Genesis 1:1-31
1 Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.
2 Nawr roedd y ddaear yn ddi-siâp ac yn wag, ac roedd ’na dywyllwch ar wyneb y dŵr dwfn,* ac roedd ysbryd* Duw yn symud o gwmpas uwchben wyneb y dyfroedd.
3 A dywedodd Duw: “Bydd ’na oleuni.”* Yna roedd ’na oleuni.
4 Ar ôl hynny gwelodd Duw fod y goleuni yn dda, a dechreuodd Duw wahanu’r goleuni oddi wrth y tywyllwch.
5 Dyma Duw’n galw’r goleuni yn Ddydd, ond yn galw’r tywyllwch yn Nos. Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y dydd* cyntaf.
6 Yna dywedodd Duw: “Bydd atmosffer* rhwng y dyfroedd, a bydd y dyfroedd yn cael eu gwahanu oddi wrth y dyfroedd.”
7 Yna aeth Duw ymlaen i greu’r atmosffer ac i wahanu’r dyfroedd o dan yr atmosffer oddi wrth y dyfroedd uwchben yr atmosffer. A dyna ddigwyddodd.
8 Dyma Duw’n galw’r atmosffer yn Nef.* Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, yr ail ddydd.
9 Yna dywedodd Duw: “Bydd y dyfroedd o dan y nefoedd yn cael eu casglu i mewn i un lle, a bydd tir sych yn ymddangos.” A dyna ddigwyddodd.
10 Galwodd Duw y tir sych yn Ddaear, ond galwodd y dyfroedd, a oedd wedi casglu at ei gilydd, yn Foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
11 Yna dywedodd Duw: “Bydd y ddaear yn achosi i laswellt* dyfu ynghyd â phlanhigion sy’n cynhyrchu hadau, a choed ffrwythau yn ôl eu mathau, sy’n dwyn ffrwyth â hadau ar y ddaear.” A dyna ddigwyddodd.
12 A dechreuodd y ddaear gynhyrchu glaswellt,* planhigion sy’n cynhyrchu hadau, a choed ffrwythau â hadau, yn ôl eu mathau. Yna gwelodd Duw fod hyn yn dda.
13 Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y trydydd dydd.
14 Yna dywedodd Duw: “Bydd goleuadau yn yr awyr* i wahanu’r dydd oddi wrth y nos, a byddan nhw’n arwyddion ar gyfer y tymhorau ac ar gyfer dyddiau a blynyddoedd.
15 Byddan nhw’n oleuadau yn yr awyr i ddisgleirio ar y ddaear.” A dyna ddigwyddodd.
16 Ac aeth Duw ymlaen i wneud y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli’r dydd a’r golau lleiaf i reoli’r nos, a hefyd creodd y sêr.
17 Felly dyma Duw’n eu rhoi nhw yn yr awyr i ddisgleirio ar y ddaear
18 ac i reoli yn ystod y dydd ac yn ystod y nos ac i wahanu’r goleuni oddi wrth y tywyllwch. Yna gwelodd Duw fod hyn yn dda.
19 Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y pedwerydd dydd.
20 Yna dywedodd Duw: “Bydd y dyfroedd yn llawn o greaduriaid* byw, a bydd y creaduriaid sy’n hedfan yn hedfan uwchben y ddaear ar draws yr awyr.”
21 A dyma Duw’n creu, yn ôl eu mathau, greaduriaid mawr y môr, a’r holl greaduriaid byw sy’n symud ac sy’n nofio gyda’i gilydd gan lenwi’r dyfroedd, a phob creadur ag adenydd sy’n hedfan. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
22 Gyda hynny dyma Duw’n eu bendithio nhw, gan ddweud: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y môr, a bydd y creaduriaid sy’n hedfan yn amlhau yn y ddaear.”
23 Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y pumed dydd.
24 Yna dywedodd Duw: “Bydd ’na greaduriaid byw* ar y ddaear yn ôl eu mathau, anifeiliaid domestig ac anifeiliaid sy’n ymlusgo* ac anifeiliaid gwyllt y ddaear yn ôl eu mathau.” A dyna ddigwyddodd.
25 Ac aeth Duw ymlaen i greu anifeiliaid gwyllt y ddaear yn ôl eu mathau a’r anifeiliaid domestig yn ôl eu mathau a’r holl anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl eu mathau. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
26 Yna dywedodd Duw: “Gad inni wneud dyn ar ein delw ni, i fod yn debyg inni, ac i reoli dros yr holl ddaear, a physgod y môr, a’r anifeiliaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a’r anifeiliaid domestig, a phob anifail sy’n ymlusgo ac sy’n symud ar y ddaear.”
27 Ac aeth Duw ymlaen i greu’r dyn ar ei ddelw, ar ddelw Duw y creodd ef y dyn; yn wryw a benyw y creodd ef nhw.
28 Ar ben hynny, dyma Duw’n eu bendithio nhw, ac yn dweud wrthyn nhw: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a gofalwch amdani, a rheolwch dros bysgod y môr, a’r creaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a phob creadur byw sy’n symud ar y ddaear.”
29 Yna dywedodd Duw: “Dyma fi wedi rhoi ichi bob planhigyn sy’n cynhyrchu had ar wyneb yr holl ddaear a phob coeden ffrwyth sy’n cynhyrchu hadau. Byddan nhw’n fwyd ichi.
30 Ac i bob anifail gwyllt ar y ddaear ac i bob creadur sy’n hedfan yn y nefoedd ac i bopeth sy’n symud ar y ddaear ac sydd â bywyd ynddo,* rydw i wedi rhoi’r holl blanhigion gwyrdd yn fwyd.” A dyna ddigwyddodd.
31 Ar ôl hynny gwelodd Duw bopeth roedd wedi ei wneud, ac edrycha! roedd yn dda iawn. Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y chweched dydd.
Troednodiadau
^ Neu “tonnog.”
^ Neu “grym gweithredol.”
^ Neu “bydded goleuni.”
^ Yn y Beibl, gall ‘dydd’ gyfeirio at gyfnodau gwahanol o amser, nid 24 awr yn unig.
^ Neu “ffurfafen.”
^ Neu “Awyr.”
^ Neu “i borfa.”
^ Neu “porfa.”
^ Neu “ffurfafen y nefoedd.”
^ Neu “eneidiau.”
^ Neu “eneidiau.”
^ Neu “anifeiliaid sy’n symud,” yn cynnwys mae’n debyg ymlusgiaid ac anifeiliaid sy’n wahanol i’r mathau eraill.
^ Neu “sy’n enaid byw.”