Esra 1:1-11
1 Ym mlwyddyn gyntaf Cyrus, brenin Persia, er mwyn i eiriau Jehofa* a ddaeth drwy’r proffwyd Jeremeia gael eu cyflawni, gwnaeth Jehofa ysgogi Cyrus, brenin Persia, i ysgrifennu datganiad a’i gyhoeddi drwy ei deyrnas gyfan, gan ddweud:
2 “Dyma beth mae Cyrus, brenin Persia, yn ei ddweud, ‘Mae Jehofa, Duw y nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y ddaear imi, ac mae wedi fy mhenodi i adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, sydd yn Jwda.
3 Chi sy’n perthyn i’w bobl, gadewch i’ch Duw fod gyda chi. Mae ’na groeso ichi fynd i fyny i Jerwsalem, sydd yn Jwda, ac ailadeiladu tŷ Jehofa, Duw Israel, a oedd yn Jerwsalem*—ef ydy’r gwir Dduw.
4 Unrhyw un sy’n byw fel estronwr, ble bynnag mae’n byw, gadewch i’w gymdogion ei helpu drwy roi iddo arian ac aur, nwyddau ac anifeiliaid, yn ogystal â’r offrwm gwirfoddol ar gyfer tŷ’r gwir Dduw, a oedd yn Jerwsalem.’”
5 Yna dyma benaethiaid grwpiau o deuluoedd Jwda a Benjamin a’r offeiriaid a’r Lefiaid—pob un a oedd wedi cael ei ysgogi gan ysbryd y gwir Dduw—yn paratoi i fynd i fyny ac ailadeiladu tŷ Jehofa a oedd yn Jerwsalem.
6 Gwnaeth pawb o’u cwmpas eu cefnogi nhw drwy roi iddyn nhw lestri arian ac aur, nwyddau, anifeiliaid, a phethau gwerthfawr, yn ogystal â’r holl offrymau gwirfoddol.
7 Hefyd daeth y Brenin Cyrus â holl lestri tŷ Jehofa allan, y rhai roedd Nebuchadnesar wedi eu cymryd o Jerwsalem a’u rhoi yn nhŷ ei dduw.
8 Dyma Cyrus, brenin Persia, yn dod â nhw allan o dan arolygiaeth Mithredath y trysorydd a wnaeth eu rhestru nhw ar gyfer Sesbassar,* pennaeth Jwda.
9 Nawr dyma oedd ar y rhestr: 30 o lestri aur siâp basged, 1,000 o lestri arian siâp basged, 29 o lestri ychwanegol,
10 30 o bowlenni bach aur, 410 o bowlenni bach arian, a 1,000 o lestri eraill.
11 Cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sesbassar â’r rhain i gyd i fyny pan ddaeth yr alltudion allan o Fabilon i Jerwsalem.
Troednodiadau
^ Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
^ Neu efallai, “sydd yn Jerwsalem.”