Genesis 42:1-38

  • Brodyr Joseff yn mynd i’r Aifft (1-4)

  • Joseff yn cwrdd â’i frodyr ac yn eu profi (5-25)

  • Y brodyr yn mynd yn ôl adref at Jacob (26-38)

42  Pan glywodd Jacob fod grawn yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion: “Pam rydych chi’n edrych ar eich gilydd heb wneud dim byd?”  Ychwanegodd: “Rydw i wedi clywed bod grawn yn yr Aifft. Ewch i lawr yno a phrynu ychydig inni, er mwyn inni allu aros yn fyw yn hytrach na marw.”  Felly aeth deg o frodyr Joseff i lawr i brynu grawn o’r Aifft.  Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin, brawd Joseff, gyda’i frodyr eraill, oherwydd dywedodd: “Efallai bydd yn marw mewn damwain.”  Felly daeth meibion Israel, ynghyd ag eraill, i brynu grawn, oherwydd bod y newyn wedi lledaenu i wlad Canaan.  Joseff oedd yr un ag awdurdod dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu’r grawn i holl bobl y ddaear. Felly daeth brodyr Joseff ac ymgrymu’n isel iddo ar y llawr.  Pan welodd Joseff ei frodyr, roedd yn eu hadnabod nhw’n syth, ond cuddiodd pwy oedd ef rhagddyn nhw. Felly siaradodd yn gas â nhw gan ddweud: “O le rydych chi wedi dod?” ac atebon nhw: “O wlad Canaan i brynu bwyd.”  Felly roedd Joseff yn adnabod ei frodyr, ond doedden nhwthau ddim yn ei adnabod ef.  Ar unwaith cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanyn nhw, a dywedodd wrthyn nhw: “Ysbïwyr ydych chi! Rydych chi wedi dod i weld mannau* gwan y wlad!” 10  Yna dywedon nhw wrtho: “Na, fy arglwydd, mae dy weision wedi dod i brynu bwyd. 11  Rydyn ni i gyd yn feibion i un dyn. Rydyn ni’n ddynion onest. Nid ysbïwyr ydy dy weision.” 12  Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Na! Rydych chi wedi dod i weld mannau gwan y wlad!” 13  Ar hynny dywedon nhw: “12 brawd ydy dy weision. Rydyn ni’n feibion i un dyn yng ngwlad Canaan, ac mae’r ieuengaf gyda’n tad, ond dydy’r llall ddim yma bellach.” 14  Fodd bynnag, dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Ysbïwyr ydych chi! Yn union fel dywedais i. 15  Dyma sut bydda i’n profi a ydych chi’n dweud y gwir: Mor sicr â bod Pharo yn fyw, fyddwch chi ddim yn gadael y lle yma nes bod eich brawd ieuengaf yn dod yma. 16  Anfonwch un ohonoch chi i nôl eich brawd tra bod y lleill yn aros mewn caethiwed. Fel hyn, bydd eich geiriau’n cael eu profi i weld a ydych chi’n dweud y gwir. Ac os ddim, yna, mor sicr â bod Pharo yn fyw, ysbïwyr ydych chi.” 17  Ar hynny dyma’n eu caethiwo nhw gyda’i gilydd am dri diwrnod. 18  Dywedodd Joseff wrthyn nhw ar y trydydd dydd: “Rydw i’n ofni Duw, felly gwnewch beth rydw i’n ei ddweud er mwyn aros yn fyw. 19  Os ydych chi’n ddynion onest, gadewch i un o’ch brodyr aros yma mewn caethiwed, ond bydd y gweddill ohonoch chi’n cael mynd a chymryd grawn oherwydd y newyn yn eich teuluoedd. 