Esra 7:1-28
7 Ar ôl y pethau hyn, yn ystod teyrnasiad Artacsercses, brenin Persia, daeth Esra* yn ôl. Roedd yn fab i Seraia, mab Asareia, mab Hilceia,
2 mab Salum, mab Sadoc, mab Ahitub,
3 mab Amareia, mab Asareia, mab Meraioth,
4 mab Seraheia, mab Ussi, mab Bucci,
5 mab Abisua, mab Phineas, mab Eleasar, mab Aaron y prif offeiriad.
6 Daeth Esra i fyny o Fabilon. Roedd yn gopïwr* ac yn arbenigo yng Nghyfraith Moses,* yr un roedd Jehofa, Duw Israel, wedi ei rhoi. Caniataodd y brenin iddo gael popeth roedd yn gofyn amdano, oherwydd roedd llaw Jehofa ei Dduw gydag ef.
7 Aeth rhai o’r Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, y cantorion, y porthorion, a gweision y deml* i fyny i Jerwsalem yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Artacsercses.
8 A daeth Esra i Jerwsalem yn y pumed mis, yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad y brenin.
9 Ar ddiwrnod cyntaf y mis cyntaf, dechreuodd ar ei daith o Fabilon, a chyrhaeddodd Jerwsalem ar ddiwrnod cyntaf y pumed mis, oherwydd roedd llaw garedig ei Dduw gydag ef.
10 Roedd Esra wedi paratoi ei galon i* chwilio Cyfraith Jehofa a’i dilyn, ac i ddysgu ei deddfau a’i safonau yn Israel.
11 Dyma gopi o’r llythyr a roddodd y Brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r copïwr,* arbenigwr ar orchmynion Jehofa a’i ddeddfau i Israel:
12 * “Gan Artacsercses, brenin brenhinoedd, i Esra yr offeiriad, copïwr* Cyfraith Duw y nefoedd: Heddwch perffaith iti.
13 Rydw i wedi gorchymyn i bob un o bobl Israel yn fy nheyrnas, gan gynnwys eu hoffeiriaid a’u Lefiaid, os ydyn nhw’n fodlon mynd gyda ti i Jerwsalem, dylen nhw fynd.
14 Rwyt ti’n cael dy anfon gan y brenin a’i saith cynghorwr i weld a ydy Cyfraith dy Dduw sydd yn dy law yn cael ei dilyn yn Jwda a Jerwsalem.
15 Dylet ti hefyd gymryd yr arian a’r aur mae’r brenin a’i gynghorwyr wedi eu rhoi yn wirfoddol i Dduw Israel, sy’n byw yn Jerwsalem,
16 yn ogystal â’r holl arian a’r aur rwyt ti’n eu derbyn yn nhalaith gyfan Babilon, ynghyd â’r anrhegion mae’r bobl a’r offeiriaid yn eu rhoi yn wirfoddol i dŷ eu Duw, sydd yn Jerwsalem.
17 A heb oedi, dylet ti ddefnyddio’r arian hwn i brynu teirw, hyrddod,* ac ŵyn, yn ogystal â’r offrymau grawn a’r offrymau diod perthnasol, a dylet ti eu cyflwyno nhw ar allor tŷ dy Dduw yn Jerwsalem.
18 “A beth bynnag sy’n dda yn dy olwg di a dy frodyr, gwnewch hynny â gweddill yr arian a’r aur, yn ôl ewyllys dy Dduw.
19 Ac ynglŷn â’r holl lestri sy’n cael eu rhoi iti ar gyfer gwasanaeth tŷ dy Dduw, dylet ti eu cyflwyno nhw o flaen Duw yn Jerwsalem.
20 Ac ynglŷn â gweddill y pethau angenrheidiol ar gyfer tŷ dy Dduw, y pethau mae’n rhaid iti eu rhoi, cymera nhw allan o’r trysordy brenhinol.
21 “Dyma rydw i, y Brenin Artacsercses, wedi ei orchymyn i holl drysoryddion yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon:* Rhowch i Esra yr offeiriad, copïwr* Cyfraith Duw y nefoedd, bopeth mae’n ei ofyn amdano heb oedi,
22 hyd at 100 talent* o arian, 100 mesur corus* o wenith, 100 mesur bath* o win, 100 mesur bath o olew, a halen heb fesur.
23 Gad i bob un o orchmynion Duw y nefoedd gael eu gwneud â sêl dros dŷ Dduw y nefoedd, fel na fydd ef yn digio yn erbyn pobl teyrnas y brenin na meibion y brenin.
24 Rydw i hefyd yn cyhoeddi, ni ddylai neb fynnu treth na tholl ar unrhyw un o’r offeiriaid, y Lefiaid, y cantorion, y porthorion, gweision y deml,* a gweithwyr tŷ Dduw.
25 “A ti Esra, yn ôl y doethineb sydd gen ti gan dy Dduw, penoda ynadon a barnwyr i farnu’r holl bobl yn yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon, pawb sy’n gyfarwydd â chyfreithiau dy Dduw; a dylet ti eu dysgu nhw i unrhyw un sydd ddim yn gyfarwydd â nhw.
26 Ac ynglŷn â phawb sydd ddim yn ufuddhau i Gyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, dylai dderbyn ei gosb heb oedi, p’un a fyddai hynny’n farwolaeth, alltudiaeth, dirwy, neu garchariad.”
27 Clod i Jehofa, Duw ein cyndadau, a wnaeth ddylanwadu ar galon y brenin er mwyn sicrhau bod tŷ Jehofa yn Jerwsalem yn hardd!
28 Ac mae ef wedi dangos cariad ffyddlon tuag ata i o flaen y brenin a’i gynghorwyr a holl dywysogion grymus y brenin. Felly gwnes i fagu dewrder oherwydd roedd llaw Jehofa fy Nuw gyda mi, a gwnes i gasglu rhai o benaethiaid Israel i fynd i fyny gyda mi.
Troednodiadau
^ Sy’n golygu “Help.”
^ Neu “yn ysgrifennydd.”
^ Neu “Roedd yn gopïwr medrus o Gyfraith Moses.”
^ Neu “a’r Nethinim.”
^ Neu “wedi penderfynu yn ei galon.”
^ Neu “a’r ysgrifennydd.”
^ Cafodd Esr 7:12 hyd 7:26 ei ysgrifennu’n wreiddiol yn Aramaeg.
^ Neu “ysgrifennydd.”
^ Neu “meheryn.”
^ Yn cyfeirio at y tiriogaethau i’r gorllewin o Afon Ewffrates.
^ Neu “ysgrifennydd.”
^ Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
^ Roedd un corus yn gyfartal â 220 L.
^ Roedd un bath yn gyfartal â 22 L (4.84 gal).
^ Neu “y Nethinim.”