Datguddiad i Ioan 6:1-17
-
Yr Oen yn agor y chwe sêl gyntaf (1-17)
6 Ac fe welais pan agorodd yr Oen un o’r saith sêl, ac fe glywais un o’r pedwar creadur byw yn dweud â llais fel taran: “Tyrd!”
2 Ac edrychwch! fe welais geffyl gwyn, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno fwa; ac fe gafodd coron ei rhoi iddo, ac fe aeth allan yn concro ac i gwblhau ei goncwest.
3 Pan agorodd ef yr ail sêl, fe glywais yr ail greadur byw yn dweud: “Tyrd!”
4 Daeth un arall allan, ceffyl fflamgoch, ac fe gafodd yr un a oedd yn eistedd arno yr awdurdod i gymryd heddwch oddi ar y ddaear er mwyn iddyn nhw ladd ei gilydd, ac fe gafodd cleddyf mawr ei roi iddo.
5 Pan agorodd ef y drydedd sêl, fe glywais y trydydd creadur byw yn dweud: “Tyrd!” Ac edrychwch! fe welais geffyl du, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno glorian yn ei law.
6 Fe glywais rywbeth yn debyg i lais yng nghanol y pedwar creadur byw yn dweud: “Litr* o wenith am ddenariws* a thri litr o haidd am ddenariws; a phaid â gadael i’r olew olewydd a’r gwin redeg allan.”*
7 Pan agorodd ef y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dweud: “Tyrd!”
8 Ac edrychwch! fe welais geffyl llwyd,* ac enw’r un a oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth. Ac roedd y Bedd* yn ei ddilyn yn agos. Ac fe gafodd awdurdod ei roi iddyn nhw dros y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf hir ac â phrinder bwyd ac â phla marwol a thrwy fwystfilod gwyllt y ddaear.
9 Pan agorodd ef y bumed sêl, fe welais o dan yr allor eneidiau’r* rhai a gafodd eu lladd oherwydd gair Duw ac oherwydd y dystiolaeth roedden nhw wedi ei rhoi.
10 Gwaeddon nhw â llais uchel, gan ddweud: “Faint o amser fydd yn mynd heibio, Sofran Arglwydd, sanctaidd a gwir, cyn iti farnu a dial ein gwaed ar y rhai sy’n byw ar y ddaear?”
11 Ac fe roddodd yr Arglwydd fantell wen i bob un ohonyn nhw, a dweud wrthyn nhw am orffwys am ychydig eto, nes bod nifer eu cyd-gaethweision a’u brodyr yn cael ei gwblhau, y rhai a oedd yn mynd i gael eu lladd fel y cawson nhwthau eu lladd.
12 Ac fe welais pan agorodd ef y chweched sêl, ac fe wnaeth daeargryn mawr ddigwydd; ac fe drodd yr haul yn ddu fel sachliain wedi ei wneud o flew,* ac fe drodd y lleuad gyfan yn goch fel gwaed,
13 ac fe syrthiodd sêr y nef i’r ddaear fel coeden ffigys yn cael ei hysgwyd gan wynt mawr yn bwrw ei ffigys anaeddfed.
14 Ac fe aeth y nef i ffwrdd fel sgrôl yn cael ei rholio, ac fe gafodd pob mynydd a phob ynys eu symud allan o’u lle.
15 Yna, dyma frenhinoedd y ddaear, yr uwch swyddogion, cadlywyddion y fyddin, y cyfoethog, y cryfion, pob caethwas, a phob person rhydd yn mynd i guddio yn yr ogofâu ac ymhlith creigiau’r mynyddoedd.
16 Ac maen nhw’n dweud o hyd wrth y mynyddoedd ac wrth y creigiau: “Syrthiwch arnon ni a chuddiwch ni rhag wyneb yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd a rhag dicter yr Oen,
17 oherwydd bod dydd mawr eu dicter wedi dod, a phwy sy’n gallu sefyll?”
Troednodiadau
^ Neu “Chwart.”
^ Ceiniog arian Rufeinig a oedd yn gyfartal â chyflog diwrnod.
^ Neu “a phaid â niweidio’r olew olewydd a’r gwin.”
^ Neu “gwelw.”
^ Yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at eu gwaed, sy’n cynrychioli bywyd, a gafodd ei dywallt ar yr allor. Gweler Geirfa.
^ Blew geifr yn fwy na thebyg.