20  Yna dewch â’ch brawd ieuengaf ata i, er mwyn profi bod eich geiriau’n ddibynadwy ac er mwyn ichi beidio â marw.” A dyna a wnaethon nhw. 21  A dywedon nhw wrth ei gilydd: “Mae’n rhaid ein bod ni’n cael ein cosbi o achos ein brawd, oherwydd gwnaethon ni weld ei ddioddefaint* pan oedd yn ymbil arnon ni i ddangos trugaredd, ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae’r trafferthion hyn wedi dod arnon ni.” 22  Yna dyma Reuben yn eu hateb nhw: “Gwnes i ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch â niweidio’r plentyn,’ ond roeddech chi’n gwrthod gwrando. Nawr rydyn ni’n atebol am ei fywyd.”* 23  Ond doedden nhw ddim yn gwybod bod Joseff yn eu deall nhw, oherwydd roedd ’na gyfieithydd rhyngddyn nhw. 24  Felly dyma’n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw a dechrau crio. Pan ddaeth yn ôl a siarad â nhw eto, cymerodd ef Simeon oddi wrthyn nhw a’i rwymo o flaen eu llygaid. 25  Yna gorchmynnodd Joseff i’w weision lenwi eu bagiau â grawn ac i roi arian pob un yn ôl yn ei sach ei hun ac i roi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. Cafodd hyn ei wneud ar eu cyfer nhw. 26  Felly gwnaethon nhw lwytho eu grawn ar eu hasynnod a gadael. 27  Pan agorodd un ohonyn nhw ei sach i roi bwyd i’w asyn lle roedden nhw’n aros, gwelodd fod ei arian yno yng ngheg ei fag. 28  Ar hynny dywedodd wrth ei frodyr: “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl imi, ac nawr mae yma yn fy mag!” Yna dyma eu calonnau’n suddo, a gwnaethon nhw droi at ei gilydd yn crynu gan ddweud: “Beth mae Duw wedi ei wneud inni?” 29  Pan ddaethon nhw at Jacob eu tad yng ngwlad Canaan, gwnaethon nhw sôn wrtho am yr holl bethau a oedd wedi digwydd iddyn nhw, gan ddweud: 30  “Gwnaeth y dyn sy’n arglwydd ar y wlad siarad yn gas â ni a’n cyhuddo ni o ysbïo ar y wlad. 31  Ond dywedon ni wrtho, ‘Rydyn ni’n ddynion onest. Nid ysbïwyr ydyn ni. 32  12 brawd ydyn ni, yn feibion i’n tad. Dydy un ddim o gwmpas bellach, ac mae’r ieuengaf gyda’n tad yng ngwlad Canaan.’ 33  Ond dywedodd y dyn sy’n arglwydd ar y wlad wrthon ni, ‘Dyma sut bydda i’n gwybod a ydych chi’n ddynion onest: Gadewch un o’ch brodyr gyda mi. Yna cymerwch rywbeth oherwydd y newyn yn eich teuluoedd ac ewch. 34  A dewch â’ch brawd ieuengaf ata i, er mwyn imi wybod mai dynion onest ydych chi ac nid ysbïwyr. Yna bydda i’n rhoi eich brawd yn ôl ichi, ac fe gewch chi barhau i brynu bwyd yn y wlad.” 35  Tra oedden nhw’n gwagio eu sachau, roedd bag arian pob un ohonyn nhw yn ei sach. Pan welson nhw a’u tad y bagiau o arian, daeth ofn arnyn nhw. 36  Dyma Jacob eu tad yn dweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n cymryd fy mhlant oddi wrtho i! Mae Joseff wedi mynd, ac mae Simeon wedi mynd, ac rydych chi am gymryd Benjamin! I fi mae’r holl bethau hyn wedi digwydd!” 37  Ond dywedodd Reuben wrth ei dad: “Cei di roi fy nau fab fy hun i farwolaeth os dydw i ddim yn dod ag ef yn ôl atat ti. Rho ef yn fy ngofal i, ac fe fydda i’n dod ag ef yn ôl atat ti.” 38  Ond, dywedodd ef: “Fydd fy mab ddim yn mynd i lawr gyda chi, oherwydd mae ei frawd wedi marw ac ef yn unig sydd ar ôl. Petai ef yn marw mewn damwain ar eich taith, yna byddwch chi’n sicr yn fy anfon i lawr i’r Bedd* yn fy henaint ac yn llawn galar.”

Troednodiadau

Neu “cyflwr.”
Neu “dioddefaint ei enaid.”
Llyth., “ei waed.”
Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.