At yr Effesiaid 4:1-32
4 Felly rydw i, y carcharor yn yr Arglwydd, yn apelio atoch chi i gerdded yn deilwng o’r alwad a gawsoch chi,
2 gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gydag amynedd, gan oddef eich gilydd mewn cariad,
3 gan wneud pob ymdrech i gadw undod yr ysbryd drwy’r heddwch sy’n ein clymu ni wrth ein gilydd.
4 Un corff sydd ’na, ac un ysbryd, yn union fel y cawsoch chi’ch galw i’r un gobaith;
5 un Arglwydd, un ffydd, un bedydd;
6 un Duw a Thad i bawb, sydd dros bawb a thrwy bawb ac ym mhawb.
7 Nawr fe roddwyd caredigrwydd rhyfeddol i bob un ohonon ni, a Christ a rannodd y rhodd honno rhyngon ni.
8 Oherwydd mae’n dweud: “Pan aeth i fyny i’r uchelder aeth â chaethion gydag ef; rhoddodd ef ddynion yn rhoddion.”
9 Nawr beth mae’r ymadrodd “aeth i fyny” yn ei olygu? Mae’n golygu ei fod hefyd wedi mynd i lawr i’r rhanbarthau isaf, hynny yw, y ddaear.
10 Yr un a aeth i lawr ydy’r un a aeth i fyny hefyd ymhell uwchben y nefoedd i gyd, fel y gallai gyflawni pob peth.
11 Ac fe roddodd ef rai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr,* rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,
12 er mwyn rhoi’r rhai sanctaidd ar ben ffordd,* i wasanaethu eraill, i adeiladu corff y Crist,
13 hyd nes inni gyrraedd undod y ffydd a’r wybodaeth gywir am Fab Duw, er mwyn bod yn ddynion aeddfed, yn hollol aeddfed fel Crist.
14 Felly ni ddylen ni fod yn blant mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a’n taflu yma ac acw gan bob gwynt o ddysgeidiaeth drwy gyfrwng twyll dynion, drwy gyfrwng cynllwynion cyfrwys.
15 Ond gan ddweud y gwir, gadewch inni drwy gariad dyfu i fyny ym mhob peth mewn undod â Christ, y pen.
16 Diolch iddo ef, mae’r corff cyfan yn cael ei ddal wrth ei gilydd yn dda, ac mae aelodau’r corff yn cydweithredu â’i gilydd drwy bob cymal sy’n rhoi’r hyn sydd ei angen. Pan fydd pob un aelod yn gweithio’n gywir, mae hyn yn cyfrannu at dyfiant y corff wrth iddo’i adeiladu ei hun mewn cariad.
17 Felly, dyma beth rydw i’n ei ddweud ac yn tystiolaethu iddo yn yr Arglwydd, eich bod chi bellach i beidio â pharhau i gerdded fel y mae’r cenhedloedd hefyd yn cerdded, yng ngwacter* eu meddyliau.
18 Maen nhw mewn tywyllwch yn feddyliol ac yn bell i ffwrdd o’r bywyd sy’n perthyn i Dduw, oherwydd yr anwybodaeth sydd ynddyn nhw, oherwydd ansensitifrwydd* eu calonnau.
19 A nhwthau heb unrhyw fath o synnwyr moesol, maen nhw wedi ymroi i ymddwyn heb gywilydd,* i ymarfer pob math o aflendid mewn ffordd farus.
20 Ond dydych chi ddim wedi dysgu bod y Crist fel hyn,
21 os gwnaethoch chi’n wir ei glywed ef a chael eich dysgu ganddo, yn union fel y mae’r gwir yn Iesu.
22 Cawsoch chi’ch dysgu i roi heibio’r hen bersonoliaeth sy’n cydymffurfio â’ch hen ymddygiad ac sy’n cael ei llygru gan ei chwantau twyllodrus.
23 Ac fe ddylech chi barhau i gael eich adnewyddu yn yr agwedd sy’n rheoli’ch meddwl,*
24 ac fe ddylech chi roi amdanoch chi’r bersonoliaeth newydd a gafodd ei chreu yn unol ag ewyllys Duw mewn gwir gyfiawnder a ffyddlondeb.
25 Felly, gan eich bod chi wedi cael gwared ar gelwydd, rhaid i bob un ohonoch chi ddweud y gwir wrth eich cymydog, oherwydd ein bod ni’n aelodau sy’n perthyn i’n gilydd.
26 Byddwch yn ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i’r haul fachlud a chithau’n dal yn ddig;
27 peidiwch â rhoi cyfle i’r Diafol.
28 Dylai’r sawl sy’n dwyn stopio dwyn; yn hytrach, gadewch iddo weithio’n galed, gan wneud gwaith da â’i ddwylo, er mwyn iddo gael rhywbeth i’w rannu â’r sawl sydd mewn angen.
29 Peidiwch â gadael i air drwg* ddod allan o’ch ceg, dim ond yr hyn sy’n dda ac yn adeiladol yn ôl yr angen, er mwyn rhoi rhywbeth buddiol i’r gwrandawyr.
30 Hefyd, peidiwch ag achosi i ysbryd glân Duw alaru,* yr ysbryd y mae Duw wedi ei ddefnyddio i’ch selio chi ar gyfer dydd eich rhyddhad drwy’r pris a gafodd ei dalu.*
31 Mae’n rhaid ichi eich gwahanu eich hunain oddi wrth bob math o chwerwder maleisus, llid, dicter, sgrechian, a siarad cas, yn ogystal â phopeth niweidiol.
32 Ond byddwch yn garedig wrth eich gilydd, yn dosturiol iawn, heb ddal yn ôl rhag maddau* i’ch gilydd yn union fel mae Duw hefyd heb ddal yn ôl rhag maddau* i chi drwy Grist.
Troednodiadau
^ Neu “yn gyhoeddwyr y newyddion da.”
^ Neu “rhoi’r rhai sanctaidd ar y llwybr cywir; hyfforddi’r rhai sanctaidd.”
^ Neu “yn oferedd.”
^ Llyth., “pylni.”
^ Llyth., “yn ysbryd eich meddwl.”
^ Neu “pydredig.”
^ Neu “dristáu.”
^ Neu “drwy’r pridwerth.”
^ Neu “yn maddau yn rhwydd; yn ddiamod.”
^ Neu “wedi maddau yn rhwydd; yn ddiamod.”