Genesis 44:1-34
44 Yn nes ymlaen, gorchmynnodd Joseff i’r dyn a oedd yn gofalu am ei dŷ: “Llenwa fagiau y dynion â chymaint o fwyd ag y gallan nhw ei gario, a rho arian pob un yng ngheg ei fag.
2 Ond rhaid iti roi fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngheg bag yr ieuengaf, gyda’r arian ar gyfer ei rawn.” Felly gwnaeth ef yn union fel roedd Joseff wedi gorchymyn.
3 Yn y bore, ar ôl iddi wawrio, cafodd y dynion eu hanfon i ffwrdd gyda’u hasynnod.
4 Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o’r ddinas pan ddywedodd Joseff wrth y dyn a oedd yn gofalu am ei dŷ: “Cod! Dos ar ôl y dynion! Pan fyddi di’n dal i fyny â nhw, dyweda wrthyn nhw, ‘Pam rydych chi wedi talu drwg yn ôl i fy meistr, ar ôl iddo fod mor dda tuag atoch chi?
5 Dyma’r cwpan mae fy meistr yn yfed ohono, ac yn ei ddefnyddio i ragweld y dyfodol yn fedrus. Rydych chi wedi gwneud rhywbeth drwg iawn.’”
6 Felly dyma ef yn dal i fyny â nhw ac yn dweud y geiriau hyn wrthyn nhw.
7 Ond dywedon nhw wrtho: “Sut gall fy arglwydd ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn gwneud unrhyw beth fel ’na.
8 Fel rwyt ti’n gwybod, daethon ni â’r arian gwnaethon ni ei ffeindio yn ein bagiau yn ôl iti o wlad Canaan. Felly pam bydden ni’n dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr?
9 Os wyt ti’n ffeindio bod gan un o dy weision y cwpan, gad iddo farw, a bydd y gweddill ohonon ni hefyd yn dod yn gaethweision i fy meistr.”
10 Felly dywedodd ef: “Gad iddi ddigwydd fel rwyt ti’n dweud: Bydd yr un sy’n cael ei ddal gyda’r cwpan yn ei fag yn dod yn gaethwas imi, ond bydd y gweddill ohonoch chi yn ddieuog.”
11 Gyda hynny, brysiodd pob un ohonyn nhw i roi ei fag ar y llawr a’i agor.
12 Chwiliodd yn ofalus drwy fag pob un, gan ddechrau gyda’r hynaf, a gorffen gyda’r ieuengaf. O’r diwedd, daeth o hyd i’r cwpan ym mag Benjamin.
13 Yna, dyma nhw’n rhwygo eu dillad, a gwnaeth pob un ohonyn nhw godi ei fag yn ôl ar ei asyn a mynd yn ôl i’r ddinas.
14 Pan aeth Jwda a’i frodyr i mewn i dŷ Joseff, roedd ef yn dal i fod yno, a gwnaethon nhw syrthio i’r llawr o’i flaen.
15 Dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Beth rydych chi wedi ei wneud? Oeddech chi ddim yn gwybod bod dyn fel fi yn gallu rhagweld y dyfodol yn fedrus?”
16 Gyda hynny, atebodd Jwda: “Beth gallwn ni ei ddweud wrth fy meistr? A sut gallwn ni brofi ein bod ni’n gyfiawn? Mae’r gwir Dduw wedi datgelu’r drwg wnaeth dy weision. Nawr rydyn ni’n gaethweision i fy meistr, ni a’r un gafodd ei ddal gyda’r cwpan yn ei law!”
17 Ond dywedodd ef: “Na, fyddwn i byth yn gwneud hynny! Y dyn a gafodd ei ddal gyda’r cwpan yn ei law, ef yw’r un fydd yn gaethwas imi. Mae’r gweddill ohonoch chi’n rhydd i fynd i fyny at eich tad.”
18 Nawr aeth Jwda ato a dweud: “Rydw i’n erfyn arnat ti, fy meistr, gad imi siarad â ti, a phaid â gwylltio wrth dy gaethwas, oherwydd rwyt ti fel Pharo ei hun.
19 Gofynnodd fy meistr i’w gaethweision, ‘Oes gynnoch chi dad neu frawd?’
20 Felly dywedon ni wrthot ti, ‘Mae gynnon ni dad mewn oed, a phlentyn ei henaint, yr ieuengaf. Ond mae ei frawd wedi marw, felly ef ydy’r unig un o feibion ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu.’
21 Ar ôl hynny, dywedaist ti wrthon ni, ‘Dewch ag ef i lawr ata i, er mwyn imi ei weld.’
22 Ond dywedon ni wrthot ti, ‘Dydy’r bachgen ddim yn gallu gadael ei dad. Petasai’n gwneud hynny, yn sicr, byddai ei dad yn marw.’
23 Yna dywedaist ti wrthon ni, ‘Chewch chi ddim gweld fy wyneb eto oni bai bod eich brawd ieuengaf yn dod i lawr gyda chi.’
24 “Felly aethon ni yn ôl at fy nhad a dweud wrtho beth ddywedaist ti.
25 Yn nes ymlaen, dywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl a phrynu ychydig o fwyd inni.’
26 Ond dywedon ni, ‘Dydyn ni ddim yn gallu mynd i lawr. Awn ni i lawr dim ond os ydy ein brawd ieuengaf gyda ni, oherwydd dydyn ni ddim yn gallu gweld wyneb y dyn oni bai bod ein brawd ieuengaf gyda ni.’
27 Yna dywedodd fy nhad wrthon ni, ‘Rydych chi’n gwybod yn iawn fod fy ngwraig ond wedi geni dau fab imi.
28 Ond gwnaeth un ohonyn nhw fy ngadael i, a dywedais i: “Mae’n rhaid ei fod wedi cael ei rwygo’n ddarnau!” ac rydw i heb ei weld ers hynny.
29 Petasech chi’n cymryd hwn oddi wrtho i hefyd, ac yntau’n cael damwain ac yn marw, yna byddwch chi’n sicr yn fy anfon i i lawr i’r Bedd* yn fy henaint ac yn llawn poen.’
30 “Mae ein tad yn caru’r mab hwnnw yn fawr iawn, a dydy ef ddim yn gallu byw hebddo.
31 Felly os nad ydw i’n mynd â’r bachgen yn ôl at fy nhad, bydd ein tad yn siŵr o farw oherwydd ei alar, a byddwn ni’n gyfrifol am anfon ein tad i lawr i’r Bedd* yn ei henaint.
32 Dywedais i wrth fy nhad y byddwn i’n gyfrifol am y bachgen, drwy ddweud, ‘Os nad ydw i’n dod ag ef yn ôl atat ti, yna bydda i’n euog o bechu yn erbyn fy nhad am byth.’
33 Felly nawr, plîs, gad i mi aros fel dy gaethwas yn lle fy mrawd, er mwyn i’r bachgen fynd yn ôl gyda’i frodyr.
34 Sut galla i fynd yn ôl at fy nhad heb ddod â’r bachgen gyda mi? Alla i ddim dioddef gweld fy nhad yn mynd drwy hynny!”