Esra 10:1-44

  • Cyfamod i anfon gwragedd estron i ffwrdd (1-14)

  • Anfon y gwragedd estron i ffwrdd (15-44)

10  Tra oedd Esra yn gweddïo ac yn cyfaddef pechodau’r bobl gan wylo ac ymgrymu o flaen tŷ’r gwir Dduw, dyma dyrfa fawr o ddynion, merched,* a phlant o blith yr Israeliaid yn casglu o’i gwmpas am eu bod nhw’n beichio crio. 2  Wedyn, dyma Sechaneia fab Jehiel o feibion Elam yn dweud wrth Esra: “Rydyn ni wedi bod yn anffyddlon i’n Duw drwy briodi merched* estron o’r cenhedloedd o’n cwmpas. Er gwaethaf hyn, mae ’na obaith i Israel o hyd. 3  Nawr dewch inni wneud cyfamod â’n Duw i anfon yr holl wragedd hyn a’u plant i ffwrdd, yn ôl arweiniad Jehofa a’r rhai sy’n parchu gorchmynion ein Duw. Dewch inni ddilyn y Gyfraith. 4  Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di ydy hyn, ac rydyn ni gyda ti. Bydda’n gryf a gweithreda.” 5  Yna dyma Esra yn codi ac yn gwneud i benaethiaid yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Israeliaid i gyd addo ar lw wneud yr hyn a oedd wedi cael ei ddweud. Felly dyma nhw’n tyngu llw. 6  Nawr dyma Esra yn codi ac yn gadael tŷ’r gwir Dduw a mynd i siambr Jehohanan fab Eliasib. Er ei fod wedi mynd yno, ni wnaeth fwyta nac yfed unrhyw beth gan ei fod yn galaru oherwydd anffyddlondeb yr alltudion a oedd wedi dod yn ôl. 7  Yna dyma nhw’n cyhoeddi drwy Jwda a Jerwsalem y dylai’r holl alltudion a oedd wedi dod yn ôl gasglu at ei gilydd yn Jerwsalem; 8  ac yn ôl penderfyniad y tywysogion a’r henuriaid, os nad oedd rhywun yn mynd yno o fewn tri diwrnod, byddai ei holl eiddo yn cael ei gymryd oddi arno, a byddai ef yn cael ei wahardd o gynulleidfa yr alltudion a oedd wedi dod yn ôl. 9  Felly daeth holl ddynion Jwda a Benjamin at ei gilydd yn Jerwsalem o fewn tri diwrnod, hynny yw, yn y nawfed mis, ar ugeinfed* diwrnod y mis. Roedd yr holl bobl yn eistedd yn un o gyrtiau tŷ’r gwir Dduw yn crynu oherwydd y sefyllfa, ac oherwydd y glaw trwm. 10  Yna dyma Esra yr offeiriad yn codi ac yn dweud wrthyn nhw: “Rydych chi wedi bod yn anffyddlon drwy briodi merched estron, felly rydych chi wedi ychwanegu at euogrwydd Israel. 11  Nawr mae’n rhaid ichi gyffesu i Jehofa, Duw eich cyndadau, a gwneud ei ewyllys. Gwahanwch eich hunain oddi wrth bobl y wlad a’r gwragedd estron hyn.” 12  Yna atebodd y gynulleidfa gyfan mewn llais uchel: “Mae gynnon ni gyfrifoldeb i wneud yn union fel rwyt ti wedi dweud. 13  Ond mae ’na lawer o bobl, ac mae hi’n dymor y glaw. Dydy hi ddim yn bosib inni sefyll y tu allan, a bydd hyn yn cymryd mwy nag un neu ddau o ddyddiau am ein bod ni wedi gwrthryfela a phechu’n ofnadwy. 14  Felly, plîs, gad i’n tywysogion gynrychioli’r gynulleidfa gyfan; a gad i’r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amser penodol, ynghyd â henuriaid a barnwyr pob dinas, nes inni dawelu dicter ffyrnig ein Duw ynglŷn â hyn.” 15  Ond roedd Jonathan fab Asahel a Jahaseia fab Ticfa yn anghytuno’n gryf â hyn, ac roedd y Lefiaid, Mesulam a Sabbethai, yn eu cefnogi nhw. 16  Ond dyma’r alltudion a oedd wedi dod yn ôl yn gwneud yr hyn roedden nhw wedi cytuno arno; a dyma Esra yr offeiriad a’r pennau ar grwpiau o deuluoedd, pob un wedi ei restru yn ôl ei enw, yn dod at ei gilydd ar ddiwrnod cyntaf y degfed mis i ystyried y sefyllfa. 17  Ac erbyn diwrnod cyntaf y mis cyntaf, roedden nhw wedi gorffen delio â’r holl ddynion a oedd wedi priodi merched* estron. 18  A gwnaethon nhw ddarganfod bod rhai o feibion yr offeiriaid wedi priodi merched* estron: o feibion Jesua fab Jehosadac a’i frodyr, Maaseia, Elieser, Jarib, a Gedaleia. 19  Ond dyma nhw’n addo anfon eu gwragedd i ffwrdd, a gan eu bod nhw’n euog, byddan nhw’n offrymu hwrdd* o’r praidd dros eu heuogrwydd. 20  O blith meibion Immer, roedd ’na Hanani a Sebadeia; 21  ac o blith meibion Harim, Maaseia, Elias, Semaia, Jehiel, ac Usseia; 22  ac o blith meibion Passur, Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethanel, Josabad, ac Eleasa. 23  Ac o blith y Lefiaid, roedd ’na Josabad, Simei, Celaia (hynny yw Celita), Pethaheia, Jwda, ac Elieser; 24  ac o blith y cantorion, Eliasib; ac o blith y porthorion, Salum, Telem, ac Uri. 25  Ac o blith Israel, o blith meibion Paros, roedd ’na Rameia, Ieseia, Malcheia, Mijamin, Eleasar, Malcheia, a Benaia; 26  ac o blith meibion Elam, Mataneia, Sechareia, Jehiel, Abdi, Jeremoth, ac Elias; 27  ac o blith meibion Sattu, Elioenai, Eliasib, Mataneia, Jeremoth, Sabad, ac Asisa; 28  ac o blith meibion Bebai, Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai; 29  ac o blith meibion Bani, Mesulam, Maluc, Adaia, Jasub, Seal, a Jeremoth; 30  ac o blith meibion Pahath-moab, Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besalel, Binnui, a Manasse; 31  ac o blith meibion Harim, Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon, 32  Benjamin, Maluc, a Semareia; 33  o blith meibion Hasum, Matenai, Matata, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse, a Simei; 34  o blith meibion Bani, Maadai, Amram, Uel, 35  Benaia, Bedeia, Celuhi, 36  Faneia, Meremoth, Eliasib, 37  Mataneia, Matenai, a Jasau; 38  ac o blith meibion Binnui, Simei, 39  Selemeia, Nathan, Adaia, 40  Machnadebai, Sasai, Sarai, 41  Asareel, Selemeia, Semareia, 42  Salum, Amareia, a Joseff; 43  ac o blith meibion Nebo, Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadai, Joel, a Benaia. 44  Roedd y rhain i gyd wedi cymryd gwragedd estron, a dyma nhw’n anfon eu gwragedd i ffwrdd, ynghyd â’u meibion.

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “20fed.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “maharen.”