Genesis 17:1-27
17 Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, ymddangosodd Jehofa i Abram a dweud wrtho: “Fi ydy Duw Hollalluog. Cerdda o fy mlaen i a phrofa dy hun yn ddi-fai.*
2 Bydda i’n sefydlu fy nghyfamod rhyngot ti a mi, a bydda i’n rhoi llawer iawn o ddisgynyddion iti.”
3 Ar hynny syrthiodd Abram ar ei wyneb, a dyma Duw’n parhau i siarad ag ef, gan ddweud:
4 “Edrycha! rydw i wedi gwneud fy nghyfamod â ti, a byddi di’n bendant yn dod yn dad i lawer o genhedloedd.
5 Nid Abram* fydd dy enw mwyach; byddi di’n cael dy enwi’n Abraham,* oherwydd rydw i’n mynd i dy wneud di’n dad i lawer o genhedloedd.
6 Bydda i’n dy wneud di’n ffrwythlon iawn fel y bydd llawer o genhedloedd yn dod ohonot ti, a bydd brenhinoedd yn dod ohonot ti.
7 “Ac fe wna i gadw fy nghyfamod rhyngot ti a mi a rhwng dy ddisgynyddion* di ar dy ôl drwy eu cenedlaethau i gyd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti ac i dy had di ar dy ôl.
8 A bydda i’n rhoi i ti ac i dy ddisgynyddion* ar dy ôl y wlad rwyt ti’n byw ynddi fel estronwr—holl wlad Canaan—yn eiddo tragwyddol, a bydda i’n Dduw iddyn nhw.”
9 Ar ben hynny dywedodd Duw wrth Abraham: “Rwyt ti i gadw fy nghyfamod, ti a dy ddisgynyddion* ar dy ôl drwy eu cenedlaethau i gyd.
10 Dyma fy nghyfamod rhyngoch chi a mi, y byddi di a dy ddisgynyddion* ar dy ôl yn ei gadw: Mae’n rhaid i bob gwryw yn eich plith gael ei enwaedu.
11 Mae’n rhaid ichi enwaedu cnawd eich blaengrwyn, a bydd hyn yn arwydd o’r cyfamod rhyngo i a chi.
12 Drwy eich cenedlaethau i gyd, mae’n rhaid i bob gwryw yn eich plith gael ei enwaedu yn wyth diwrnod oed, unrhyw un sy’n cael ei eni yn y tŷ ac unrhyw un sydd ddim yn un o dy ddisgynyddion* di, ond a gafodd ei brynu ag arian oddi wrth estronwr.
13 Mae’n rhaid enwaedu pob dyn sy’n cael ei eni yn dy dŷ a phob dyn a gafodd ei brynu â dy arian, ac mae’n rhaid i fy nghyfamod yn eich cnawd fod yn gyfamod tragwyddol.
14 Os dydy dyn heb ei enwaedu ddim yn enwaedu cnawd ei flaengroen, mae’n rhaid i’r person* hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* Mae wedi torri fy nghyfamod.”
15 Yna dywedodd Duw wrth Abraham: “Ynglŷn â dy wraig Sarai,* ni ddylet ti ei galw hi’n Sarai, oherwydd Sara* fydd ei henw hi o hyn ymlaen.
16 Fe wna i ei bendithio hi a rhoi mab iti drwyddi hi hefyd; fe wna i ei bendithio hi ac fe fydd hi’n dod yn genhedloedd; bydd brenhinoedd pobloedd yn dod ohoni hi.”
17 Ar hynny syrthiodd Abraham ar ei wyneb a dechreuodd chwerthin a dweud yn ei galon: “A fydd plentyn yn gallu cael ei eni i ddyn 100 mlwydd oed, ac a fydd Sara, dynes* 90 mlwydd oed, yn gallu rhoi genedigaeth?”
18 Felly dywedodd Abraham wrth y gwir Dduw: “Byddai’n dda petai Ismael yn gallu cael ei fendithio gen ti!”
19 Atebodd Duw: “Fe fydd dy wraig Sara yn bendant yn geni mab iti, ac mae’n rhaid iti ei alw’n Isaac.* Fe wna i sefydlu fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i’w ddisgynyddion* ar ei ôl.
20 Ond ynglŷn ag Ismael, rydw i wedi dy glywed di. Edrycha! Fe wna i ei fendithio ef a’i wneud yn ffrwythlon a bydd ganddo lawer iawn o ddisgynyddion. Bydd ef yn dad i 12 pennaeth, a bydda i’n ei wneud yn genedl fawr.
21 Fodd bynnag, fe wna i sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab bydd Sara’n ei eni iti ar yr amser penodedig hwn flwyddyn nesaf.”
22 Pan orffennodd Duw siarad ag ef, aeth i fyny oddi wrth Abraham.
23 Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael a’r holl ddynion a gafodd eu geni yn ei dŷ a phawb roedd ef wedi eu prynu ag arian, pob gwryw yn nhŷ Abraham, a dyma’n enwaedu cnawd eu blaengrwyn ar yr union ddiwrnod hwnnw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
24 Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd cnawd ei flaengroen ei enwaedu.
25 Ac roedd Ismael ei fab yn 13 mlwydd oed pan gafodd cnawd ei flaengroen ei enwaedu.
26 Ar yr union ddiwrnod hwnnw, cafodd Abraham ei enwaedu a hefyd ei fab Ismael.
27 Dyma holl ddynion ei dŷ, unrhyw un a gafodd ei eni yn ei dŷ ac unrhyw un a gafodd ei brynu ag arian oddi wrth estronwr, hefyd yn cael eu henwaedu gydag ef.
Troednodiadau
^ Neu “yn ddi-nam.”
^ Sy’n golygu “Tad Sy’n Uchel (yn Ddyrchafedig).”
^ Sy’n golygu “Tad i Dyrfa; Tad i Lawer.”
^ Llyth., “had.”
^ Llyth., “had.”
^ Llyth., “had.”
^ Llyth., “had.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “enaid.”
^ Neu “ei dorri ymaith oddi wrth ei bobl.”
^ Sy’n golygu efallai “Cynhennus; Cwerylgar.”
^ Sy’n golygu “Tywysoges.”
^ Neu “menyw.”
^ Sy’n golygu “Chwerthin.”
^ Llyth., “had.”