Datguddiad i Ioan 19:1-21

  • Moli Jah am ei farnedigaethau (1-10)

    • Priodas yr Oen (7-9)

  • Marchogwr y ceffyl gwyn (11-16)

  • Swper mawr Duw (17, 18)

  • Trechu’r bwystfil gwyllt (19-21)

19  Ar ôl hyn fe glywais lais uchel a oedd yn swnio fel tyrfa fawr yn y nef. Dywedon nhw: “Molwch Jah!* Mae’r achubiaeth a’r gogoniant a’r grym yn perthyn i’n Duw, 2  gan fod ei farnedigaethau yn wir ac yn gyfiawn. Oherwydd mae wedi barnu’r butain fawr a wnaeth lygru’r ddaear â’i hanfoesoldeb rhywiol,* ac mae wedi dial gwaed ei gaethweision sydd ar ei dwylo hi.”* 3  Ac ar unwaith, am yr eildro, dywedon nhw: “Molwch Jah!* Ac mae’r mwg yn parhau i godi ohoni hi am byth bythoedd.” 4  A dyma’r 24 henuriad a’r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ac yn addoli Duw sy’n eistedd ar yr orsedd, a dywedon nhw: “Amen! Molwch Jah!”* 5  Hefyd, daeth llais o’r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw, chi i gyd sy’n gaethweision iddo, sy’n ei ofni, y rhai bach a’r rhai mawr.” 6  Ac fe glywais lais a oedd yn swnio fel tyrfa fawr ac fel sŵn llawer o ddyfroedd ac fel sŵn taranau mawr. Dywedon nhw: “Molwch Jah,* oherwydd bod Jehofa ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau rheoli’n frenin! 7  Gadewch inni lawenhau a bod yn hapus dros ben a rhoi gogoniant iddo, oherwydd mae priodas yr Oen wedi cyrraedd ac mae ei wraig wedi ei pharatoi ei hun. 8  Yn wir, mae hi wedi cael caniatâd i wisgo lliain main, disglair, glân—oherwydd mae’r lliain main yn golygu gweithredoedd cyfiawn y rhai sanctaidd.” 9  Ac mae ef yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna: Hapus ydy’r rhai sydd wedi cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen.” Hefyd, mae’n dweud wrtho i: “Geiriau gwir Duw ydy’r rhain.” 10  Ar hynny, syrthiais i lawr o flaen ei draed i’w addoli. Ond dyma’n dweud wrtho i: “Bydda’n ofalus! Paid â gwneud hynny! Dim ond caethwas ydw i, fel tithau a dy frodyr sydd â’r gwaith o dystiolaethu am Iesu. Addola Dduw! Oherwydd y dystiolaeth am Iesu sy’n ysbrydoli proffwydoliaeth.” 11  Gwelais y nef yn agored, ac edrychwch! ceffyl gwyn. Ac mae’r un sy’n eistedd arno yn cael ei alw Ffyddlon a Gwir, ac mae’n barnu ac yn rhyfela mewn cyfiawnder. 12  Fflam dân ydy ei lygaid, ac ar ei ben mae ’na lawer o ddiademau.* Mae ganddo enw wedi ei ysgrifennu arno does neb yn ei wybod heblaw amdano ef ei hun, 13  ac mae’n gwisgo côt sydd wedi cael ei staenio gan waed,* ac mae’n cael ei alw wrth yr enw Gair Duw. 14  Hefyd, roedd byddinoedd y nef yn ei ddilyn ar geffylau gwyn, ac roedden nhw’n gwisgo lliain main, gwyn, glân. 15  Ac mae cleddyf hir miniog yn dod allan o’i geg ar gyfer taro’r cenhedloedd, ac fe fydd yn eu bugeilio nhw â gwialen haearn. Ar ben hynny, mae’n sathru’r cafn ar gyfer gwasgu grawnwin sy’n cynrychioli dicter mawr Duw, yr Hollalluog. 16  Ar ei gôt, ie, ar ei glun, mae ganddo enw wedi ei ysgrifennu, Brenin ar frenhinoedd ac Arglwydd ar arglwyddi. 17  Hefyd fe welais angel yn sefyll yn yr haul, a dyma’n gweiddi â llais uchel ac yn dweud wrth yr holl adar sy’n hedfan yng nghanol y nef:* “Dewch yma, dewch at eich gilydd i swper mawr Duw, 18  er mwyn ichi fwyta cnawd brenhinoedd a chnawd cadlywyddion y fyddin a chnawd dynion cryf a chnawd ceffylau a’r rhai sy’n eistedd arnyn nhw, a chnawd pawb, pobl rydd ynghyd â chaethweision a phobl fach a phobl fawr.” 19  Ac fe welais y bwystfil gwyllt a brenhinoedd y ddaear a’u byddinoedd wedi dod at ei gilydd i ryfela yn erbyn yr un a oedd yn eistedd ar y ceffyl ac yn erbyn ei fyddin. 20  A chafodd y bwystfil gwyllt ei ddal, a’r gau broffwyd ynghyd ag ef a oedd yn gwneud arwyddion o’i flaen, arwyddion y gwnaeth ef eu defnyddio i gamarwain y rhai sydd wedi derbyn marc y bwystfil gwyllt a’r rhai sy’n addoli ei ddelw. Tra oedden nhw’n dal yn fyw, cafodd y ddau ohonyn nhw eu hyrddio i mewn i’r llyn tanllyd sy’n llosgi â sylffwr. 21  Ond cafodd y gweddill eu lladd â’r cleddyf hir sy’n dod allan o geg yr un sy’n eistedd ar y ceffyl. A chafodd yr holl adar eu digoni â’u cnawd.

Troednodiadau

Neu “Haleliwia!” Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw Jehofa.
Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Llyth., “sydd o’i llaw hi.”
Neu “Haleliwia!” Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw Jehofa.
Neu “Haleliwia!” Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw Jehofa.
Neu “Haleliwia!” Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw Jehofa.
Neu “o goronau.”
Neu efallai, “wedi ei thaenu â gwaed.”
Neu “yn yr awyr; uwchben.”