Datguddiad i Ioan 17:1-18

  • Barnedigaeth ar “Babilon Fawr” (1-18)

    • Y butain fawr yn eistedd ar fwystfil ysgarlad (1-3)

    • Y bwystfil a oedd ‘yn bodoli, ond nid yw’n bodoli nawr, ond fe fydd yn bresennol’ (8)

    • Deg corn i ymladd yn erbyn yr Oen (12-14)

    • Deg corn i gasáu’r butain (16, 17)

17  Dyma un o’r saith angel a oedd â’r saith powlen yn dod ac yn dweud wrtho i: “Tyrd, fe wna i ddangos iti’r farnedigaeth ar y butain fawr sy’n eistedd ar lawer o ddyfroedd, 2  yr un mae brenhinoedd y ddaear wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol* â hi, a gwnaeth trigolion y ddaear feddwi ar win ei hanfoesoldeb rhywiol.”* 3  A dyma’n fy nghymryd i i ffwrdd yng ngrym yr ysbryd i mewn i’r anialwch. A gwelais ddynes* yn eistedd ar fwystfil gwyllt ysgarlad a oedd yn llawn enwau cableddus ac roedd ganddo saith pen a deg corn. 4  Roedd y ddynes* yn gwisgo porffor ac ysgarlad, ac roedd hi wedi ei haddurno ag aur a gemau gwerthfawr a pherlau, ac yn ei llaw roedd ganddi gwpan aur a oedd yn llawn pethau ffiaidd a phethau aflan ei hanfoesoldeb rhywiol.* 5  Ar ei thalcen roedd ’na enw dirgel wedi ei ysgrifennu: “Babilon Fawr, mam y puteiniaid a phethau ffiaidd y ddaear.” 6  Ac fe welais fod y ddynes* wedi meddwi ar waed y rhai sanctaidd ac ar waed tystion Iesu. Wel, o’i gweld hi, roeddwn i’n rhyfeddu’n fawr iawn. 7  Felly dywedodd yr angel wrtho i: “Pam roeddet ti wedi rhyfeddu? Bydda i’n dweud wrthot ti am ddirgelwch y ddynes* a’r bwystfil gwyllt sy’n ei chario hi ac sydd â’r saith pen a’r deg corn: 8  Roedd y bwystfil gwyllt a welaist ti yn bodoli, ond nid yw’n bodoli nawr, ond eto, mae ar fin codi o’r dyfnder, ac fe fydd yn mynd i ffwrdd i ddinistr. A bydd trigolion y ddaear—y rhai nad ydy eu henwau wedi cael eu hysgrifennu yn sgrôl y bywyd ers seilio’r byd—yn rhyfeddu o weld sut roedd y bwystfil gwyllt yn bodoli, ond nid yw’n bodoli nawr, ond eto, fe fydd yn bresennol. 9  “Mae hyn yn gofyn am feddwl doeth: Mae’r saith pen yn golygu saith mynydd, lle mae’r ddynes* yn eistedd arnyn nhw. 10  Ac mae ’na saith brenin: Mae pump wedi syrthio, mae un yn bodoli, a dydy’r llall heb gyrraedd eto; ond pan fydd yn cyrraedd, bydd rhaid iddo aros am gyfnod byr. 11  A’r bwystfil gwyllt a oedd yn bodoli ond sydd ddim yn bodoli, mae yntau hefyd yn wythfed brenin, ond mae’n dod o’r saith, ac mae’n mynd i ffwrdd i ddinistr. 12  “Mae’r deg corn a welaist ti yn golygu deg brenin sydd ddim eto wedi derbyn teyrnas, ond maen nhw’n derbyn awdurdod fel brenhinoedd am un awr gyda’r bwystfil gwyllt. 13  Un meddwl sydd gan y rhain, felly maen nhw’n rhoi eu grym a’u hawdurdod i’r bwystfil gwyllt. 14  Bydd y rhain yn brwydro yn erbyn yr Oen, ond oherwydd ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd, bydd yr Oen yn eu concro nhw. Hefyd, bydd y rhai gydag ef sy’n cael eu galw a’u dewis ac sy’n ffyddlon yn gwneud hynny hefyd.” 15  Dywedodd wrtho i: “Mae’r dyfroedd a welaist ti, lle mae’r butain yn eistedd, yn golygu pobloedd a thyrfaoedd a chenhedloedd ac ieithoedd. 16  A bydd y deg corn a welaist ti a’r bwystfil gwyllt yn casáu’r butain ac yn cymryd popeth oddi arni hi ac yn ei gadael hi’n noeth, a byddan nhw’n bwyta ei chnawd ac yn ei llosgi hi’n llwyr â thân. 17  Oherwydd rhoddodd Duw ei feddwl ef yn eu calonnau i gyflawni ei fwriad, yn wir, i gyflawni’r un meddwl sydd ganddyn nhw drwy roi eu teyrnas i’r bwystfil gwyllt, nes i eiriau Duw gael eu cyflawni. 18  Ac mae’r ddynes* a welaist ti yn golygu’r ddinas fawr sydd â theyrnas dros frenhinoedd y ddaear.”

Troednodiadau

Gweler Geirfa.
Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Neu “gwelais fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”