Esra 2:1-70

  • Rhestr o’r alltudion a ddaeth yn ôl (1-67)

    • Gweision y deml (43-54)

    • Meibion gweision Solomon (55-57)

  • Offrymau gwirfoddol ar gyfer y deml (68-70)

2  Y rhain oedd pobl y dalaith a ddaeth i fyny o blith yr alltudion, y rhai roedd Nebuchadnesar, brenin Babilon, wedi eu halltudio i Fabilon, ac a ddaeth yn ôl i Jerwsalem a Jwda yn nes ymlaen, bob un i’w ddinas ei hun, 2  y rhai a ddaeth gyda Sorobabel, Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, a Baana. Dyma niferoedd dynion Israel: 3  meibion Paros, 2,172; 4  meibion Seffateia, 372; 5  meibion Ara, 775; 6  meibion Pahath-moab, o blith meibion Jesua a Joab, 2,812; 7  meibion Elam, 1,254; 8  meibion Sattu, 945; 9  meibion Saccai, 760; 10  meibion Bani, 642; 11  meibion Bebai, 623; 12  meibion Asgad, 1,222; 13  meibion Adonicam, 666; 14  meibion Bigfai, 2,056; 15  meibion Adin, 454; 16  meibion Ater, disgynyddion Heseceia, 98; 17  meibion Besai, 323; 18  meibion Jora, 112; 19  meibion Hasum, 223; 20  meibion Gibbar, 95; 21  meibion Bethlehem, 123; 22  dynion Netoffa, 56; 23  dynion Anathoth, 128; 24  meibion Asmafeth, 42; 25  meibion Ciriath-jearim, Ceffira, a Beeroth, 743; 26  meibion Rama a Geba, 621; 27  dynion Michmas, 122; 28  dynion Bethel ac Ai, 223; 29  meibion Nebo, 52; 30  meibion Magbis, 156; 31  meibion yr Elam arall, 1,254; 32  meibion Harim, 320; 33  meibion Lod, Hadid, ac Ono, 725; 34  meibion Jericho, 345; 35  meibion Senaa, 3,630. 36  Yr offeiriaid: meibion Jedaia o deulu Jesua, 973; 37  meibion Immer, 1,052; 38  meibion Passur, 1,247; 39  meibion Harim, 1,017. 40  Y Lefiaid: meibion Jesua a Cadmiel, o blith meibion Hodafia, 74. 41  Y cantorion: meibion Asaff, 128. 42  Meibion y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, 139 i gyd. 43  Gweision y deml:* meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 44  meibion Ceros, meibion Siaha, meibion Padon, 45  meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub, 46  meibion Hagab, meibion Salmai, meibion Hanan, 47  meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia, 48  meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam, 49  meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai, 50  meibion Asna, meibion Meunim, meibion Neffisesim, 51  meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 52  meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa, 53  meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Tama, 54  meibion Neseia, meibion Hatiffa. 55  Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Peruda, 56  meibion Jala, meibion Darcon, meibion Gidel, 57  meibion Seffateia, meibion Hattil, meibion Pochereth-hassebaim, meibion Ami. 58  Cyfanswm holl weision y deml* a meibion gweision Solomon oedd 392. 59  Ac aeth y rhain i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon, ac Immer, ond doedden nhw ddim yn gallu profi o ba deulu roedden nhw’n dod, neu a oedden nhw’n Israeliaid neu ddim: 60  meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, 652. 61  Ac o blith meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Haccos, meibion Barsilai a gymerodd wraig o blith merched Barsilai o Gilead, a chymryd ei enw. 62  Chwiliodd y rhain am gofnod o’u hachau, ond ni wnaethon nhw ddod o hyd i unrhyw beth, felly cawson nhw eu gwahardd rhag bod yn offeiriaid.* 63  Dywedodd y llywodraethwr* wrthyn nhw nad oedden nhw’n cael bwyta o’r pethau mwyaf sanctaidd nes i offeiriad ymgynghori â Duw drwy’r Urim a’r Thummim. 64  Cyfanswm y gynulleidfa gyfan oedd 42,360, 65  heblaw am eu caethweision, 7,337 ohonyn nhw; hefyd roedd ganddyn nhw 200 o gantorion. 66  Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 67  435 o gamelod, a 6,720 o asynnod. 68  Pan gyrhaeddon nhw dŷ Jehofa yn Jerwsalem, dyma rai o benaethiaid y grwpiau o deuluoedd yn cynnig offrymau gwirfoddol ar gyfer tŷ’r gwir Dduw, er mwyn ei ailadeiladu ar ei safle gwreiddiol. 69  Yn ôl yr hyn roedden nhw’n gallu ei fforddio, rhoddon nhw 61,000 drachma aur,* 5,000 mina* o arian, a 100 mantell ar gyfer yr offeiriaid er mwyn cefnogi’r gwaith. 70  A dyma’r offeiriaid, y Lefiaid, y cantorion, y porthorion, gweision y deml,* a gweddill y bobl yn setlo yn eu dinasoedd, felly aeth Israel gyfan i fyw yn eu dinasoedd.

Troednodiadau

Neu “Y Nethinim.”
Neu “Cyfanswm yr holl Nethinim.”
Neu “felly cawson nhw eu hystyried yn aflan a doedden nhw ddim yn cael gwasanaethu fel offeiriaid.”
Neu “y Tirsatha,” teitl Persiaidd ar gyfer llywodraethwr talaith.
Fel arfer yn cael ei ystyried i fod yr un fath â’r daric aur Persiaidd a oedd yn pwyso 8.4 g (0.27 oz t). Nid yr un fath â’r ddrachma sydd yn yr Ysgrythurau Groeg.
Yn yr Ysgrythurau Hebraeg roedd mina yn gyfartal â 570 g (18.35 oz t).
Neu “y Nethinim.”