Esra 4:1-24
4 Pan glywodd gelynion Jwda a Benjamin fod yr alltudion yn adeiladu teml i Jehofa, Duw Israel,
2 aethon nhw yn syth at Sorobabel a phenaethiaid y grwpiau o deuluoedd a dweud wrthyn nhw: “Gadewch i ninnau hefyd adeiladu gyda chi, oherwydd rydyn ni’n addoli eich Duw yn union fel rydych chi, ac rydyn ni wedi bod yn aberthu iddo ers dyddiau Esar-hadon, brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”
3 Ond dyma Sorobabel, Jesua, a gweddill penaethiaid grwpiau o deuluoedd Israel yn dweud wrthyn nhw: “Does gynnoch chi ddim hawl i adeiladu tŷ ein Duw gyda ni; ni yn unig fydd yn ei adeiladu i Jehofa, Duw Israel, yn union fel mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn inni.”
4 Wedyn, dyma bobl y wlad yn parhau i dorri ysbryd pobl Jwda a’u digalonni nhw, er mwyn gwneud iddyn nhw stopio adeiladu.
5 Talon nhw gynghorwyr i ddrysu eu cynlluniau holl ddyddiau Cyrus, brenin Persia, tan ddaeth Dareius yn frenin ar Persia.
6 Ar ddechrau teyrnasiad Ahasferus, ysgrifennon nhw gyhuddiad yn erbyn y bobl a oedd yn byw yn Jwda a Jerwsalem.
7 Ac yn nyddiau Artacsercses, brenin Persia, dyma Bislam, Mithredath, Tabeel, a gweddill ei gyd-weithwyr yn ysgrifennu at y Brenin Artacsercses; gwnaethon nhw gyfieithu’r llythyr i Aramaeg, gan ddefnyddio llythrennau Aramaeg.*
8 * Dyma Rehum, prif swyddog y llywodraeth, a Simsai yr ysgrifennydd, yn ysgrifennu llythyr yn erbyn Jerwsalem at y Brenin Artacsercses. Dyma beth roedd y llythyr yn ei ddweud:
9 (Daeth y llythyr oddi wrth Rehum, prif swyddog y llywodraeth, a Simsai yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-weithwyr, y barnwyr a’r is-lywodraethwyr, yr ysgrifenyddion, pobl Erech, y Babiloniaid, pobl Susa, hynny yw, yr Elamitiaid,
10 a gweddill y cenhedloedd y gwnaeth y brenin mawr a grymus, Asnappar, eu halltudio a’u setlo yn ninasoedd Samaria, ac yng ngweddill yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon,* ac nawr
11 dyma gopi o’r llythyr gwnaethon nhw ei anfon ato.)
“I’r Brenin Artacsercses oddi wrth dy weision, y dynion o’r ardal y Tu Hwnt i’r Afon:
12 Ein brenin, rydyn ni eisiau iti wybod fod yr Iddewon a wnaeth dy adael di i ddod aton ni wedi cyrraedd Jerwsalem. Maen nhw’n ailadeiladu’r ddinas ddrwg a gwrthryfelgar, ac maen nhw’n gorffen y waliau ac yn trwsio’r sylfeini.
13 Nawr, ein brenin, rydyn ni eisiau iti wybod, os bydd y ddinas hon yn cael ei hailadeiladu a’i waliau yn cael eu cwblhau, ni fydd y bobl sy’n byw yno yn talu unrhyw dreth na tholl, ac o ganlyniad i hyn bydd trysordai’r brenin ar eu colled.
14 Gan ein bod ni’n bwyta halen y palas,* dydy hi ddim yn iawn inni weld y brenin ar ei golled. Dyna pam rydyn ni’n ysgrifennu’r llythyr hwn, er mwyn dy wneud di’n ymwybodol o’r peth,
15 fel y byddi di’n gallu ymchwilio yn llyfr hanes dy hynafiaid. Drwy edrych drwy’r llyfr hwnnw, fe wnei di weld bod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar ac yn niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, ac mae pobl y ddinas hon wedi bod yn annog gwrthryfel ers amser maith. Dyna pam cafodd y ddinas ei dinistrio.
16 Ein brenin, rydyn ni eisiau iti wybod, os bydd y ddinas hon yn cael ei hailadeiladu, a’i waliau yn cael eu cwblhau, ni fydd gynnoch chi unrhyw reolaeth dros yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon.”
17 Anfonodd y brenin neges at Rehum, prif swyddog y llywodraeth, ac at Simsai yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-weithwyr a oedd yn byw yn Samaria ac yng ngweddill yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon:
“Cyfarchion!
18 Cafodd y ddogfen swyddogol y gwnaethoch chi ei hanfon ei darllen yn glir* o fy mlaen i.
19 Ar fy ngorchymyn i ymchwiliodd fy ngweision y mater, a gwnaethon nhw ddarganfod bod y ddinas hon wedi achosi helynt i frenhinoedd, a bod brad a gwrthryfel wedi codi ynddi ers amser maith.
20 Roedd brenhinoedd pwerus yn Jerwsalem yn rheoli dros yr holl ardal y Tu Hwnt i’r Afon, a chafodd trethi a thollau eu talu iddyn nhw.
21 Nawr, gorchmynnwch i’r dynion hyn stopio gweithio, fel na fydd y ddinas yn cael ei hailadeiladu nes imi orchymyn fel arall.
22 Gwnewch yn siŵr fod hyn yn digwydd fel na fydd y sefyllfa yn parhau i gael effaith ddrwg ar y brenin.”
23 Nawr, ar ôl i gopi o ddogfen swyddogol y Brenin Artacsercses gael ei ddarllen o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd a’u cyd-weithwyr, aethon nhw ar frys at yr Iddewon yn Jerwsalem, a thrwy nerth braich eu gorfodi nhw i stopio gweithio.
24 Felly daeth y gwaith ar dŷ Dduw yn Jerwsalem i stop; ac felly roedd hi tan yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius, brenin Persia.
Troednodiadau
^ Neu efallai, “cafodd ei ysgrifennu yn Aramaeg ac yna ei gyfieithu.”
^ Cafodd Esr 4:8 hyd 6:18 ei ysgrifennu’n wreiddiol yn Aramaeg.
^ Yn cyfeirio at y tiriogaethau i’r gorllewin o Afon Ewffrates.
^ Neu “Gan ein bod ni’n derbyn cyflog gan y palas.”
^ Neu efallai, “ei chyfieithu a’i darllen.”