Israel yn cadw at ffordd Jehofa drwy gerdded ynddi fel gwnaeth eu tadau.” 23  Felly, caniataodd Jehofa i’r cenhedloedd hyn aros. Wnaeth ef ddim eu gyrru nhw allan yn gyflym, a wnaeth ef ddim eu rhoi nhw yn llaw Josua.

Troednodiadau

Sy’n golygu “Rhai Sy’n Wylo.”
Mae hyn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.
Neu “ac addoli.”
Neu “yn difaru.”