At y Colosiaid 4:1-18
4 Chi feistri, dylech chi drin eich caethweision mewn ffordd gyfiawn a theg, gan wybod bod gynnoch chithau hefyd Feistr yn y nef.
2 Daliwch ati i weddïo, ac wrth ichi wneud hynny, arhoswch yn effro a byddwch yn ddiolchgar.
3 Ar yr un pryd, gweddïwch hefyd droston ni, fel bod Duw yn agor drws i’r gair er mwyn inni allu cyhoeddi’r gyfrinach gysegredig am y Crist, y gyfrinach rydw i yn y carchar drosti,
4 ac fel fy mod i’n gallu ei chyhoeddi mor eglur ag y dylwn i.
5 Parhewch i gerdded mewn doethineb wrth ddelio â’r rhai ar y tu allan, gan ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau.*
6 Gadewch i’ch geiriau fod yn garedig drwy’r amser, wedi eu blasu â halen, fel y byddwch chi’n gwybod sut y dylech chi ateb pob person.
7 Bydd Tychicus, fy mrawd annwyl a gweinidog ffyddlon a chyd-gaethwas yn yr Arglwydd, yn rhannu’r holl newyddion amdana i gyda chi.
8 Rydw i’n ei anfon atoch chi er mwyn ichi wybod sut rydyn ni ac er mwyn iddo gysuro eich calonnau.
9 Mae ef yn dod gydag Onesimus, fy mrawd ffyddlon ac annwyl, sy’n dod o’ch ardal chi; byddan nhw’n sôn wrthoch chi am yr holl bethau sy’n digwydd yma.
10 Mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn anfon ei gyfarchion, a Marc hefyd, cefnder Barnabas (yr un gwnaethon ni eich cyfarwyddo i’w groesawu os yw’n dod atoch chi),
11 ac Iesu sy’n cael ei alw’n Jwstus. Maen nhw ymhlith y rhai sydd wedi cael eu henwaedu. Dim ond y nhw sy’n gyd-weithwyr imi dros Deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi dod yn gysur mawr imi.
12 Mae Epaffras, caethwas i Grist Iesu sydd o’ch plith chi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Y mae’n wastad yn ymdrechu ar eich rhan yn ei weddïau, er mwyn ichi allu parhau i fod yn aeddfed a chredu’n llwyr yn holl ewyllys Duw.
13 Oherwydd rydw i’n tystiolaethu ei fod yn gwneud ymdrech fawr ar eich rhan chi ac ar ran y rhai yn Laodicea a Hierapolis.
14 Mae Luc, y meddyg annwyl, yn anfon ei gyfarchion atoch chi, a Demas hefyd.
15 Cofiwch fi at y brodyr yn Laodicea ac at Nymffa ac at y gynulleidfa sydd yn ei thŷ.
16 Ac ar ôl i’r llythyr hwn gael ei ddarllen yn eich plith, trefnwch iddo hefyd gael ei ddarllen yng nghynulleidfa’r Laodiceaid ac i chithau hefyd ddarllen y llythyr gwnes i ei anfon at Laodicea.
17 Hefyd, dywedwch wrth Archipus: “Rho dy sylw i’r weinidogaeth gwnest ti ei derbyn yn yr Arglwydd, er mwyn ei chyflawni.”
18 Mae’r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod i mewn cadwyni. Rydw i’n gweddïo y bydd caredigrwydd rhyfeddol Duw gyda chi.
Troednodiadau
^ Llyth., “gan brynu’r amser penodedig.”