Genesis 34:1-31

  • Dina yn cael ei threisio (1-12)

  • Meibion Jacob yn ymddwyn yn dwyllodrus (13-31)

34  Nawr roedd Dina, merch Jacob drwy Lea, yn arfer mynd allan i dreulio amser gyda* merched* ifanc y wlad.  Pan wnaeth Sechem, mab Hamor yr Hefiad, ac un o benaethiaid y wlad, ei gweld hi, cymerodd hi a gorwedd i lawr gyda hi a’i threisio hi.  A doedd ef ddim yn gallu stopio meddwl am Dina, merch Jacob, a syrthiodd mewn cariad gyda’r ddynes* ifanc a cheisiodd ennill ei chalon hi gyda’i eiriau.*  Yn y pen draw dywedodd Sechem wrth ei dad Hamor: “Trefna i’r ddynes* ifanc hon ddod yn wraig imi.”  Pan glywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch Dina, roedd ei feibion gyda’i braidd yn y cae. Felly arhosodd Jacob yn ddistaw nes iddyn nhw ddod yn ôl.  Yn nes ymlaen, aeth Hamor, tad Sechem, allan i siarad â Jacob.  Ond roedd meibion Jacob wedi clywed am y peth a daethon nhw yn ôl o’r cae ar unwaith. Roedden nhw wedi cynhyrfu ac wedi digio am ei fod wedi dod â gwarth ar Israel drwy orwedd i lawr gyda merch Jacob, rhywbeth na ddylai ddigwydd.  Siaradodd Hamor â nhw gan ddweud: “Mae fy mab Sechem mewn cariad â’ch merch.* Plîs rhowch hi yn wraig iddo,  a gwnewch gytundeb â ni i roi eich merched i ddynion y ddinas hon, ac i chi gymryd merched y ddinas hon i’ch meibion chi. 10  Cewch chi fyw gyda ni, a bydd y wlad gyfan ar gael ichi. Arhoswch gyda ni a byw yma, cewch chi fasnachu a setlo yma.” 11  Yna dywedodd Sechem wrth dad a brodyr Dina: “Plîs byddwch yn garedig wrtho i, ac fe wna i roi ichi beth bynnag rydych chi’n gofyn imi amdano. 12  Cewch chi fynnu pris uchel iawn ac anrheg ddrud oddi wrtho i ar gyfer y briodferch. Rydw i’n fodlon rhoi ichi beth bynnag rydych chi eisiau. Dim ond ichi roi’r ddynes* ifanc yn wraig imi.” 13  Ond penderfynodd meibion Jacob dwyllo Sechem a Hamor ei dad oherwydd bod Sechem wedi treisio Dina eu chwaer. 14  Dywedon nhw wrthyn nhw: “Allwn ni ddim gwneud y fath beth, a rhoi ein chwaer i ddyn sydd heb gael ei enwaedu, oherwydd byddai hynny’n dod â gwarth arnon ni. 15  Allwn ni ond cytuno ar yr amod eich bod chi, fel ni, yn enwaedu pob gwryw yn eich plith. 16  Yna byddwn ni’n rhoi ein merched i chi ac yn cymryd eich merched chi i ni’n hunain, a byddwn ni’n byw gyda chi ac yn dod yn un bobl. 17  Ond os nad ydych chi’n gwrando arnon ni ac yn gwrthod cael eich enwaedu, yna byddwn ni’n cymryd ein merch ac yn mynd.” 18  Roedd eu geiriau yn plesio Hamor a’i fab Sechem. 19  Aeth y dyn ifanc ati’n syth i wneud fel roedden nhw wedi gofyn, oherwydd roedd wrth ei fodd â merch Jacob, ac ef oedd yr un mwyaf anrhydeddus yn nheulu ei dad. 20  Felly aeth Hamor a’i fab Sechem at giât y ddinas a siarad â dynion y ddinas gan ddweud: 21  “Mae’r dynion hyn eisiau heddwch rhyngon ni. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad a masnachu ynddi, oherwydd mae ’na ddigon o le yn y wlad iddyn nhwthau hefyd. Gallwn ni gymryd eu merched yn wragedd, a rhoi ein merched ni iddyn nhw. 22  Fydd y dynion ond yn cytuno i fyw gyda ni ac i fod yn un bobl ar yr amod hwn: mae’n rhaid i bob gwryw yn ein plith gael ei enwaedu, yn union fel maen nhw wedi cael eu henwaedu. 23  Yna, bydd eu heiddo, eu cyfoeth, a’u holl anifeiliaid yn perthyn i ni. Felly gadewch inni gytuno iddyn nhw gael byw gyda ni.” 24  Gwrandawodd yr holl ddynion oedd yn byw yn y ddinas ar Hamor a’i fab Sechem, ac fe gafodd pob gwryw ei enwaedu. 25  Ond ar y trydydd dydd, pan oedden nhw’n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, i mewn i’r ddinas yn annisgwyl gyda’u cleddyfau a lladd pob gwryw. 26  Gwnaethon nhw ladd Hamor a’i fab Sechem â’r cleddyf, ac yna cymryd Dina o dŷ Sechem a gadael. 27  Aeth meibion eraill Jacob i’r ddinas lle roedd y dynion wedi cael eu lladd ac ysbeilio’r ddinas am fod eu chwaer wedi cael ei threisio. 28  Cymeron nhw eu defaid,* eu gwartheg,* eu hasynnod, a beth bynnag oedd yn y ddinas ac yn y tir pori. 29  Gwnaethon nhw hefyd gymryd eu holl eiddo, cipio eu plant bach nhw i gyd a’u gwragedd, ac ysbeilio popeth yn y tai. 30  Gyda hynny, dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi: “Rydych chi wedi dod â helynt* mawr arna i ac wedi gwneud i bobl y wlad fy nghasáu i, y Canaaneaid a’r Peresiaid. Does ’na ddim llawer ohonon ni, a byddan nhw’n sicr o ddod at ei gilydd i ymosod arna i, a bydda i’n cael fy ninistrio, fi a fy nheulu.” 31  Ond dywedon nhw: “Ddylai neb drin ein chwaer fel putain!”

Troednodiadau

Neu “i weld.”
Neu “menywod.”
Neu “fenyw.”
Llyth., “siaradodd â chalon y ddynes ifanc.”
Neu “fenyw.”
Neu “mae enaid fy mab Sichem yn glynnu wrth eich merch.”
Neu “fenyw.”
Neu “defaid a geifr.”
Neu “gwartheg a theirw.”
Neu “ag alltudiaeth.”