Barnwyr 7:1-25

  • Gideon a’i 300 o ddynion (1-8)

  • Byddin Gideon yn trechu Midian (9-25)

    • “Cleddyf Jehofa a Gideon!” (20)

    • Dryswch yng ngwersyll y Midianiaid (21, 22)

7  Yna, gwnaeth Jerwbbaal, hynny yw Gideon, a’r holl bobl gydag ef godi yn gynnar a gwersylla wrth ffynnon Harod, tra oedd gwersyll Midian i’r gogledd ohono wrth fryn More yng ngwastatir y dyffryn.*  Yna dywedodd Jehofa wrth Gideon: “Mae ’na ormod o bobl gyda ti imi roi Midian yn dy law. Neu fel arall, efallai bydd Israel yn brolio amdano’i hun ac yn dweud wrtho i, ‘Fy llaw fy hun wnaeth fy achub i.’  Nawr plîs cyhoedda o flaen y bobl: ‘Pwy bynnag sy’n ofni ac sy’n dychryn, gad iddo fynd yn ôl adref.’” Felly rhoddodd Gideon brawf arnyn nhw. Gyda hynny, aeth 22,000 o’r bobl yn ôl adref ac arhosodd 10,000 ohonyn nhw.  Ond dywedodd Jehofa wrth Gideon: “Mae ’na ormod o bobl o hyd. Anfona nhw i lawr at y dŵr er mwyn imi roi prawf arnyn nhw iti yno. Pan fydda i’n dweud wrthot ti, ‘Bydd hwn yn mynd gyda ti,’ bydd ef yn mynd gyda ti, ond pan fydda i’n dweud wrthot ti, ‘Fydd hwn ddim yn mynd gyda ti,’ fydd ef ddim yn mynd.”  Felly cymerodd y bobl i lawr at y dŵr. Yna dywedodd Jehofa wrth Gideon: “Gwahana bawb sy’n llepian y dŵr â’i dafod, fel mae ci yn llepian, oddi wrth y rhai sy’n plygu i lawr ar eu pennau gliniau i yfed.”  Gwnaeth 300 o ddynion lepian y dŵr gan godi eu dwylo at eu cegau. Roedd gweddill y bobl yn plygu i lawr ar eu pennau gliniau i yfed.  Yna dywedodd Jehofa wrth Gideon: “Bydda i’n eich achub chi drwy’r 300 o ddynion wnaeth lepian y dŵr, a bydda i’n rhoi Midian yn dy law. Ond gad i’r holl bobl eraill fynd yn ôl adref.”  Felly ar ôl iddyn nhw gymryd y bwyd a’r cyrn oddi wrth y milwyr eraill, gwnaeth ef anfon gweddill dynion Israel yn ôl adref, a chadw dim ond y 300 o ddynion. Roedd gwersyll Midian oddi tano yng ngwastatir y dyffryn.  Yn ystod y noson honno, dywedodd Jehofa wrtho: “Cod, ac ymosod ar y gwersyll, oherwydd rydw i wedi ei roi yn dy ddwylo. 10  Ond os oes gen ti ofn mynd i ymosod, dos i lawr at y gwersyll gyda Pura dy was. 11  Gwranda ar beth maen nhw’n ei ddweud, ac wedyn bydd gen ti’r dewrder* i ymosod ar y gwersyll.” Gyda hynny, aeth ef a’i was Pura i lawr at ymyl gwersyll y fyddin. 12  Nawr roedd Midian, Amalec, a holl bobl y dwyrain yn gorchuddio gwastatir y dyffryn fel haid o locustiaid, ac roedd eu camelod yn ddi-rif, mor niferus â’r tywod ar lan y môr. 13  Pan gyrhaeddodd Gideon, roedd ’na ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei ffrind, a dywedodd ef: “Dyma’r freuddwyd ges i. Roedd ’na dorth gron o fara haidd yn rholio i mewn i wersyll Midian. Daeth at babell a’i tharo mor galed nes iddi syrthio. Ie, trodd y babell wyneb i waered, a syrthiodd y babell yn fflat.” 