Esra 6:1-22
6 Dyna pryd gwnaeth y Brenin Dareius orchymyn iddyn nhw chwilio’r archif yn y trysordy ym Mabilon.
2 A daethon nhw o hyd i sgrôl yn y gaer yn Ecbatana, yn nhalaith Media, a dyma beth roedd wedi ei gofnodi arni:
3 “Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad y Brenin Cyrus, rhoddodd orchymyn ynglŷn â thŷ Dduw yn Jerwsalem: ‘Gadewch i’r tŷ gael ei ailadeiladu fel lle iddyn nhw offrymu aberthau, a dylai ei sylfeini gael eu gosod yn gadarn; dylai fod yn 60 cufydd* o uchder, a 60 cufydd o led,
4 gyda thair haen o gerrig anferth wedi eu rholio i’w lle ac un haen o drawstiau; a dylai’r arian ar gyfer y prosiect ddod o drysordy’r brenin.
5 A dylai’r llestri aur ac arian gael eu cymryd yn ôl i Jerwsalem, i le roedden nhw—y rhai gwnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Fabilon—dylen nhw gael eu rhoi yn ôl yn nhŷ Dduw yn Jerwsalem.’
6 “Felly Tatnai, llywodraethwr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon,* Sethar-bosnai, a’ch cyd-weithwyr, is-lywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon—cadwch draw o fan ’na.
7 Peidiwch ag amharu ar y gwaith ar dŷ Dduw. Bydd llywodraethwr yr Iddewon a henuriaid yr Iddewon yn ailadeiladu tŷ Dduw ar ei safle gwreiddiol.
8 Ar ben hynny, dyma fy ngorchymyn ynglŷn â beth dylech chi ei wneud ar gyfer henuriaid yr Iddewon er mwyn iddyn nhw allu ailadeiladu tŷ Dduw: O’r trysordy brenhinol, o’r trethi sydd wedi cael eu casglu o’r ardal y Tu Hwnt i’r Afon, dylai arian gael ei roi i’r dynion hyn heb oedi er mwyn iddyn nhw allu parhau i weithio.
9 A phob dydd, heb os, dylech chi roi i’r offeiriaid yn Jerwsalem yr hyn maen nhw’n gofyn amdano—teirw ifanc yn ogystal â hyrddod* ac ŵyn ar gyfer yr offrymau llosg i Dduw y nef, gwenith, halen, gwin, ac olew.
10 Gwnewch hyn fel eu bod nhw’n gallu parhau i gyflwyno offrymau sy’n plesio Duw y nefoedd ac i weddïo dros fywyd y brenin a’i feibion.
11 Rydw i hefyd wedi gorchymyn, os bydd unrhyw un yn mynd yn erbyn y ddeddf hon, bydd trawst yn cael ei dynnu o’i dŷ a bydd yn cael ei hoelio arno,* a bydd ei dŷ yn cael ei droi’n domen oherwydd ei drosedd.
12 A gadewch i’r Duw sydd wedi gosod ei enw yno orchfygu unrhyw frenin neu bobl sy’n mynd yn erbyn y gorchymyn hwn ac yn dinistrio tŷ Dduw sydd yn Jerwsalem. Y fi, Dareius, sy’n rhoi’r gorchymyn hwn. Ewch ati ar unwaith.”
13 Yna dyma Tatnai, llywodraethwr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon, Sethar-bosnai, a’u cyd-weithwyr yn mynd ati yn syth i wneud popeth roedd y Brenin Dareius wedi ei orchymyn.
14 A dyma henuriaid yr Iddewon yn dal ati i adeiladu a gwneud cynnydd, ac roedd proffwydoliaethau Haggai a Sechareia ŵyr Ido yn eu hannog; gorffennon nhw’r gwaith adeiladu yn ôl gorchymyn Duw Israel ac yn ôl gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artacsercses, brenin Persia.
15 Gwnaethon nhw orffen y tŷ ar y trydydd diwrnod o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius.
16 Wedyn, dyma’r Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a gweddill yr alltudion a oedd wedi dod yn ôl, i gyd yn llawenhau wrth iddyn nhw gysegru tŷ Dduw.
17 Ac ar gyfer cysegriad tŷ Dduw, dyma nhw’n cyflwyno 100 tarw, 200 hwrdd, 400 oen, a 12 bwch gafr fel offrwm dros bechod ar ran Israel, i gyfateb â’r nifer o lwythau yn Israel.
18 A dyma nhw’n penodi’r offeiriaid yn eu grwpiau a’r Lefiaid yn eu grwpiau ar gyfer gwasanaethu Duw yn Jerwsalem, yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr Moses.
19 A dyma’r alltudion a oedd wedi dod yn ôl yn dathlu’r Pasg ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis cyntaf.
20 Roedd pob un o’r offeiriaid a’r Lefiaid wedi eu puro eu hunain, fel eu bod nhw i gyd yn lân; lladdon nhw aberth y Pasg ar ran yr holl alltudion a oedd wedi dod yn ôl, ar ran eu cyd-offeiriaid, ac ar ran nhw eu hunain.
21 Dyma’r Israeliaid a oedd wedi dod yn ôl o Fabilon yn bwyta rhan o’r aberth hwnnw, ynghyd â phawb a oedd wedi ymuno â nhw ac a oedd wedi eu gwahanu eu hunain oddi wrth aflendid cenhedloedd y wlad er mwyn addoli Jehofa, Duw Israel.
22 Gwnaethon nhw hefyd ddathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod, oherwydd roedd Jehofa wedi gwneud iddyn nhw lawenhau, ac roedd ef wedi meddalu calon brenin Asyria tuag atyn nhw fel ei fod yn eu cefnogi nhw yn y gwaith o adeiladu tŷ’r gwir Dduw, Duw Israel.
Troednodiadau
^ Tua 26.7 m (87.6 tr).
^ Yn cyfeirio at y tiriogaethau i’r gorllewin o Afon Ewffrates.
^ Neu “meheryn.”
^ Neu “a bydd yn cael ei drywanu ganddo.”
^ Neu “14eg diwrnod.”