Barnwyr 6:1-40

  • Midian yn erlid Israel (1-10)

  • Angel yn sicrhau y Barnwr Gideon fod Duw yn ei gefnogi (11-24)

  • Gideon yn rhwygo allor Baal i lawr (25-32)

  • Ysbryd Duw yn dod ar Gideon (33-35)

  • Y prawf gwlân (36-40)

6  Ond unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, felly rhoddodd Jehofa nhw yn nwylo Midian am saith mlynedd.  Roedd Midian yn llawer cryfach nag Israel. Oherwydd Midian, cuddiodd yr Israeliaid yn y mynyddoedd, yn yr ogofâu, ac mewn mannau oedd yn anodd mynd atyn nhw.  Os oedd Israel yn hau had, byddai Midian ac Amalec a phobl y dwyrain yn ymosod arnyn nhw.  Bydden nhw’n gwersylla yn eu herbyn ac yn difetha cynnyrch y tir yr holl ffordd i Gasa, gan adael dim byd i Israel ei fwyta, na’r un ddafad na tharw nac asyn.  Bydden nhw’n dod i fyny gyda’u hanifeiliaid a’u pebyll mor niferus â’r locustiaid, a doedd hi ddim yn bosib eu rhifo nhw a’u camelod, a bydden nhw’n dod i mewn i’r wlad i’w dinistrio.  Felly daeth Israel yn dlawd iawn oherwydd Midian a galwodd yr Israeliaid ar Jehofa am help.  Pan alwodd yr Israeliaid ar Jehofa am help oherwydd Midian,  anfonodd Jehofa broffwyd at yr Israeliaid a ddywedodd wrthyn nhw: “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Des i â chi i fyny allan o’r Aifft ac felly des i â chi allan o wlad eich caethiwed.  Gwnes i eich achub chi o law yr Aifft, rhag pawb oedd yn eich gormesu, a’u gyrru nhw allan o’ch blaenau chi a rhoi eu tir ichi. 10  A dywedais wrthoch chi: “Fi yw Jehofa eich Duw. Rhaid ichi beidio ag ofni duwiau’r Amoriaid rydych chi’n byw yn eu tir nhw.” Ond wnaethoch chi ddim ufuddhau imi.’”* 11  Yn hwyrach ymlaen daeth angel Jehofa ac eistedd o dan y goeden fawr yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Roedd ei fab Gideon yn dyrnu gwenith yn y cafn gwasgu grawnwin er mwyn ei guddio oddi wrth Midian. 12  Ymddangosodd angel Jehofa iddo a dweud: “Mae Jehofa gyda ti, ti filwr dewr.” 13  Gyda hynny, dywedodd Gideon wrtho: “Esgusoda fi fy arglwydd, ond os ydy Jehofa gyda ni, pam mae hyn i gyd wedi digwydd inni? Ble mae ei holl weithredoedd rhyfeddol, y rhai gwnaeth ein tadau sôn amdanyn nhw gan ddweud, ‘Oni wnaeth Jehofa ddod â ni allan o’r Aifft?’ Nawr mae Jehofa wedi ein gadael ni ac wedi ein rhoi ni yn nwylo Midian.” 14  Dyma Jehofa yn ei wynebu a dweud: “Dos gyda’r nerth sydd gen ti, a byddi di’n achub Israel allan o law Midian. Onid y fi sy’n dy anfon di?” 15  Atebodd Gideon: “Esgusoda fi Jehofa. Sut galla i achub Israel? Edrycha! Fy nheulu* i yw’r lleiaf yn Manasse, a fi ydy’r lleiaf pwysig yn nhŷ fy nhad.” 16  Ond dywedodd Jehofa wrtho: “Oherwydd bydda i gyda ti, byddi di’n taro’r Midianiaid i lawr fel petasen nhw’n un dyn.” 17  Yna dywedodd Gideon wrtho: “Nawr, os ydw i wedi dy blesio, rho arwydd imi mai ti yw’r un sy’n siarad â mi. 18  Plîs arhosa yma nes imi ddod yn ôl gyda fy anrheg a’i gosod o dy flaen di.” Felly dywedodd: “Gwna i aros yma nes iti ddod yn ôl.” 19  Ac aeth Gideon i mewn a pharatoi gafr ifanc a defnyddio effa* o flawd i wneud bara croyw. Rhoddodd y cig yn y fasged, a’r cawl yn y crochan; yna daeth â nhw allan ato a’u gweini o dan y goeden fawr. 20  Nawr dywedodd angel y gwir Dduw wrtho: “Cymera’r cig a’r bara croyw a’u rhoi nhw ar y garreg fawr draw fan ’na, a thywallt* y cawl arni.” A dyna wnaeth ef. 21  Yna, gwnaeth angel Jehofa estyn y ffon oedd yn ei law a chyffwrdd y cig a’r bara croyw â blaen y ffon, a dyma dân yn fflachio o’r garreg ac yn llosgi’r cig a’r bara croyw yn gyfan gwbl. Yna diflannodd angel Jehofa o’i olwg. 22  Nawr sylweddolodd Gideon mai angel Jehofa oedd hwn. Ar unwaith dywedodd Gideon: “O na, Sofran Arglwydd Jehofa, oherwydd rydw i wedi gweld angel Jehofa wyneb yn wyneb!” 