Barnwyr 20:1-48

  • Rhyfel yn erbyn y Benjaminiaid (1-48)

20  O ganlyniad, daeth yr holl Israeliaid allan o’u dinasoedd, o Dan i Beer-seba ac o wlad Gilead, a dod at ei gilydd yn unedig o flaen Jehofa ym Mispa.  Felly cymerodd penaethiaid y bobl a holl lwythau Israel eu llefydd yng nghynulleidfa pobl Dduw—400,000 o filwyr wedi eu harfogi â chleddyfau.  Clywodd llwyth Benjamin fod dynion Israel wedi mynd i fyny i Mispa. Yna dywedodd dynion Israel: “Dywedwch wrthon ni, sut digwyddodd y peth ofnadwy hwn?”  Gyda hynny atebodd y Lefiad, gŵr y ddynes* a gafodd ei llofruddio: “Des i i Gibea yn Benjamin gyda fy ngwraig arall* i aros dros nos.  A chododd pobl Gibea yn fy erbyn i ac amgylchynu’r tŷ yn ystod y nos. Roedden nhw’n bwriadu fy lladd i, ond gwnaethon nhw dreisio fy ngwraig arall* yn fy lle i, a gwnaeth hi farw.  Felly cymerais gorff fy ngwraig arall* a’i dorri i fyny ac anfon y darnau i bob un o diriogaethau Israel, am eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth ofnadwy o ddrwg a chywilyddus yn Israel.  Nawr chi bobl Israel i gyd, trafodwch y peth a phenderfynu beth rydych chi am ei wneud.”  Yna cododd y bobl i gyd yn unedig a dweud: “Ni fydd yr un ohonon ni yn mynd yn ôl i’w babell na’i dŷ.  Nawr dyma beth byddwn ni’n ei wneud i Gibea: Byddwn ni’n taflu coelbren ac yn mynd i fyny yn ei herbyn. 10  Byddwn ni’n cymryd 10 dyn allan o bob 100 o holl lwythau Israel, a 100 allan o bob 1,000 a 1,000 allan o bob 10,000 i gasglu bwyd ar gyfer y fyddin, er mwyn iddyn nhw allu gweithredu yn erbyn Gibea yn Benjamin, o ystyried y peth cywilyddus wnaethon nhw yn Israel.” 11  Felly daeth holl ddynion Israel at ei gilydd yn unedig* yn erbyn y ddinas. 12  Yna anfonodd llwythau Israel ddynion at holl ddynion llwyth Benjamin, gan ddweud: “Beth ydy’r peth ofnadwy hwn sydd wedi digwydd yn eich plith? 13  Nawr rhowch y dynion ffiaidd o Gibea inni, er mwyn inni eu lladd nhw a chael gwared ar yr hyn sy’n ddrwg o Israel.” Ond gwrthododd y Benjaminiaid wrando ar eu brodyr yr Israeliaid. 14  Yna daeth y Benjaminiaid allan o’r dinasoedd a dod at ei gilydd yn Gibea i fynd i frwydro yn erbyn dynion Israel. 15  Y diwrnod hwnnw galwodd y Benjaminiaid 26,000 o ddynion a oedd wedi eu harfogi â chleddyfau allan o’u dinasoedd, yn ogystal â’r 700 o ddynion oedd wedi eu dewis o bobl Gibea. 16  Yn y fyddin hon roedd ’na 700 o filwyr medrus iawn a oedd yn llawchwith. Roedd pob un ohonyn nhw yn gallu taflu carreg* a chyrraedd targed o fewn trwch blewyn heb fethu. 17  Galwodd yr Israeliaid ar wahân i Benjamin 400,000 o ddynion wedi eu harfogi â chleddyfau, ac roedd pob un yn filwr profiadol. 18  Dyma nhw’n codi ac yn mynd i fyny i Fethel i ofyn i Dduw am arweiniad. Yna dywedodd pobl Israel: “Pwy ohonon ni ddylai arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” Atebodd Jehofa: “Jwda sydd i gymryd y blaen.” 19  Ar ôl hynny cododd yr Israeliaid yn y bore a gwersylla yn erbyn Gibea. 20  Nawr aeth dynion Israel allan i frwydro yn erbyn Benjamin; gwnaethon nhw eu trefnu eu hunain yn barod i ryfela yn eu herbyn wrth Gibea. 21  Felly daeth y Benjaminiaid allan o Gibea a tharo 22,000 o ddynion Israel i lawr ar y diwrnod hwnnw. 22  Ond, dangosodd byddin Israel ddewrder a’u trefnu eu hunain yn barod i frwydro unwaith eto yn yr un lle ag ar y diwrnod cyntaf. 23  Yna aeth yr Israeliaid i fyny ac wylo o flaen Jehofa nes iddi nosi, a gofyn i Jehofa: “A ddylen ni fynd i frwydro yn erbyn ein brodyr, pobl Benjamin, unwaith eto?” Atebodd Jehofa: “Ewch i fyny yn eu herbyn nhw.” 24  Felly ar yr ail ddiwrnod aeth yr Israeliaid allan yn erbyn y Benjaminiaid. 25  Yn eu tro daeth pobl Benjamin allan o Gibea i’w cyfarfod nhw ar yr ail ddiwrnod a tharo 18,000 o Israeliaid eraill i lawr, pob un ohonyn nhw wedi ei arfogi â chleddyf. 26  Gyda hynny aeth holl ddynion Israel i fyny i Fethel. Gwnaethon nhw wylo ac eistedd yno o flaen Jehofa, ac ymprydio ar y diwrnod hwnnw nes iddi nosi, a chynnig offrymau llosg ac offrymau heddwch o flaen Jehofa. 