Esra 8:1-36
8 Nawr dyma oedd penaethiaid y grwpiau o deuluoedd a chofrestr achau teuluol y rhai a ddaeth gyda mi allan o Fabilon yn ystod teyrnasiad y Brenin Artacsercses:
2 o blith meibion Phineas, Gersom; o blith meibion Ithamar, Daniel; o blith meibion Dafydd, Hattus;
3 o blith meibion Sechaneia, o blith meibion Paros, Sechareia, a gydag ef roedd ’na 150 gwryw yng nghofrestr ei achau teuluol;
4 o blith meibion Pahath-moab, Elio-enai fab Seraheia, a 200 gwryw gydag ef;
5 o blith meibion Sattu, Sechaneia fab Jehasiel, a 300 gwryw gydag ef;
6 o blith meibion Adin, Ebed fab Jonathan, a 50 gwryw gydag ef;
7 o blith meibion Elam, Jesaia fab Athaleia, a 70 gwryw gydag ef;
8 o blith meibion Seffateia, Sebadeia fab Michael, ac 80 gwryw gydag ef;
9 o blith meibion Joab, Obadeia fab Jehiel, a 218 gwryw gydag ef;
10 o blith meibion Bani, Selomith fab Josiffeia, a 160 gwryw gydag ef;
11 o blith meibion Bebai, Sechareia fab Bebai, a 28 gwryw gydag ef;
12 o blith meibion Asgad, Johanan fab Haccatan, a 110 gwryw gydag ef;
13 o blith meibion Adonicam, y tri olaf i ddod yn ôl, hynny yw, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a 60 gwryw gyda nhw;
14 ac o blith meibion Bigfai, Uthai a Sabbud, a 70 gwryw gyda nhw.
15 Gwnes i eu casglu nhw at ei gilydd wrth yr afon sy’n dod i Ahafa, a dyma ni’n gwersylla yno am dri diwrnod. Ond pan edrychais drwy’r gwersyll, doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw Lefiaid yno.
16 Felly anfonais am Elieser, Ariel, Semaia, Elnathan, Jarib, Elnathan, Nathan, Sechareia, a Mesulam a oedd yn arwain, ac am Joiarib ac Elnathan a oedd yn athrawon.
17 Yna rhoddais orchymyn iddyn nhw ynglŷn ag Ido a oedd yn arwain yn y lle o’r enw Casiffeia. Gofynnais iddyn nhw ddweud wrth Ido a’i frodyr, a oedd yn weision y deml* yn Casiffeia: “Rydyn ni eisiau ichi ddod â gweision yma ar gyfer tŷ ein Duw.”
18 Gan fod llaw garedig ein Duw gyda ni, daethon nhw â dyn call o blith meibion Mahli, ŵyr Lefi fab Israel, hynny yw, Serebeia, a’i feibion a’i frodyr, 18 o ddynion;
19 a Hasabeia, a gydag ef Jesaia o blith y Merariaid, ei frodyr a’i feibion, 20 o ddynion.
20 Ac fe roedd ’na 220 o weision y deml* roedd Dafydd a’r tywysogion wedi eu rhoi i’r Lefiaid fel gweision, roedden nhw i gyd wedi cael eu cofrestru yn ôl eu henwau.
21 Yna cyhoeddais gyfnod o ymprydio wrth afon Ahafa er mwyn ymostwng o flaen ein Duw, a gofyn iddo ein harwain ni ar ein taith, ni a’n plant a’n holl eiddo.
22 Roedd arna i gywilydd gofyn i’r brenin am filwyr a marchogion i’n hamddiffyn ni yn erbyn gelynion ar hyd y ffordd, oherwydd dywedon ni wrth y brenin: “Mae llaw garedig ein Duw gyda’r rhai sy’n ei geisio, ond mae ei nerth a’i ddicter yn erbyn y rhai sy’n cefnu arno.”
23 Felly dyma ni’n ymprydio ac yn gofyn i Dduw am ei arweiniad ynglŷn â hyn, a dyma ef yn gwrando arnon ni.
24 Nesaf, gwnes i osod 12 o benaethiaid yr offeiriaid ar wahân, sef, Serebeia a Hasabeia, ynghyd â deg o’u brodyr.
25 Yna gwnes i bwyso’r arian, yr aur, a’r llestri a’u rhoi nhw iddyn nhw. Roedd y brenin a’i gynghorwyr a’i dywysogion a’r holl Israeliaid a oedd yno wedi cyfrannu’r pethau hyn i dŷ ein Duw.
26 Ar ôl imi eu pwyso dyma fi’n rhoi iddyn nhw 650 talent* o arian, 100 o lestri arian a oedd werth 2 dalent, 100 talent o aur,
27 20 powlen fach aur werth 1,000 daric,* a 2 lestr o’r copr gorau wedi eu sgleinio’n goch, mor werthfawr ag aur.
28 Yna dywedais wrthyn nhw: “Rydych chi’n sanctaidd i Jehofa, ac mae’r llestri yn sanctaidd, ac mae’r arian a’r aur yn offrwm gwirfoddol i Jehofa, Duw eich cyndadau.
29 Gwarchodwch nhw’n ofalus nes ichi gyrraedd Jerwsalem. Yno, yn siambrau tŷ Jehofa, byddwch chi’n eu pwyso nhw o flaen penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid a thywysogion y grwpiau o deuluoedd yn Israel.”
30 Dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid yn cymryd yr arian a’r aur a’r llestri a oedd wedi cael eu pwyso er mwyn dod â nhw i dŷ ein Duw yn Jerwsalem.
31 Ar ôl hyn, dyma ni’n gadael Ahafa ar y deuddegfed* diwrnod o’r mis cyntaf er mwyn mynd i Jerwsalem, ac roedd llaw ein Duw gyda ni, a gwnaeth ef ein hachub ni o law gelynion a lladron ar hyd y ffordd.
32 Felly cyrhaeddon ni Jerwsalem ac aros yno am dri diwrnod.
33 Ac ar y pedwerydd diwrnod, pwyson ni’r arian a’r aur a’r llestri yn nhŷ ein Duw a’u rhoi nhw i Meremoth, mab Ureia yr offeiriad, a gydag ef roedd Eleasar fab Phineas, a gyda nhw roedd y Lefiaid Josabad fab Jesua a Noadeia fab Binnui.
34 Cafodd popeth ei rifo a’i bwyso, a chafodd y pwysau ei gofnodi.
35 Dyma’r alltudion a oedd wedi dod yn ôl yn cyflwyno aberthau llosg i Dduw Israel, 12 tarw ar gyfer Israel gyfan, 96 hwrdd,* 77 oen gwryw, a 12 bwch gafr fel offrwm dros bechod; roedd y rhain i gyd yn offrwm llosg i Jehofa.
36 Yna rhoddon ni ddeddfau’r brenin i’w benaethiaid ar lywodraethwyr y taleithiau ac i lywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon,* a dyma nhw’n cefnogi’r bobl a thŷ’r gwir Dduw.
Troednodiadau
^ Neu “y Nethinim.”
^ Neu “o’r Nethinim.”
^ Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
^ Roedd daric yn geiniog aur Bersiaidd.
^ Neu “12fed.”
^ Neu “maharen.”
^ Yn cyfeirio at y tiriogaethau i’r gorllewin o Afon Ewffrates.