Genesis 47:1-31
47 Felly aeth Joseff at Pharo a dweud: “Mae fy nhad a fy mrodyr, eu preiddiau, a’u holl eiddo, wedi dod o wlad Canaan i wlad Gosen.”
2 Aeth â phump o’i frodyr a’u cyflwyno nhw i Pharo.
3 Dywedodd Pharo wrth frodyr Joseff: “Beth yw eich gwaith chi?” Atebon nhw: “Fy arglwydd, bugeiliaid ydyn ni, fel ein cyndadau.”
4 Yna dywedon nhw wrth Pharo: “Rydyn ni wedi dod i fyw fel estroniaid yn y wlad, oherwydd does ’na ddim tir pori i breiddiau dy weision, gan fod y newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Felly plîs, fy arglwydd, gad inni fyw yng ngwlad Gosen.”
5 Gyda hynny, dywedodd Pharo wrth Joseff: “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod yma atat ti.
6 Mae holl wlad yr Aifft ar gael iti. Rho ran orau’r wlad iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael byw ynddi. Gad iddyn nhw fyw yng ngwlad Gosen, ac os wyt ti’n adnabod unrhyw ddynion medrus yn eu plith, rho fy anifeiliaid yn eu gofal nhw.”
7 Yna daeth Joseff â’i dad Jacob i mewn a’i gyflwyno i Pharo, a dyma Jacob yn bendithio Pharo.
8 Gofynnodd Pharo i Jacob: “Faint ydy dy oed di?”
9 Atebodd Jacob: “Rydw i wedi bod yn crwydro’r ddaear* am 130 o flynyddoedd. Mae wedi bod yn fywyd anodd, ac yn fyr o’i gymharu â’r blynyddoedd roedd fy nghyndadau yn crwydro’r ddaear.”*
10 Ar ôl hynny, gwnaeth Jacob fendithio Pharo, a mynd allan oddi wrtho.
11 Felly trefnodd Joseff i’w dad a’i frodyr fyw yn yr Aifft, ac yn union fel roedd Pharo wedi gorchymyn, rhoddodd ran o’r tir gorau iddyn nhw, rhan o wlad Rameses.
12 A pharhaodd Joseff i wneud yn siŵr fod gan ei dad, ei frodyr, a’u teuluoedd fwyd yn ôl faint o blant roedd ganddyn nhw.
13 Nawr doedd ’na ddim bwyd yn y wlad i gyd, oherwydd roedd y newyn yn ofnadwy o drwm. Ac roedd pobl yr Aifft a phobl Canaan yn dioddef oherwydd y newyn.
14 Ac roedd Joseff yn gwerthu grawn i bobl yr Aifft a phobl Canaan, ac ar ôl casglu’r holl arian gan y bobl ar gyfer y bwyd, daeth â’r arian i mewn i dŷ Pharo.
15 Ymhen amser, roedd arian gwlad yr Aifft a gwlad Canaan wedi cael ei wario, a dechreuodd yr Eifftiaid i gyd ddod at Joseff gan ddweud: “Rho fwyd inni! Pam dylen ni farw o flaen dy lygaid oherwydd bod ein harian wedi rhedeg allan?”
16 Yna dywedodd Joseff: “Os ydy eich arian wedi rhedeg allan, rhowch eich anifeiliaid imi, a bydda i’n rhoi bwyd i chi.”
17 Felly dechreuon nhw ddod â’u hanifeiliaid i Joseff, a rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid, eu geifr, eu gwartheg, a’u hasynnod, a pharhaodd i wneud hynny drwy gydol y flwyddyn honno.
18 Pan ddaeth y flwyddyn honno i ben, dechreuon nhw ddod ato gan ddweud: “Allwn ni ddim cuddio hyn oddi wrthot ti, fy arglwydd. Rydyn ni eisoes wedi rhoi ein harian a’n hanifeiliaid i gyd iti. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i’w roi iti, fy arglwydd, heblaw am ein cyrff a’n tir.
19 Pam dylen ni farw o flaen dy lygaid, a pham dylai ein tir gael ei ddifetha? Gad inni werthu ein hunain a’n tir am fwyd, a byddwn ni’n dod yn gaethweision i Pharo, a bydd ein tir yn perthyn iddo. Rho hadau inni, er mwyn inni gael byw a pheidio â marw, ac er mwyn i’n tir beidio â chael ei ddifetha.”
20 Yna prynodd Joseff holl dir yr Eifftiaid ar gyfer Pharo, oherwydd roedd pob Eifftiwr wedi gwerthu ei gae am fod y newyn yn ofnadwy o drwm. Felly, Pharo oedd piau’r tir i gyd.
21 Symudodd ef y bobl i mewn i ddinasoedd, o un pen gwlad yr Aifft i’r pen arall.
22 Ond wnaeth ef ddim prynu tir yr offeiriaid, oherwydd roedden nhw’n cael bwyd oddi wrth Pharo. Dyna pam wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.
23 Yna dywedodd Joseff wrth y bobl: “Edrychwch, heddiw rydw i wedi eich prynu chi a’ch tir i Pharo. Dyma hadau i chi allu hau yn y caeau.
24 Pan ddaw’r cynhaeaf, mae’n rhaid ichi rannu’r cynhaeaf yn bum rhan. Rhowch un rhan i Pharo, a chewch chi gadw’r pedair rhan sydd ar ôl fel hadau i’ch caeau ac yn fwyd i chi, i’r rhai sydd yn eich tai, ac i’ch plant gael bwyta.”
25 Felly dywedon nhw: “Rwyt ti wedi achub ein bywydau. Os yw’n dy blesio di, fy arglwydd, gwnawn ni ddod yn gaethweision i Pharo.”
26 Yna gosododd Joseff ddeddf fod un rhan o bump o’r cynhaeaf yn perthyn i Pharo, ac mae hynny’n sefyll hyd heddiw yng ngwlad yr Aifft. Dim ond tir yr offeiriaid doedd ddim yn perthyn i Pharo.
27 Parhaodd Israel i fyw yng ngwlad yr Aifft, yng ngwlad Gosen, a gwnaethon nhw setlo yno a chasglu llawer o eiddo. A chawson nhw blant a daethon nhw’n niferus iawn yno.
28 A gwnaeth Jacob barhau i fyw yng ngwlad yr Aifft am 17 mlynedd. Felly roedd holl ddyddiau Jacob yn 147 mlynedd.
29 Pan sylweddolodd Israel nad oedd am fyw yn llawer hirach, galwodd ei fab Joseff a dweud: “Nawr, os oes gen ti feddwl da ohono i, plîs rho dy law o dan fy nghlun, a dangosa gariad* tuag ata i, a bydda’n ffyddlon imi. Plîs paid â fy nghladdu i yn yr Aifft.
30 Pan fydda i’n marw, mae’n rhaid iti fy nghario i allan o’r Aifft, a fy nghladdu ym medd fy nghyndadau.” Yna dywedodd Joseff: “Fe wna i yn union fel rwyt ti’n dweud.”
31 Yna dywedodd: “Wnei di addo imi ar dy lw?” Felly, addawodd iddo ar ei lw. A gyda hynny, ymgrymodd Israel wrth ben ei wely.
Troednodiadau
^ Neu “byw fel estronwr.”
^ Neu “byw fel estroniaid.”
^ Neu “dangosa gariad ffyddlon.”