Genesis 22:1-24

  • Gorchymyn i Abraham offrymu Isaac (1-19)

    • Bendith oherwydd disgynnydd Abraham (15-18)

  • Teulu Rebeca (20-24)

22  Nawr ar ôl hyn, fe roddodd y gwir Dduw Abraham ar brawf, a dweud wrtho: “Abraham!” ac atebodd yntau: “Dyma fi!” 2  Yna fe ddywedodd: “Cymera, plîs, dy fab, dy unig fab rwyt ti’n ei garu gymaint, Isaac, a dos i wlad Moreia ac offryma ef yno yn offrwm llosg ar un o’r mynyddoedd y bydda i’n ei ddangos iti.” 3  Felly cododd Abraham yn gynnar yn y bore a pharatoi ei asyn a chymryd dau o’i weision gydag ef a’i fab Isaac. Holltodd y coed ar gyfer yr offrwm llosg, ac yna fe gododd a theithio i’r lle roedd y gwir Dduw wedi sôn wrtho amdano. 4  Ar y trydydd dydd, edrychodd Abraham a gweld y lle yn y pellter. 5  Yna dywedodd Abraham wrth ei weision: “Arhoswch chi yma gyda’r asyn, ond bydd y bachgen a minnau yn mynd i fan ’na i addoli a dod yn ôl atoch chi.” 6  Felly cymerodd Abraham y coed ar gyfer yr offrwm llosg a’u rhoi ar ei fab Isaac. Yna cymerodd y tân a’r gyllell yn ei ddwylo, a cherddodd y ddau ohonyn nhw ymlaen gyda’i gilydd. 7  Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham: “Fy nhad!” Atebodd yntau: “Ie, fy mab!” Felly aeth ymlaen: “Dyma’r tân a’r coed, ond lle mae’r oen gwryw ar gyfer yr offrwm llosg?” 8  Atebodd Abraham: “Bydd Duw ei hun yn darparu’r oen ar gyfer yr offrwm llosg, fy mab.” A cherddodd y ddau ohonyn nhw ymlaen gyda’i gilydd. 9  O’r diwedd cyrhaeddon nhw’r lle roedd y gwir Dduw wedi sôn wrtho amdano, ac adeiladodd Abraham allor yno a gosod y coed arni. Clymodd ef ddwylo a thraed ei fab Isaac a’i roi ar yr allor ar ben y coed. 10  Yna estynnodd Abraham ei law a chymryd y gyllell er mwyn lladd ei fab. 11  Ond dyma angel Jehofa yn galw arno o’r nefoedd a dweud: “Abraham, Abraham!” ac atebodd yntau: “Dyma fi!” 12  Yna dywedodd: “Paid â niweidio’r bachgen, a phaid â gwneud unrhyw beth o gwbl iddo, oherwydd rydw i’n gwybod nawr dy fod ti’n ofni Duw am nad wyt ti wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” 13  Ar hynny, edrychodd Abraham i fyny, ac yna o’i flaen roedd ’na hwrdd a’i gyrn yn sownd mewn llwyn trwchus. Felly aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a’i offrymu’n offrwm llosg yn lle ei fab. 14  A galwodd Abraham y lle hwnnw’n Jehofa-jire.* Dyna pam mae pobl yn dal i ddweud heddiw: “Ar fynydd Jehofa fe fydd yn cael ei ddarparu.” 15  A dyma angel Jehofa’n galw ar Abraham am yr ail dro o’r nefoedd, 16  gan ddweud: “‘Rydw i’n gwneud llw yn fy enw fy hun,’ meddai Jehofa, ‘oherwydd dy fod ti wedi gwneud hyn a dwyt ti ddim wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, 17  rydw i’n sicr yn mynd i dy fendithio di ac amlhau dy ddisgynyddion* fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr, a bydd dy ddisgynnydd* di yn meddiannu dinasoedd* ei elynion. 18  A thrwy gyfrwng dy ddisgynnydd* di bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio oherwydd dy fod ti wedi gwrando ar fy llais.’” 19  Ar ôl hynny aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw’n codi ac yn mynd yn ôl gyda’i gilydd i Beer-seba; a pharhaodd Abraham i fyw yn Beer-seba. 20  Ar ôl hynny, cafodd hyn ei ddweud wrth Abraham: “Mae Milca hefyd wedi geni meibion i Nachor dy frawd: 21  Us ei gyntaf-anedig, Bus ei frawd, Cemuel tad Aram, 22  Cesed, Haso, Pildas, Jidlaff, a Bethuel.” 23  Daeth Bethuel yn dad i Rebeca. Gwnaeth Milca eni’r wyth hyn i Nachor, brawd Abraham. 24  Fe wnaeth gwraig arall* iddo, sef Reuma, hefyd eni meibion: Teba, Gaham, Tahas, a Maacha.

Troednodiadau

Sy’n golygu “Bydd Jehofa’n Darparu; Bydd Jehofa’n Trefnu.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “dy byrth.”
Llyth., “had.”
Neu “gwraig ordderch.”