Genesis 35:1-29
35 Ar ôl hynny, dywedodd Duw wrth Jacob: “Cod, dos i fyny i Fethel i fyw, a gwna allor yno i’r gwir Dduw, a ymddangosodd o dy flaen di pan oeddet ti’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth Esau dy frawd.”
2 Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef: “Dylech chi gael gwared ar y duwiau estron sydd yn eich plith a glanhau eich hunain a newid eich dillad,
3 a dewch inni godi a mynd i fyny i Fethel. Yno, bydda i’n gwneud allor i’r gwir Dduw a wnaeth fy ateb i yn y dydd pan oeddwn i’n dioddef, y Duw sydd wedi bod gyda mi ble bynnag rydw i wedi mynd.”
4 Felly rhoddon nhw’r holl dduwiau estron oedd ganddyn nhw i Jacob yn ogystal â’r clustlysau oedd yn eu clustiau, a gwnaeth Jacob eu claddu* nhw o dan goeden fawr oedd yn agos i Sechem.
5 Pan aethon nhw ymlaen ar eu taith, cafodd y dinasoedd o’u cwmpas eu taro gan ofn Duw, felly aethon nhw ddim ar ôl meibion Jacob.
6 Yn y pen draw, daeth Jacob i Lus, hynny yw, Bethel, yng ngwlad Canaan, ef a’r holl bobl gydag ef.
7 Adeiladodd allor yno a galw’r lle yn El-bethel,* oherwydd yn y fan honno roedd y gwir Dduw wedi ymddangos iddo pan oedd wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei frawd.
8 Yn hwyrach ymlaen bu farw Debora, y forwyn wnaeth fagu Rebeca, a chafodd hi ei chladdu o dan dderwen wrth ymyl Bethel. Felly rhoddodd Jacob yr enw Alon-bacuth* ar y goeden.
9 Ymddangosodd Duw i Jacob unwaith eto tra oedd yn dod o Padan-aram, a’i fendithio.
10 Dywedodd Duw wrtho: “Dy enw di yw Jacob, ond fyddi di ddim yn cael dy alw’n Jacob bellach, ond Israel fydd dy enw.” A dechreuodd ei alw’n Israel.
11 Aeth Duw ymlaen i ddweud wrtho: “Fi ydy Duw Hollalluog. Bydda i’n achosi iti gael llawer o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd a thyrfaoedd o bobl yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion yn frenhinoedd.
12 Ynglŷn â’r wlad rydw i wedi ei rhoi i Abraham ac i Isaac, bydda i’n ei rhoi i ti ac i dy ddisgynyddion* ar dy ôl di.”
13 Yna, dyma Duw yn mynd i fyny oddi wrtho o’r lle roedd ef wedi siarad ag ef.
14 Felly gosododd Jacob golofn yn y fan lle roedd wedi siarad ag ef, colofn o garreg, a thywallt* offrwm diod arni, a thywallt olew arni.
15 A pharhaodd Jacob i alw’r fan lle roedd Duw wedi siarad ag ef yn Bethel.
16 Yna, dyma nhw’n gadael Bethel. A thra oedden nhw’n dal yn eithaf pell o Effrath, dechreuodd Rachel gael ei phlentyn, ac roedd ei phoenau geni yn ddifrifol iawn.
17 Ond tra oedd hi’n cael trafferthion yn geni’r plentyn, dywedodd y fydwraig wrthi: “Paid ag ofni, oherwydd byddi di’n cael y plentyn hwn hefyd.”
18 Fel roedd hi’n tynnu ei hanadl olaf* (oherwydd roedd hi’n marw), rhoddodd hi’r enw Ben-oni* arno, ond dyma ei dad yn ei alw’n Benjamin.*
19 Felly bu farw Rachel a chafodd hi ei chladdu ar y ffordd i Effrath, hynny yw, Bethlehem.
20 Cododd Jacob golofn dros ei bedd; colofn bedd Rachel ydy hi hyd heddiw.
21 Ar ôl hynny, teithiodd Israel yn ei flaen a chodi ei babell y tu hwnt i dŵr Eder.
22 Un tro, pan oedd Israel yn byw yn y wlad honno, cysgodd Reuben gyda Bilha, un o wragedd eraill* ei dad, a chlywodd Israel am y peth.
Felly roedd gan Jacob 12 mab.
23 Meibion Lea oedd Reuben, sef cyntaf-anedig Jacob, yna Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
24 Meibion Rachel oedd Joseff a Benjamin.
25 A meibion Bilha, morwyn Rachel, oedd Dan a Nafftali.
26 A meibion Silpa, morwyn Lea, oedd Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob a gafodd eu geni iddo yn Padan-aram.
27 Yn y pen draw, daeth Jacob at ei dad Isaac ym Mamre, yn Ciriath-arba, hynny yw, Hebron, lle roedd Abraham a hefyd Isaac wedi byw fel estronwyr.
28 Gwnaeth Isaac fyw nes oedd yn 180 mlwydd oed.
29 Yna tynnodd Isaac ei anadl olaf a bu farw a chafodd ei gasglu at ei bobl* ar ôl bywyd hir a bodlon; a chafodd ei gladdu gan ei feibion Esau a Jacob.
Troednodiadau
^ Neu “cuddio.”
^ Sy’n golygu “Duw Bethel.”
^ Sy’n golygu “Derwen yr Wylo.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “ei henaid yn mynd allan.”
^ Sy’n golygu “Mab fy Ngalar.”
^ Sy’n golygu “Mab y Llaw Dde.”
^ Neu “wragedd gordderch.”
^ Ymadrodd barddonol am farwolaeth yw hwn.