27  Ar ôl hynny gofynnodd dynion Israel i Jehofa am ei arweiniad, oherwydd dyna lle roedd arch cyfamod y gwir Dduw yn y dyddiau hynny. 28  Nawr roedd Phineas fab Eleasar, mab Aaron, yn gwasanaethu fel offeiriad o flaen yr Arch yn y dyddiau hynny. Gofynnon nhw: “A ddylen ni fynd allan unwaith eto i frwydro yn erbyn ein brodyr, dynion Benjamin, neu a ddylen ni stopio?” Atebodd Jehofa: “Ewch i fyny, oherwydd yfory bydda i’n eu rhoi nhw yn eich dwylo chi.” 29  Yna gosododd Israel ddynion o amgylch Gibea yn barod i ymosod. 30  Aeth yr Israeliaid i fyny yn erbyn y Benjaminiaid ar y trydydd diwrnod, a’u trefnu eu hunain yn barod i ymosod ar Gibea fel gwnaethon nhw ar yr adegau eraill. 31  Pan aeth y Benjaminiaid allan i gyfarfod y fyddin, cawson nhw eu denu oddi wrth y ddinas. Yna, fel ar yr adegau eraill, dechreuon nhw ymosod ar rai o’r dynion ar y ffyrdd a’u lladd (roedd un o’r ffyrdd hynny yn mynd i fyny i Fethel a’r llall i Gibea) gan adael tua 30 o ddynion Israel yn farw yn y caeau agored. 32  Felly dywedodd y Benjaminiaid: “Rydyn ni’n eu trechu nhw yr un fath ag o’r blaen.” Ond dywedodd yr Israeliaid: “Byddwn ni’n tynnu yn ôl ac yn eu denu nhw yn ôl o’r ddinas i’r ffyrdd.” 33  Felly cododd holl ddynion Israel o le roedden nhw a’u trefnu eu hunain yn barod i frwydro yn Baal-tamar, tra bod yr Israeliaid eraill yn rhuthro allan o le roedden nhw wedi bod yn cuddio yn ardal Gibea. 34  Felly daeth 10,000 o filwyr medrus iawn o Israel gyfan o flaen Gibea, ac roedd y frwydr yn un ffyrnig. Ond doedd y Benjaminiaid ddim yn gwybod bod trychineb ar fin dod arnyn nhw. 35  Trechodd Jehofa y Benjaminiaid o flaen Israel, ac ar y diwrnod hwnnw gwnaeth yr Israeliaid daro 25,100 o ddynion Benjamin i lawr, pob un ohonyn nhw wedi ei arfogi â chleddyf. 36  Ond, wrth weld dynion Israel yn cilio yn ôl, roedd y Benjaminiaid yn meddwl eu bod nhw wedi eu trechu, ond mewn gwirionedd roedd yr Israeliaid yn cilio yn ôl am fod ganddyn nhw hyder yn y rhai oedd yn cuddio yn barod i ymosod ar Gibea. 37  Rhuthrodd y milwyr cudd tuag at Gibea. Yna dyma nhw’n gwasgaru drwy’r ddinas ac yn taro’r ddinas gyfan â’r cleddyf. 38  Nawr roedd dynion Israel wedi trefnu y byddai’r milwyr hynny yn gwneud i fwg godi o’r ddinas fel arwydd. 39  Pan giliodd yr Israeliaid yn ôl yn y frwydr, dechreuodd dynion Benjamin ymosod ar ddynion Israel a lladd tua 30 ohonyn nhw, a dywedon nhw: “Yn amlwg, rydyn ni am eu trechu nhw unwaith eto fel yn y frwydr ddiwethaf.” 40  Ond cododd colofn o fwg o’r ddinas fel arwydd. Pan drodd dynion Benjamin i edrych, gwelson nhw’r ddinas gyfan yn llosgi a’r fflamau yn ymestyn tua’r nef. 41  Yna trodd dynion Israel ar eu sodlau a dechrau ymosod, a suddodd calonnau dynion Benjamin, oherwydd roedden nhw’n gweld bod trychineb wedi dod arnyn nhw. 42  Felly dyma nhw’n cilio yn ôl oddi wrth ddynion Israel tuag at yr anialwch, ond dyma’r frwydr yn eu dilyn nhw; dechreuodd y dynion oedd yn dod allan o’r dinasoedd eu taro nhw i lawr hefyd. 43  Aethon nhw ar ôl y Benjaminiaid yn ddi-baid o bob cyfeiriad. Gwnaethon nhw eu trechu nhw o flaen Gibea i gyfeiriad y dwyrain. 44  Yn y pen draw cafodd 18,000 o ddynion Benjamin eu lladd, pob un yn filwr cryf. 45  Trodd dynion Benjamin yn eu holau a ffoi i’r anialwch i graig Rimmon, a lladdodd yr Israeliaid 5,000 ohonyn nhw ar y ffyrdd, a pharhau i fynd ar eu holau mor bell â Gidom; gan ladd 2,000 arall. 46  Ar y cyfan cafodd 25,000 o ddynion Benjamin oedd wedi eu harfogi â chleddyfau eu lladd ar y diwrnod hwnnw, pob un yn filwr cryf. 47  Ond ciliodd 600 yn ôl i graig Rimmon yn yr anialwch, ac arhoson nhw yno am bedwar mis. 48  A trodd dynion Israel yn eu holau i ymosod ar weddill y Benjaminiaid a tharo pob dinas arall â’r cleddyf, y dynion a’r anifeiliaid, popeth oedd ar ôl. Hefyd, gwnaethon nhw roi pob dinas daethon nhw ar ei thraws ar dân.

Troednodiadau

Neu “y fenyw.”
Neu “fy ngwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “fy ngwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “fy ngwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “yn unedig fel cynghreiriaid.”
Hynny yw, gan ddefnyddio ffon dafl.