Esra 3:1-13
3 Pan ddaeth y seithfed mis ac roedd yr Israeliaid i gyd yn eu dinasoedd, daethon nhw at ei gilydd yn unedig yn Jerwsalem.
2 Dyma Jesua fab Jehosadac a’r offeiriaid eraill, a Sorobabel fab Sealtiel a’i frodyr yn codi ac yn adeiladu allor Duw Israel, fel eu bod nhw’n gallu offrymu aberthau llosg arni, fel sydd wedi cael ei ysgrifennu yng Nghyfraith Moses, dyn y gwir Dduw.
3 Felly gosodon nhw’r allor ar ei safle gwreiddiol, er eu bod nhw’n ofni pobl y gwledydd o’u cwmpas, a dechreuon nhw offrymu aberthau llosg i Jehofa arni, aberthau llosg y bore a’r noswaith.
4 Yna gwnaethon nhw gynnal Gŵyl y Pebyll yn ôl beth sydd wedi cael ei ysgrifennu, a phob dydd dyma nhw’n offrymu’r nifer penodol o aberthau llosg oedd eu hangen.
5 Ar ôl hynny, gwnaethon nhw gynnig yr offrymau llosg rheolaidd a’r offrymau ar gyfer y lleuadau newydd, yn ogystal â’r rhai ar gyfer holl wyliau sanctaidd Jehofa, a’r offrymau roedd pobl wedi eu cynnig i Jehofa fel offrymau gwirfoddol.
6 Dechreuon nhw offrymu aberthau llosg i Jehofa o ddiwrnod cyntaf y seithfed mis ymlaen, er nad oedd sylfaen teml Jehofa wedi cael ei gosod eto.
7 Rhoddon nhw arian i’r seiri maen a’r crefftwyr, a bwyd a diod ac olew i’r Sidoniaid a’r Tyriaid am eu bod nhw wedi dod â choed cedrwydd dros y môr o Lebanon i Jopa, gyda chaniatâd Cyrus, brenin Persia.
8 Yn yr ail flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod i dŷ’r gwir Dduw yn Jerwsalem, yn yr ail fis, dyma Sorobabel fab Sealtiel, Jesua fab Jehosadac a gweddill eu brodyr, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phawb a oedd wedi dod allan o gaethiwed i Jerwsalem yn dechrau ar y gwaith; gwnaethon nhw benodi’r Lefiaid a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn i wasanaethu fel goruchwylwyr dros y gwaith ar dŷ Jehofa.
9 Felly dyma Jesua, ei feibion a’i frodyr, a Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda, yn dod at ei gilydd i gyfarwyddo’r gwaith yn nhŷ’r gwir Dduw, ynghyd â meibion Henadad, eu meibion a’u brodyr, y Lefiaid.
10 Unwaith i’r adeiladwyr osod sylfaen teml Jehofa, safodd yr offeiriaid yn eu dillad swyddogol gyda’r trwmpedi, ynghyd â’r Lefiaid, meibion Asaff, gyda’r symbalau, i foli Jehofa yn ôl cyfarwyddiadau Dafydd, brenin Israel.
11 A dechreuon nhw foli Jehofa a diolch iddo drwy ganu yn eu tro, gyda’r naill yn ateb y llall, “mae ef yn dda; mae ei gariad ffyddlon tuag at Israel yn dragwyddol.” Yna, gwaeddodd yr holl bobl gyda bloedd fawr o foliant i Jehofa oherwydd roedd sylfaen tŷ Jehofa wedi cael ei gosod.
12 Dyma lawer o’r offeiriaid, y Lefiaid, a phenaethiaid y grwpiau o deuluoedd—y dynion hŷn a oedd yn cofio’r tŷ gynt—yn wylo â llais uchel pan welson nhw sylfaen y tŷ yn cael ei gosod, tra roedd eraill yn gweiddi’n llawen nerth eu pennau.
13 Doedd y bobl ddim yn gallu gwahaniaethu rhwng sŵn y gweiddi llawen a sŵn yr wylo, oherwydd roedd y bobl yn gweiddi mor uchel roedd y twrw i’w glywed o bell i ffwrdd.