Barnwyr 21:1-25

  • Llwyth Benjamin yn cael ei achub (1-25)

21  Nawr roedd dynion Israel wedi tyngu’r llw hwn ym Mispa: “Ni fydd yr un ohonon ni yn rhoi ei ferch yn wraig i ddyn o Benjamin.”  O ganlyniad, daeth y bobl i Fethel ac eistedd yno o flaen y gwir Dduw nes iddi nosi, gan weiddi ac wylo’n chwerw.  Ac roedden nhw’n dweud: “O Jehofa, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd yn Israel? Pam dylai Israel golli un o’u llwythau heddiw?”  Y diwrnod wedyn cododd y bobl yn gynnar ac adeiladu allor yno i gynnig offrymau llosg ac offrymau heddwch.  Yna dywedodd pobl Israel: “Pa un o lwythau Israel wnaeth ddim mynd o flaen Jehofa pan oedden ni ym Mispa?” oherwydd roedden nhw wedi tyngu llw bod unrhyw un wnaeth ddim mynd o flaen Jehofa ym Mispa yn sicr o gael ei ladd.  Felly roedd pobl Israel yn teimlo’n drist dros beth ddigwyddodd i Benjamin eu brawd. A dywedon nhw: “Heddiw mae un llwyth wedi cael ei dorri i ffwrdd oddi wrth Israel.  Sut gallwn ni roi gwragedd i’r rhai sydd ar ôl, nawr ein bod ni wedi addo yn enw Jehofa na fyddwn ni’n rhoi unrhyw un o’n merched yn wragedd iddyn nhw?”  Gofynnon nhw: “Pwy o blith llwythau Israel wnaeth ddim dod i fyny at Jehofa ym Mispa?” Gwnaethon nhw ddarganfod bod neb o Jabes-gilead wedi dod i mewn i’r gwersyll lle roedd y bobl wedi casglu.  Ar ôl cyfri’r bobl, gwelson nhw fod neb o Jabes-gilead yno. 10  Felly anfonodd pobl Israel 12,000 o’u dynion cryfaf yno, a gorchymyn iddyn nhw: “Ewch a tharo pobl Jabes-gilead i lawr â’r cleddyf, hyd yn oed y merched* a’r plant. 11  Dyma dylech chi ei wneud: Dylech chi ddinistrio pob dyn yn llwyr yn ogystal â phob dynes* sydd wedi cysgu gyda dyn.” 12  Ymhlith pobl Jabes-gilead, daethon nhw o hyd i 400 o ferched a oedd yn wyryfon, ac a oedd erioed wedi cysgu gyda dyn. Felly daethon nhw â’r merched i’r gwersyll yn Seilo, oedd yng ngwlad Canaan. 13  Yna anfonodd holl bobl Israel neges at y Benjaminiaid ar graig Rimmon a chynnig heddwch iddyn nhw. 14  Felly daeth y Benjaminiaid yn ôl i’w tir a dyma bobl Israel yn rhoi iddyn nhw y merched* o Jabes-gilead roedden nhw wedi eu cadw’n fyw, ond doedd ’na ddim digon ohonyn nhw. 15  Ac roedd y bobl yn teimlo’n drist dros beth ddigwyddodd i Benjamin oherwydd roedd Jehofa wedi ei wahanu oddi wrth lwythau eraill Israel. 16  Dywedodd henuriaid Israel: “Sut gallwn ni roi gwragedd i’r dynion sydd ar ôl, gan fod holl ferched* Benjamin wedi cael eu lladd?” 17  Atebon nhw: “Dylai’r rhai o Benjamin wnaeth oroesi gael etifeddiaeth o hyd, fel na fydd un o lwythau Israel yn cael ei chwalu. 18  Ond allwn ni ddim rhoi ein merched ni iddyn nhw yn wragedd, oherwydd mae pobl Israel wedi addo ar lw: ‘Melltith ar yr un sy’n rhoi gwraig i Benjamin.’” 19  Yna dywedon nhw: “Edrycha! Mae ’na ŵyl i Jehofa bob blwyddyn yn Seilo, sydd rhwng Bethel a Lebona ac i’r dwyrain o’r ffordd sy’n mynd i fyny o Fethel at Sechem.” 20  Felly gwnaethon nhw orchymyn i ddynion Benjamin: “Ewch a chuddiwch yn y gwinllannoedd. 21  A phan ydych chi’n gweld merched* ifanc Seilo yn dod allan i ddawnsio, dylai pob un ohonoch chi ddod allan o’r gwinllannoedd a chipio gwraig o blith merched* ifanc Seilo, ac yna dylech chi fynd yn ôl i wlad Benjamin. 22  Ac os bydd eu tadau neu eu brodyr yn dod aton ni i gwyno, gwnawn ni ddweud wrthyn nhw, ‘Plîs gwnewch ffafr â ni er lles dynion Benjamin, oherwydd roedden ni’n methu rhoi gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ryfel, a doeddech chi ddim yn gallu rhoi gwraig iddyn nhw heb fod yn euog.’” 23  Felly dyna wnaeth dynion Benjamin, a chymerodd pob un ohonyn nhw wraig o blith y merched* oedd yn dawnsio. Ar ôl hynny aethon nhw yn ôl at eu hetifeddiaeth ac ailadeiladu eu dinasoedd a setlo ynddyn nhw. 24  A gwnaeth yr Israeliaid wasgaru o fan ’na bryd hynny, pob un i’w lwyth a’i deulu ei hun, a gwnaethon nhw adael, aeth pob un i’w etifeddiaeth. 25  Yn y dyddiau hynny doedd ’na ddim brenin yn Israel. Roedd pawb yn gwneud beth oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “menyw.”
Neu “menywod.”
Neu “holl fenywod.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”