14  Gyda hynny, dywedodd ei ffrind: “Mae’n rhaid bod hynny’n cynrychioli cleddyf Gideon fab Joas, dyn o Israel. Mae Duw wedi rhoi Midian a’r gwersyll cyfan yn ei law.” 15  Cyn gynted ag y clywodd Gideon ef yn adrodd y freuddwyd a’i hystyr, plygodd i lawr i addoli Duw. Ar ôl hynny, aeth yn ôl i wersyll Israel a dywedodd: “Codwch, oherwydd mae Jehofa wedi rhoi gwersyll Midian yn eich dwylo.” 16  Yna, rhannodd y 300 o ddynion i mewn i dri grŵp, a rhoddodd gyrn iddyn nhw i gyd a llestri pridd* mawr gwag gyda ffaglau y tu mewn iddyn nhw. 17  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Gwyliwch fi, a gwnewch chi yn union beth rydw i’n ei wneud. Pan fydda i’n dod at ymyl y gwersyll, dylech chithau wneud yn union yr un fath â fi. 18  Pan fydda i’n chwythu’r corn, fi a phawb sydd gyda mi, dylech chithau hefyd chwythu’r cyrn o gwmpas y gwersyll cyfan a gweiddi, ‘I Jehofa ac i Gideon!’” 19  Daeth Gideon a’r 100 o ddynion oedd gydag ef at ymyl y gwersyll ar ddechrau ail wylfa’r nos,* yn syth ar ôl newid y gwylwyr. Gwnaethon nhw chwythu’r cyrn a thorri’r llestri pridd* mawr oedd yn eu dwylo yn ddarnau. 20  Felly gwnaeth y tri grŵp chwythu’r cyrn a thorri’r llestri pridd* mawr. Roedden nhw’n dal y ffaglau yn eu llaw chwith ac yn chwythu’r cyrn yn eu llaw dde ac yn gweiddi: “Cleddyf Jehofa a Gideon!” 21  Ar hyd yr amser, roedd pob dyn yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, a rhedodd byddin gyfan Midian i ffwrdd yn gweiddi wrth iddyn nhw ffoi. 22  Parhaodd y 300 i chwythu’r cyrn, a gwnaeth Jehofa droi cleddyf pob un yn erbyn y llall drwy gydol y gwersyll; a gwnaeth y fyddin ffoi mor bell â Beth-sitta, ymlaen at Serera, mor bell â ffiniau Abel-mehola wrth Tabbath. 23  A chafodd dynion Israel eu galw at ei gilydd o Nafftali, Aser, a Manasse i gyd, ac aethon nhw ar ôl Midian. 24  Anfonodd Gideon negeswyr i mewn i holl ardal fynyddig Effraim gan ddweud: “Ewch i lawr i ymosod ar Midian, ac ewch o’u blaenau nhw i Beth-bara wrth yr Iorddonen a gosod dynion wrth y rhydau.” Felly daeth dynion Effraim i gyd at ei gilydd a gwnaethon nhw gipio’r mannau croesi mor bell â Beth-bara a’r Iorddonen. 25  Gwnaethon nhw hefyd gipio dau dywysog Midian, Oreb a Seeb; lladdon nhw Oreb ar graig Oreb, a lladdon nhw Seeb wrth gafn* Seeb. Gwnaethon nhw barhau i fynd ar ôl Midian, a daethon nhw â phennau Oreb a Seeb at Gideon yn ardal yr Iorddonen.

Troednodiadau

Neu “yn y gwastatir isel.”
Llyth., “bydd dy ddwylo yn cryfhau.”
Neu “jariau.”
O tua 10:00 yh tan tua 2:00 yb.
Neu “jariau.”
Neu “jariau.”
Hynny yw, cafn ar gyfer gwasgu grawnwin.