Esra 9:1-15
9 Ac unwaith i’r pethau hyn ddigwydd, daeth y tywysogion ata i a dweud: “Dydy pobl Israel, yr offeiriaid, na’r Lefiaid ddim wedi eu gwahanu eu hunain oddi wrth bobl y gwledydd o’n cwmpas a’u harferion ffiaidd, arferion y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a’r Amoriaid.
2 Maen nhw wedi cymryd rhai o’u merched fel gwragedd ar eu cyfer nhw eu hunain ac ar gyfer eu meibion. Nawr maen nhw, y bobl sanctaidd, wedi cymysgu â phobl y gwledydd o’n cwmpas. Y tywysogion a’r is-swyddogion oedd y cyntaf i bechu.”
3 Nawr unwaith imi glywed hyn, wnes i rwygo fy nillad a fy nghôt heb lewys a thynnu gwallt fy mhen a fy marf, ac eistedd i lawr mewn braw.
4 Yna dyma bawb a oedd yn parchu geiriau Duw Israel yn casglu o fy nghwmpas i oherwydd anffyddlondeb yr alltudion a oedd wedi dod yn ôl, tra o’n i’n eistedd mewn braw tan offrwm grawn y noswaith.
5 Ac ar adeg offrwm grawn y noswaith, sefais i fyny o le roeddwn i wedi bod yn galaru, gyda fy nillad a fy nghôt heb lewys wedi eu rhwygo, ac es i ar fy ngliniau ac estyn fy nwylo tuag at Jehofa fy Nuw.
6 A dywedais i: “O fy Nuw, mae arna i gywilydd troi atat ti mewn gweddi oherwydd mae ein pechodau wedi pentyrru dros ein pennau, O fy Nuw, ac mae ein heuogrwydd wedi cyrraedd y nefoedd.
7 Ers dyddiau ein cyndadau hyd heddiw, mae ein heuogrwydd wedi bod yn fawr; ac oherwydd ein pechodau rydyn ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid wedi bod yn nwylo brenhinoedd y cenhedloedd, maen nhw wedi ein lladd ni â’r cleddyf, ein cymryd ni i gaethiwed, dwyn ein heiddo, a’n cywilyddio, ac mae’r un pethau yn digwydd hyd heddiw.
8 Ond nawr am foment fer, mae Jehofa ein Duw wedi bod yn garedig â ni drwy adael i rai ohonon ni ddianc a thrwy adael inni fyw yn ddiogel yn ei le sanctaidd, i wneud i’n llygaid ddisgleirio, O Dduw, ac i’n hadfywio ni ychydig yn ein caethiwed.
9 Oherwydd er ein bod ni’n gaethweision, nid ydy ein Duw wedi cefnu arnon ni yn ein caethiwed; mae ef wedi estyn ei gariad ffyddlon tuag aton ni o flaen brenhinoedd Persia, i’n hadfywio ni er mwyn inni ailadeiladu tŷ ein Duw ac i’w godi o’i adfeilion ac i’n hamddiffyn ni* yn Jwda a Jerwsalem.
10 “Ond nawr beth gallwn ni ei ddweud ar ôl hyn, O Dduw? Oherwydd rydyn ni wedi cefnu ar dy orchmynion,
11 y rhai gwnest ti eu rhoi inni drwy dy weision y proffwydi, gan ddweud: ‘Mae’r wlad rydych chi am fynd i mewn iddi a’i hetifeddu yn amhur oherwydd mae’r bobl yno yn amhur. Maen nhw wedi llenwi’r wlad o un pen i’r llall gyda’u harferion ffiaidd a’u haflendid.
12 Felly peidiwch â rhoi eich merched chi i’w meibion nhw, na derbyn eu merched nhw ar gyfer eich meibion chi, a pheidiwch byth â chyfrannu at eu heddwch na’u llwyddiant, fel y byddwch yn tyfu’n gryf ac yn bwyta cynnyrch da’r tir ac yn ei roi fel etifeddiaeth i’ch meibion am byth.’
13 Ar ôl i’r holl bethau hyn ddigwydd inni oherwydd ein gweithredoedd drwg a’n heuogrwydd mawr—oherwydd dwyt ti, ein Duw, ddim wedi delio â ni yn ôl ein pechod, ac rwyt ti wedi caniatáu inni ddianc—
14 a ydyn ni am fynd yn erbyn dy orchmynion unwaith eto a gwneud cytundebau drwy briodas* â’r bobl sy’n gwneud y pethau ffiaidd hyn? Oni fyddet ti mor ddig tuag aton ni fel y byddi di’n ein dinistrio ni’n llwyr gan adael i neb ddianc na goroesi?
15 O Jehofa, Duw Israel, rwyt ti’n gyfiawn, oherwydd mae rhai ohonon ni wedi goroesi hyd heddiw. Dyma ni yn euog o dy flaen di, er ei bod hi’n amhosib inni sefyll o dy flaen di oherwydd hyn.”