At yr Effesiaid 1:1-23

  • Cyfarchion (1, 2)

  • Bendithion ysbrydol (3-7)

  • Casglu pob peth at ei gilydd yn y Crist (8-14)

    • “Gweinyddu pethau” ar yr amseroedd penodedig (10)

    • Selio â’r ysbryd yn “flaendal” (13, 14)

  • Paul yn diolch i Dduw am ffydd yr Effesiaid ac yn gweddïo drostyn nhw (15-23)

1  Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y rhai sanctaidd sydd yn Effesus ac sy’n ffyddlon mewn undod â Christ Iesu:  Rydyn ni’n gweddïo y bydd Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn rhoi caredigrwydd rhyfeddol a heddwch ichi.  Mawl i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, oherwydd ei fod wedi ein bendithio ni â phob bendith ysbrydol yn y llefydd nefol mewn undod â Christ,  oherwydd ei fod wedi ein dewis ni i fod mewn undod ag ef* cyn sefydlu’r byd, er mwyn inni fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad.  Gwnaeth ef ein rhagordeinio ni i gael ein mabwysiadu yn feibion iddo’i hun trwy Iesu Grist, yn ôl yr hyn sy’n ei blesio ac yn ôl ei ewyllys,  er clod i’w garedigrwydd rhyfeddol a gogoneddus a ddangosodd ef tuag aton ni drwy gyfrwng ei fab annwyl.  Drwy gyfrwng ei fab, rydyn ni wedi cael ein hachub a’n rhyddhau.* Yn wir, mae ein pechodau wedi cael eu maddau drwy ei waed, yn ôl cyfoeth caredigrwydd rhyfeddol Duw.  Mae ef wedi achosi i’r caredigrwydd rhyfeddol hwn orlifo yn ein hachos ni ym mhob doethineb a dealltwriaeth  drwy rannu â ni gyfrinach gysegredig ei ewyllys. Yn ôl yr hyn sy’n ei blesio, mae ef wedi penderfynu 10  gweinyddu pethau* pan fydd yr amseroedd penodedig wedi dod, i gasglu pob peth at ei gilydd yn y Crist, y pethau yn y nefoedd a’r pethau ar y ddaear. Ie, yn yr un 11  rydyn ni mewn undod ag ef ac wedi ein penodi’n etifeddion gydag ef. Rydyn ni wedi cael ein rhagordeinio yn ôl pwrpas yr un sy’n cyflawni pob peth wrth iddo benderfynu yn ôl ei ewyllys, 12  er mwyn i ni, y rhai cyntaf i obeithio yn y Crist, wasanaethu er clod i’w ogoniant. 13  Ond gwnaethoch chithau hefyd obeithio ynddo ef ar ôl ichi glywed y gwir, sef y newyddion da am eich achubiaeth. Ar ôl ichi gredu, cawsoch chi eich selio drwy gyfrwng ef â’r ysbryd glân addawedig, 14  sy’n flaendal* o’n hetifeddiaeth, er mwyn talu’r pris* i ryddhau pobl Dduw, ac i glodfori ei ogoniant. 15  Hefyd, dyna pam, ers imi glywed am y ffydd sydd gynnoch chi yn yr Arglwydd Iesu a’r cariad rydych chi’n ei ddangos tuag at yr holl rai sanctaidd, rydw i 16  byth yn stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Rydw i’n parhau i sôn amdanoch chi yn fy ngweddïau, 17  er mwyn i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad pob gogoniant, roi ichi ysbryd doethineb a’r gallu i ddeall yr hyn mae ef yn ei ddatguddio. 18  Mae Duw yn agor eich calonnau, er mwyn ichi weld a gwybod am y gobaith mae’n ei roi ichi, a’r pethau gogoneddus mae ef wedi eu haddo i’r rhai sanctaidd, 19  ac am ba mor rhyfeddol yw ei nerth tuag aton ni gredinwyr. Mae’r nerth rhyfeddol hwnnw i’w weld yn ei weithredoedd, 20  y nerth a ddefnyddiodd i godi Crist o’r meirw a’i osod i eistedd ar ei law dde yn y llefydd nefol, 21  yn llawer uwch na phob llywodraeth ac awdurdod a nerth ac arglwyddiaeth a phob enw, nid yn unig yn y system hon* ond hefyd yn yr un sydd i ddod. 22  Hefyd fe wnaeth ddarostwng pob peth o dan ei draed a’i osod ef yn ben ar bob peth sy’n ymwneud â’r gynulleidfa, 23  sef ei gorff, sy’n llawn o’i rinweddau ef, yr un sy’n cwblhau pob peth.

Troednodiadau

Hynny yw, gyda Christ.
Neu “rydyn ni wedi cael ein rhyddhau drwy’r pridwerth.”
Neu “sefydlu gweinyddiaeth.”
Neu “arian ernes; gwarant (addewid) o’r hyn sydd i ddod.”
Neu “pridwerth.”
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.