Esra 5:1-17
5 Yna dyma’r proffwydi Haggai a Sechareia ŵyr Ido, yn proffwydo i’r Iddewon a oedd yn Jwda a Jerwsalem, yn enw Duw Israel a oedd gyda nhw.
2 Dyna pryd gwnaeth Sorobabel fab Sealtiel a Jesua fab Jehosadac ddechrau ailadeiladu tŷ Dduw a oedd yn Jerwsalem; ac roedd proffwydi Duw gyda nhw ac yn eu cefnogi nhw.
3 Yna dyma Tatnai, llywodraethwr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon,* a Sethar-bosnai a’u cyd-weithwyr yn dod atyn nhw ac yn gofyn: “Pwy sydd wedi gorchymyn ichi adeiladu’r tŷ hwn ac i gwblhau’r gwaith?”
4 Yna gofynnon nhw: “Beth ydy enwau’r dynion sy’n gweithio ar yr adeilad hwn?”
5 Ond roedd Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, felly ni wnaethon nhw eu stopio rhag adeiladu nes iddyn nhw anfon adroddiad at Dareius a chael ateb swyddogol yn ôl ganddo.
6 Dyma Tatnai, llywodraethwr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon, a Sethar-bosnai a’i gyd-weithwyr, is-lywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon, yn ysgrifennu at y Brenin Dareius. Dyma gopi o’r llythyr hwnnw;
7 anfonon nhw adroddiad ato, a dyma wnaethon nhw ei ysgrifennu:
“I’r Brenin Dareius:
“Heddwch iti!
8 Ein brenin, rydyn ni eisiau iti wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda, i dŷ’r Duw mawr, ac mae’n cael ei adeiladu â cherrig anferth sy’n cael eu rholio i’w lle, ac mae’r trawstiau yn cael eu gosod yn y waliau. Mae’r bobl yn brysur yn gwneud y gwaith ac yn gwneud cynnydd mawr oherwydd eu hymdrechion.
9 Yna gwnaethon ni holi eu henuriaid, ‘Pwy sydd wedi gorchymyn ichi adeiladu’r tŷ hwn ac i gwblhau’r gwaith?’
10 Gwnaethon ni hefyd ofyn am eu henwau er mwyn iti gael gwybod, er mwyn inni allu cofnodi enwau’r dynion sy’n cymryd y blaen.
11 “Dyma’r ateb a gawson ni: ‘Rydyn ni’n weision i’r Duw sy’n rheoli’r nefoedd a’r ddaear, ac rydyn ni’n ailadeiladu’r tŷ a gafodd ei adeiladu lawer o flynyddoedd yn ôl, yr un gwnaeth un o frenhinoedd mawr Israel ei adeiladu a’i orffen.
12 Ond, am fod ein tadau wedi gwylltio Duw y nefoedd, gwnaeth ef eu rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, y Caldead, a wnaeth chwalu’r tŷ hwn ac alltudio’r bobl i Fabilon.
13 Ond yna, ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus, brenin Babilon, gorchmynnodd y Brenin Cyrus i dŷ Dduw gael ei ailadeiladu.
14 Hefyd, cymerodd y Brenin Cyrus y llestri aur ac arian allan o’r deml ym Mabilon, y rhai roedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o dŷ Dduw yn Jerwsalem a’u rhoi yn y deml ym Mabilon. Cawson nhw eu rhoi i ddyn o’r enw Sesbassar,* yr un roedd Cyrus wedi ei benodi’n llywodraethwr.
15 Dywedodd Cyrus wrtho: “Cymera’r llestri hyn. Dos, a rho nhw yn y deml yn Jerwsalem, ac ailadeilada dŷ Dduw ar ei safle gwreiddiol.”
16 Yna daeth Sesbassar a gosod sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem; ac rydyn ni wedi bod yn ei adeiladu ers hynny, ond heb orffen eto.’
17 “Nawr os wyt ti’n cytuno, ein brenin, anfona rywun i chwilio drwy’r cofnodion yn y trysordy brenhinol ym Mabilon i weld a ydy’r Brenin Cyrus wedi gorchymyn i dŷ Dduw gael ei ailadeiladu yn Jerwsalem; a gad inni wybod beth yw penderfyniad y brenin ynglŷn â hyn.”
Troednodiadau
^ Yn cyfeirio at y tiriogaethau i’r gorllewin o Afon Ewffrates.