Genesis 16:1-16

  • Hagar ac Ismael (1-16)

16  Nawr doedd gwraig Abram, Sarai, ddim wedi geni unrhyw blant iddo, ond roedd ganddi forwyn o’r Aifft a’i henw hi oedd Hagar.  Felly dywedodd Sarai wrth Abram: “Plîs gwranda arna i! Mae Jehofa wedi fy rhwystro i rhag cael plant. Plîs, cysga gyda fy morwyn. Efallai galla i gael plant drwyddi hi.” Felly gwrandawodd Abram ar beth ddywedodd Sarai.  Ar ôl i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd gwraig Abram, Sarai, ei morwyn Hagar yr Eifftes a’i rhoi hi i’w gŵr Abram fel gwraig iddo.  Felly dyma ef yn cysgu gyda Hagar, a daeth hi’n feichiog. Ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n feichiog, dechreuodd hi edrych i lawr ar ei meistres.  Ar hynny dywedodd Sarai wrth Abram: “Ti sydd ar fai am imi gael fy ngham-drin fel hyn. Fi oedd yr un a roddodd fy morwyn yn dy freichiau di, ond ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n feichiog, dechreuodd hi edrych i lawr arna i. Bydd Jehofa’n barnu rhyngot ti a mi.”  Felly dywedodd Abram wrth Sarai: “Edrycha! Mae dy forwyn o dan dy awdurdod di. Gwna iddi hi beth bynnag rwyt ti’n meddwl sydd orau.” Yna dyma Sarai yn ei bychanu hi, a rhedodd Hagar i ffwrdd oddi wrthi.  Yn nes ymlaen gwnaeth angel Jehofa ddod o hyd iddi wrth ymyl ffynnon ddŵr yn yr anialwch, y ffynnon ar y ffordd i Sur.  A dywedodd ef: “Hagar, forwyn Sarai, o le rwyt ti wedi dod ac i le rwyt ti’n mynd?” Atebodd hithau: “Rydw i’n rhedeg i ffwrdd o fy meistres Sarai.”  Yna dywedodd angel Jehofa wrthi: “Dos yn ôl at dy feistres ac ymostwng o dan ei llaw hi.” 10  Yna dywedodd angel Jehofa: “Bydda i’n rhoi llawer iawn o ddisgynyddion* iti, fel bod ’na ormod ohonyn nhw i’w cyfri.” 11  Ychwanegodd angel Jehofa: “Dyma ti yn feichiog, a byddi di’n rhoi genedigaeth i fab, ac mae’n rhaid iti ei alw’n Ismael,* oherwydd mae Jehofa wedi clywed dy fod ti’n dioddef. 12  Fe fydd yn asyn* gwyllt o ddyn. Bydd ei law ef yn erbyn pawb, a bydd llaw pawb yn ei erbyn yntau, ac fe fydd yn byw ar wahân i’w holl frodyr.”* 13  Yna galwodd hi ar enw Jehofa, a oedd yn siarad â hi: “Rwyt ti’n Dduw sy’n gweld,” oherwydd dywedodd hi: “Ydw i wir wedi gweld yr un sy’n fy ngweld i?” 14  Dyna pam cafodd y ffynnon yr enw Beer-lahai-roi.* (Mae hi rhwng Cades a Bered.) 15  Felly rhoddodd Hagar enedigaeth i fab i Abram, a dyma Abram yn enwi ei fab, yr un a gafodd Hagar, yn Ismael. 16  Roedd Abram yn 86 mlwydd oed pan roddodd Hagar enedigaeth i Ismael.

Troednodiadau

Llyth., “had.”
Sy’n golygu “Mae Duw’n Clywed.”
Neu “onagr,” math o asyn gwyllt, er bod rhai’n meddwl ei fod yn cyfeirio at sebra. Yn fwy na thebyg yn cyfeirio at agwedd annibynnol.
Neu efallai, “ac fe fydd yn byw mewn gelyniaeth â’i holl frodyr.”
Sy’n golygu “Ffynnon yr Un Byw Sy’n Fy Ngweld I.”