Genesis 13:1-18
13 Yna aeth Abram i fyny o’r Aifft i’r Negef, ef a’i wraig a phopeth oedd ganddo, a Lot hefyd.
2 Roedd Abram yn gyfoethog iawn o ran anifeiliaid, arian, ac aur.
3 Roedd yn gwersylla mewn un lle ar ôl y llall wrth iddo deithio o’r Negef i Fethel, hyd nes iddo gyrraedd y lle roedd ei babell wedi bod rhwng Bethel ac Ai,
4 i’r fan lle roedd wedi adeiladu allor yn gynharach. Yno galwodd Abram ar enw Jehofa.
5 Nawr roedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid, gwartheg, a phebyll.
6 Felly doedd y tir ddim yn caniatáu iddyn nhw i gyd aros yn yr un lle; roedd eu heiddo wedi dod mor niferus fel nad oedden nhw’n gallu byw gyda’i gilydd bellach.
7 O ganlyniad, cododd dadl rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot. (Bryd hynny roedd y Canaaneaid a’r Peresiaid yn byw yn y wlad.)
8 Felly dywedodd Abram wrth Lot: “Plîs, ni ddylai dadl byth godi rhyngot ti a minnau a rhwng dy fugeiliaid di a fy mugeiliaid innau, oherwydd brodyr ydyn ni.
9 Onid ydy’r holl wlad ar gael iti? Plîs, beth am inni wahanu? Os wyt ti’n mynd i’r chwith, yna fe wna i fynd i’r dde; ond os wyt ti’n mynd i’r dde, yna fe wna i fynd i’r chwith.”
10 Felly cododd Lot ei olwg a gweld fod gan holl ardal yr Iorddonen ddigon o ddŵr (cyn i Jehofa ddinistrio Sodom a Gomorra), fel gardd Jehofa, fel gwlad yr Aifft, hyd at Soar.
11 Yna dewisodd Lot iddo’i hun holl ardal yr Iorddonen, a symudodd Lot ei wersyll tua’r dwyrain. Felly dyma nhw’n gwahanu oddi wrth ei gilydd.
12 Roedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, ond roedd Lot yn byw ymysg dinasoedd yr ardal. Yn y diwedd gosododd ei babell wrth ymyl Sodom.
13 Nawr roedd dynion Sodom yn ddrwg, yn pechu’n fawr yn erbyn Jehofa.
14 Dywedodd Jehofa wrth Abram, ar ôl i Lot wahanu oddi wrtho: “Cod dy olwg, plîs, o’r fan lle rwyt ti, tua’r gogledd a’r de, y dwyrain a’r gorllewin,
15 oherwydd yr holl wlad a weli di, fe wna i ei rhoi iti ac i dy ddisgynyddion* yn eiddo parhaol.
16 A bydda i’n gwneud dy ddisgynyddion* di fel llwch y ddaear, felly petai unrhyw un yn gallu cyfri llwch y ddaear, yna byddai dy ddisgynyddion* di yn gallu cael eu cyfri.
17 Cod, teithia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti rydw i am ei rhoi.”
18 Felly roedd Abram yn parhau i fyw mewn pebyll. Yn nes ymlaen fe ddaeth i fyw ymhlith coed mawr Mamre, sydd yn Hebron, ac yno fe adeiladodd allor i Jehofa.