Datguddiad i Ioan 22:1-21

  • Afon o ddŵr y bywyd (1-5)

  • Diweddglo (6-21)

    • ‘Tyrd! Cymera ddŵr y bywyd am ddim’ (17)

    • “Tyrd, Arglwydd Iesu” (20)

22  Ac fe ddangosodd imi afon o ddŵr y bywyd, yn glir fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a’r Oen  i lawr canol ei phrif stryd. Ar ddwy ochr yr afon roedd coed y bywyd yn cynhyrchu 12 cnwd o ffrwyth, gan roi eu ffrwyth bob mis. Ac roedd dail y coed ar gyfer iacháu’r cenhedloedd.  Ac ni fydd unrhyw felltith bellach. Ond bydd gorsedd Duw a’r Oen yn y ddinas, a bydd ei gaethweision yn offrymu gwasanaeth cysegredig iddo;  a byddan nhw’n gweld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau.  Hefyd, ni fydd nos bellach, ac ni fydd angen golau lamp na golau’r haul arnyn nhw, oherwydd bydd Jehofa Dduw yn eu goleuo nhw, a byddan nhw’n rheoli’n frenhinoedd am byth bythoedd.  Dywedodd wrtho i: “Mae’r geiriau hyn yn ffyddlon* ac yn wir; ie, mae Jehofa, y Duw a wnaeth ysbrydoli’r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i’w gaethweision y pethau sy’n gorfod digwydd yn fuan.  Edrycha! Rydw i’n dod yn gyflym. Hapus ydy unrhyw un sy’n cadw at eiriau proffwydoliaeth y sgrôl hon.”  Wel, fi, Ioan oedd yr un a oedd yn clywed ac yn gweld y pethau hyn. Pan wnes i eu clywed a’u gweld nhw, syrthiais i lawr i addoli wrth draed yr angel a oedd wedi bod yn dangos y pethau hyn imi.  Ond mae’n dweud wrtho i: “Bydda’n ofalus! Paid â gwneud hynny! Dim ond caethwas ydw i fel tithau a dy frodyr y proffwydi a’r rhai sy’n cadw geiriau’r sgrôl hon. Addola Dduw.” 10  Hefyd mae’n dweud wrtho i: “Paid â selio geiriau proffwydoliaeth y sgrôl hon, oherwydd mae’r amser penodedig yn agos. 11  Gad i’r un sy’n anghyfiawn barhau mewn anghyfiawnder, a gad i’r un budr barhau yn ei fudreddi; ond gad i’r un cyfiawn barhau mewn cyfiawnder, a gad i’r un sanctaidd barhau mewn sancteiddrwydd. 12  “‘Edrycha! Rydw i’n dod yn gyflym, ac mae’r wobr rydw i’n ei rhoi gyda mi, i dalu’n ôl i bob un yn ôl ei waith. 13  Fi ydy’r Alffa a’r Omega,* y cyntaf a’r olaf, y dechrau a’r diwedd. 14  Hapus ydy’r rhai sy’n golchi eu mentyll, er mwyn iddyn nhw allu cael awdurdod i fynd i goed y bywyd ac er mwyn iddyn nhw fynd i mewn i’r ddinas drwy ei giatiau. 15  Y tu allan y mae’r cŵn* a’r rhai sy’n arfer ysbrydegaeth a’r rhai sy’n anfoesol yn rhywiol* a’r llofruddion a’r addolwyr eilunod a phawb sy’n caru dweud celwydd ac sydd wedi mynd i’r arfer o wneud hynny.’ 16  “‘Fe wnes i, Iesu, anfon fy angel i dystiolaethu iti am y pethau hyn ar gyfer y cynulleidfaoedd. Fi ydy gwreiddyn a disgynnydd Dafydd a seren ddisglair y bore.’” 17  Ac mae’r ysbryd a’r briodferch yn dal i ddweud, “Tyrd!” a gadewch i unrhyw un sy’n clywed ddweud, “Tyrd!” a gadewch i unrhyw un sy’n sychedu ddod; gadewch i unrhyw un sy’n dymuno gymryd dŵr y bywyd am ddim. 18  “Rydw i’n tystiolaethu i bawb sy’n clywed geiriau proffwydoliaeth y sgrôl hon: Os oes unrhyw un yn ychwanegu at y pethau hyn, fe fydd Duw yn ychwanegu ato yntau y plâu sydd wedi cael eu hysgrifennu yn y sgrôl hon; 19  ac os oes unrhyw un yn tynnu unrhyw beth allan o eiriau sgrôl y broffwydoliaeth hon, fe fydd Duw yn tynnu ei ran yntau allan o goed y bywyd ac allan o’r ddinas sanctaidd, y pethau sydd wedi cael eu hysgrifennu amdanyn nhw yn y sgrôl hon. 20  “Mae’r un sy’n tystiolaethu am y pethau hyn yn dweud, ‘Yn wir, rydw i’n dod yn gyflym.’” “Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu.” 21  Rydw i’n gweddïo y bydd caredigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu gyda’r rhai sanctaidd.

Troednodiadau

Neu “yn ddibynadwy.”
Alffa ac Omega ydy’r llythyren gyntaf a’r olaf o’r wyddor Roeg.
Hynny yw, y rhai sy’n gwneud pethau sy’n ffiaidd yng ngolwg Duw.
Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”