At y Galatiaid 6:1-18
6 Frodyr, hyd yn oed os yw dyn yn cymryd cam gwag cyn iddo fod yn ymwybodol o’r peth, y chi sydd â’r cymwysterau ysbrydol, ceisiwch roi dyn o’r fath ar ben ffordd mewn ysbryd o addfwynder. Ond cadwa lygad arnat ti dy hyn, rhag ofn i tithau hefyd gael dy demtio.
2 Daliwch ati i gario beichiau eich gilydd, ac felly fe fyddwch chi’n cyflawni cyfraith Crist.
3 Oherwydd os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn rhywbeth ac yntau’n ddim byd, mae’n ei dwyllo ei hun.
4 Ond dylai pob un dalu sylw i’w weithredoedd ei hun, ac yna y bydd ganddo achos i lawenhau ynddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn cymhariaeth â rhywun arall.
5 Oherwydd bydd pob un yn cario ei lwyth* ei hun.
6 Ar ben hynny, dylai unrhyw un sy’n cael ei ddysgu am y gair rannu pob peth da â’r un sy’n rhoi hyfforddiant o’r fath.
7 Peidiwch â chael eich camarwain: Allwch chi ddim gwneud ffŵl o Dduw. Oherwydd beth bynnag mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi;
8 oherwydd bydd yr un sy’n hau i’w gnawd yn medi llygredigaeth o’i gnawd, ond bydd yr un sy’n hau i’r ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o’r ysbryd.
9 Felly, mae’n rhaid inni beidio â rhoi’r gorau i wneud daioni, oherwydd pan ddaw’r amser penodedig fe fyddwn ni’n medi os nad ydyn ni’n blino’n lân.*
10 Felly, tra bydd y cyfle gynnon ni, gadewch inni wneud yr hyn sy’n dda i bawb, ond yn enwedig i’n brodyr a’n chwiorydd yn y ffydd.
11 Edrychwch pa mor fawr ydy’r llythrennau rydw i fy hun wedi eu hysgrifennu atoch chi.
12 Y rhai sydd eisiau gwneud argraff dda yn y cnawd* ydy’r rhai sy’n ceisio eich cymell chi i gael eich enwaedu, ac yn gwneud hynny dim ond er mwyn osgoi cael eu herlid o achos stanc dienyddio’r* Crist.
13 Oherwydd dydy hyd yn oed y rhai sy’n cael eu henwaedu ddim yn cadw’r Gyfraith, ond maen nhw eisiau i chi gael eich enwaedu er mwyn iddyn nhw gael rheswm dros frolio o achos eich cnawd.
14 Ond dydw i byth eisiau brolio, oni bai am ein Harglwydd Iesu Grist sydd wedi marw ar y stanc dienyddio.* Trwy ei farwolaeth ef mae’r byd wedi cael ei roi i farwolaeth* i mi, a minnau i’r byd.
15 Oherwydd dydy enwaediad na dienwaediad ddim yn bwysig, ond yr hyn sy’n wir yn bwysig ydy bod Duw yn eich gwneud chi’n berson newydd.*
16 Pawb sy’n cerdded yn ôl y rheol hon, heddwch a thrugaredd arnyn nhw, ie, ar Israel Duw.
17 O hyn ymlaen gadewch i neb achosi trwbl imi, oherwydd mae gen i greithiau wedi eu serio ar fy nghorff sy’n dangos fy mod i’n gaethwas i Iesu.
18 Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist fod gyda’r ysbryd rydych chi’n ei ddangos, frodyr. Amen.
Troednodiadau
^ Neu “ei lwyth cyfrifoldeb.”
^ Neu “rhoi’r gorau iddi.”
^ Neu “sydd eisiau edrych yn dda ar y tu allan.”
^ Neu “ei ddienyddio ar y stanc.”
^ Neu “yn greadigaeth newydd.”