23  Ond dywedodd Jehofa wrtho: “Heddwch iti. Paid ag ofni; fyddi di ddim yn marw.” 24  Felly adeiladodd Gideon allor yno i Jehofa, ac mae’n cael ei galw’n Jehofa-shalom* hyd heddiw. Mae hi’n dal yn Offra yr Abiesriaid. 25  Y noson honno, dywedodd Jehofa wrtho: “Cymera’r tarw ifanc sy’n perthyn i dy dad, yr ail darw ifanc sy’n saith mlwydd oed, a rhwyga i lawr yr allor i Baal sy’n perthyn i dy dad, a thorra i lawr y polyn cysegredig sydd wrth ei hymyl. 26  Ar ôl iti adeiladu allor i Jehofa dy Dduw ar ben y mynydd diogel hwn gan osod cerrig mewn rhes, cymera’r ail darw ifanc a’i gynnig fel offrwm llosg ar y darnau o bren o’r polyn cysegredig gwnest ti ei dorri i lawr.” 27  Felly cymerodd Gideon ddeg dyn o blith ei weision a gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho. Ond roedd ganddo ormod o ofn o dŷ ei dad a dynion y ddinas i wneud hynny yn ystod y dydd, felly dyma’n ei wneud yn ystod y nos. 28  Pan gododd dynion y ddinas yn gynnar y bore wedyn, gwelson nhw fod allor Baal wedi cael ei thynnu i lawr, a bod y polyn cysegredig wrth ei hymyl wedi cael ei dorri i lawr, a bod yr ail darw ifanc wedi cael ei offrymu ar yr allor oedd wedi cael ei hadeiladu. 29  Gofynnon nhw i’w gilydd: “Pwy wnaeth hyn?” Ar ôl ymchwilio i’r mater, dywedon nhw: “Gideon fab Joas wnaeth hyn.” 30  Felly dywedodd dynion y ddinas wrth Joas: “Tyrd â dy fab allan er mwyn iddo farw, am ei fod wedi tynnu allor Baal i lawr ac wedi torri’r polyn cysegredig wrth ei hymyl i lawr.” 31  Yna dywedodd Joas wrth bawb oedd yn sefyll yn ei erbyn: “Oes rhaid i chi amddiffyn Baal? Oes rhaid i chi ei achub? Dylai pwy bynnag sy’n ei amddiffyn gael ei ladd y bore ’ma. Os ydy ef yn dduw, gadewch iddo amddiffyn ei hun, am fod rhywun wedi tynnu ei allor i lawr.” 32  Ac ar y diwrnod hwnnw, rhoddodd yr enw Jerwbbaal* ar Gideon, gan ddweud: “Gad i Baal amddiffyn ei hun, am fod rhywun wedi tynnu ei allor i lawr.” 33  Daeth holl fyddinoedd Midian ac Amalec a phobl y dwyrain at ei gilydd, a dyma nhw’n croesi drosodd* i Ddyffryn* Jesreel ac yn gwersylla yno. 34  Yna daeth ysbryd Jehofa ar Gideon a gwnaeth ef ganu’r corn, a daeth yr Abiesriaid i’w gefnogi. 35  Anfonodd negeswyr i weddill llwyth Manasse, a daethon nhw hefyd i’w gefnogi. Yn ogystal, anfonodd negeswyr i lwythau Aser, Sabulon, a Nafftali, a daethon nhw i fyny i’w gyfarfod. 36  Yna dywedodd Gideon wrth y gwir Dduw: “Os wyt ti’n mynd i fy nefnyddio i er mwyn achub Israel, yn union fel rwyt ti wedi addo, 37  yna rho arwydd imi. Rydw i am roi gwlân ar y llawr dyrnu, ac os bydd ’na wlith ar y gwlân yn unig tra bod yr holl dir o’i gwmpas yn sych, yna bydda i’n gwybod y byddi di’n fy nefnyddio i er mwyn achub Israel, yn union fel rwyt ti wedi addo.” 38  A dyna ddigwyddodd. Pan gododd yn gynnar y bore wedyn a gwasgu’r gwlân, daeth digon o wlith allan o’r gwlân i lenwi powlen fawr â dŵr. 39  Ond dywedodd Gideon wrth y gwir Dduw: “Paid â gwylltio â mi, ond gad imi ofyn unwaith eto. Plîs, gad imi wneud un prawf arall â’r gwlân. Plîs gad i’r gwlân yn unig fod yn sych tra bod ’na wlith ar y llawr i gyd.” 40  Felly dyna a wnaeth Duw y noson honno; dim ond y gwlân oedd yn sych, ac roedd ’na wlith ar y llawr i gyd.

Troednodiadau

Llyth., “gwrando ar fy llais.”
Neu “fy nghlan.” Llyth., “mil.”
Tua 22 L.
Neu “ac arllwys.”
Sy’n golygu “Jehofa Yw Heddwch.”
Sy’n golygu “Gad i Baal Amddiffyn ei Hun yn ôl y Gyfraith.”
Neu “croesi’r afon.”
Neu “i Wastatir Isel.”