Datguddiad i Ioan 12:1-17

  • Y ddynes, y plentyn gwryw, a’r ddraig (1-6)

  • Michael yn brwydro’n erbyn y ddraig (7-12)

    • Y ddraig yn cael ei hyrddio i’r ddaear (9)

    • Y Diafol yn gwybod bod ganddo ychydig o amser ar ôl (12)

  • Y ddraig yn erlid y ddynes (13-17)

12  Yna cafodd arwydd mawr ei weld yn y nef: Dynes* wedi ei gwisgo â’r haul, ac roedd y lleuad o dan ei thraed, ac ar ei phen roedd coron o 12 seren,  ac roedd hi’n feichiog. Gan ei bod hi ar fin rhoi genedigaeth, roedd hi’n dioddef o boenau geni.  Cafodd arwydd arall ei weld yn y nef. Edrychwch! Draig fflamgoch fawr. Roedd ganddi saith pen a deg corn ac ar ei phennau saith diadem;*  ac mae ei chynffon yn tynnu traean o sêr y nef, ac yn eu bwrw nhw i lawr i’r ddaear. Ac roedd y ddraig yn dal i sefyll o flaen y ddynes* a oedd ar fin rhoi genedigaeth, er mwyn llyncu’r plentyn ar ôl iddi roi genedigaeth.  Ac fe roddodd enedigaeth i fab, gwryw, sy’n bugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn. Ac fe gafodd ei phlentyn ei gipio at Dduw ac at ei orsedd.  A gwnaeth y ddynes* ffoi i’r anialwch, ac mae lle wedi ei baratoi yno ar ei chyfer hi gan Dduw lle byddan nhw’n ei bwydo hi am 1,260 o ddyddiau.  A dechreuodd rhyfel yn y nef: Brwydrodd Michael* a’i angylion yn erbyn y ddraig, a brwydrodd y ddraig a’i hangylion hithau  ond wnaethon nhw ddim ennill,* a doedd dim lle iddyn nhw yn y nef bellach.  Felly cafodd y ddraig fawr ei hyrddio i lawr, y neidr* wreiddiol, yr un sy’n cael ei galw Diafol a Satan, yr un sy’n camarwain yr holl ddaear; fe gafodd ei hyrddio i lawr i’r ddaear, ac fe gafodd ei hangylion eu hyrddio i lawr gyda hi. 10  Fe glywais lais uchel yn y nef yn dweud: “Nawr, mae’r achubiaeth a’r grym a Theyrnas ein Duw ac awdurdod ei Grist wedi dod yn realiti, oherwydd bod cyhuddwr ein brodyr wedi cael ei hyrddio i lawr, yr un sy’n eu cyhuddo nhw ddydd a nos o flaen ein Duw! 11  A gwnaethon nhw ei goncro ef oherwydd gwaed yr oen ac oherwydd gair eu tystiolaethu, a doedden nhw ddim yn caru eu heneidiau* yn wyneb marwolaeth hyd yn oed. 12  O achos hyn, byddwch yn llawen chi’r nefoedd a chi sy’n byw ynddyn nhw! Gwae’r ddaear a’r môr, oherwydd bod y Diafol wedi dod i lawr atoch chi, wedi gwylltio’n gandryll, yn gwybod mai ychydig o amser sydd ganddo ar ôl.” 13  Nawr pan welodd y ddraig ei bod hi wedi cael ei hyrddio i lawr i’r ddaear, gwnaeth hi erlid y ddynes* a roddodd enedigaeth i’r plentyn gwryw. 14  Ond cafodd dwy adain yr eryr mawr eu rhoi i’r ddynes,* er mwyn iddi hi hedfan i’r anialwch i’w lle yno, lle y bydd hi’n cael ei bwydo am amser ac amseroedd a hanner amser* i ffwrdd oddi wrth wyneb y neidr.* 15  A dyma’r neidr* yn chwydu dŵr fel afon allan o’i cheg ar ôl y ddynes,* er mwyn achosi iddi gael ei boddi gan yr afon. 16  Ond gwnaeth y ddaear helpu’r ddynes,* ac agorodd y ddaear ei cheg a llyncu’r afon roedd y ddraig wedi ei chwydu allan o’i cheg. 17  Felly daeth y ddraig yn wyllt gynddeiriog wrth y ddynes* ac aeth i ffwrdd i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant,* y rhai sy’n cadw gorchmynion Duw ac sydd â’r gwaith o dystiolaethu am Iesu.

Troednodiadau

Neu “Menyw.”
Neu “coron.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Sy’n golygu “Pwy Sy’n Debyg i Dduw?”
Neu efallai, “ond cafodd hi [hynny yw, y ddraig] ei threchu.”
Neu “sarff.”
Neu “bywydau.” Gweler Geirfa.
Neu “y fenyw.”
Neu “i’r fenyw.”
Hynny yw, tri amser a hanner.
Neu “sarff.”
Neu “sarff.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “had.”