At yr Hebreaid 11:1-40
11 Ffydd ydy’r hyder cadarn fod yr hyn rydych chi’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae’n dystiolaeth bendant fod yr hyn dydych chi ddim yn ei weld yn bodoli mewn gwirionedd.
2 Oherwydd bod gan ein cyndadau* ffydd o’r fath, dangosodd Duw eu bod nhw’n ei blesio.
3 Drwy ffydd rydyn ni’n gweld bod popeth sy’n bodoli* wedi cael ei roi mewn trefn gan air Duw, fel bod yr hyn sy’n weladwy wedi dod i fodolaeth o’r pethau sy’n anweladwy.
4 Drwy ffydd gwnaeth Abel offrymu aberth i Dduw a oedd yn fwy gwerthfawr nag un Cain, a thrwy’r ffydd honno fe dderbyniodd y dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, oherwydd bod Duw wedi cymeradwyo ei roddion, ac er ei fod wedi marw, mae’n dal i siarad drwy ei ffydd.
5 Drwy ffydd cafodd Enoch ei gymryd i ffwrdd fel na fyddai’n gweld marwolaeth, a doedd dim golwg ohono yn unman oherwydd bod Duw wedi ei gymryd i ffwrdd; oherwydd cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd fe dderbyniodd y dystiolaeth ei fod wedi plesio Duw’n fawr.
6 Ar ben hynny, heb ffydd mae’n amhosib plesio Duw’n dda, oherwydd mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n mynd at Dduw gredu ei fod yn bodoli a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio’n daer.
7 Drwy ffydd gwnaeth Noa, ar ôl derbyn rhybudd dwyfol am bethau doedd ef ddim eto’n eu gweld, ddangos ofn duwiol ac adeiladu arch er mwyn achub ei deulu; a thrwy’r ffydd hon y gwnaeth ef gondemnio’r byd, ac fe ddaeth yn etifedd y cyfiawnder sy’n dod o ganlyniad i ffydd.
8 Drwy ffydd gwnaeth Abraham, pan wnaeth Duw ei alw, ufuddhau drwy fynd allan i’r lle roedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth; fe aeth allan, er nad oedd yn gwybod i le roedd yn mynd.
9 Drwy ffydd gwnaeth ef fyw fel rhywun estron yng ngwlad yr addewid fel mewn gwlad estron, yn byw mewn pebyll gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion o’r union un addewid.
10 Oherwydd roedd yn disgwyl am y ddinas sydd â sylfeini go iawn, sydd wedi cael ei dylunio* a’i hadeiladu gan Dduw.
11 Drwy ffydd gwnaeth Sara hefyd dderbyn nerth i genhedlu plentyn,* er ei bod hi’n rhy hen i gael plant, gan ei bod hi’n ystyried yr Un a wnaeth yr addewid yn ffyddlon.*
12 Am y rheswm hwn, o un dyn a oedd cystal â bod yn farw, y cafodd plant eu geni, sydd mor niferus â’r sêr yn y nef ac sydd mor ddi-rif â’r tywod ar lan y môr.
13 Gwnaeth y rhain i gyd aros yn ffyddlon hyd at farwolaeth, er na wnaethon nhw dderbyn cyflawniad yr addewidion; ond fe wnaethon nhw eu gweld nhw o bell a’u croesawu nhw a datgan yn gyhoeddus eu bod nhw’n bobl ddieithr ac yn drigolion dros dro yn y wlad.
14 Oherwydd mae’r rhai sy’n siarad fel hyn yn ei gwneud hi’n amlwg eu bod nhw’n chwilio’n daer am le iddyn nhw eu hunain.
15 Ac eto, petasen nhw wedi dal i feddwl am y lle roedden nhw wedi ei adael, bydden nhw wedi cael cyfle i fynd yn ôl.
16 Ond nawr maen nhw’n dyheu am le gwell, hynny yw, un sy’n perthyn i’r nef. Felly, does gan Dduw ddim cywilydd o gael ei alw’n Dduw iddyn nhw, oherwydd mae wedi paratoi dinas ar eu cyfer nhw.
17 Drwy ffydd roedd Abraham, pan gafodd ei brofi, cystal â bod wedi offrymu Isaac—gwnaeth y dyn a oedd yn hapus i dderbyn yr addewidion geisio offrymu ei unig-anedig fab—
18 er bod Duw wedi dweud wrtho: “Bydd yr hyn a fydd yn cael ei alw’n had iti yn dod drwy Isaac.”
19 Ond fe resymodd fod Duw’n gallu ei godi hyd yn oed o’r meirw, ac fe gafodd ei fab yn ôl o’r meirw mewn ffordd ffigurol.
20 Drwy ffydd hefyd y gwnaeth Isaac fendithio Jacob ac Esau ynglŷn â’r pethau i ddod.
21 Drwy ffydd gwnaeth Jacob, pan oedd ar fin marw, fendithio pob un o feibion Joseff ac addoli wrth iddo bwyso ar dop ei ffon.
22 Drwy ffydd gwnaeth Joseff, pan oedd yn agosáu at ddiwedd ei fywyd, sôn am exodus meibion Israel, ac fe roddodd gyfarwyddiadau* ynglŷn â’i esgyrn.*
23 Drwy ffydd cafodd Moses ei guddio gan ei rieni am dri mis ar ôl iddo gael ei eni, oherwydd eu bod nhw wedi gweld bod y plentyn bach yn hardd a doedden nhw ddim yn ofni gorchymyn y brenin.
24 Drwy ffydd gwnaeth Moses, pan oedd wedi tyfu i fyny, wrthod cael ei alw’n fab i ferch Pharo,
25 gan ddewis cael ei gam-drin gyda phobl Dduw yn hytrach na mwynhau pleserau dros dro pechod,
26 oherwydd roedd yn ystyried yr amarch a ddioddefodd fel yr Un Eneiniog* yn gyfoeth mwy na thrysorau’r Aifft, oherwydd ei fod yn edrych ymlaen yn frwd at dderbyn y wobr.
27 Drwy ffydd gadawodd ef yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, oherwydd fe barhaodd i sefyll yn gadarn fel rhywun sy’n gweld yr Un anweledig.
28 Drwy ffydd gwnaeth ef gadw’r Pasg a thaenu’r gwaed, fel na fyddai angel Duw* yn lladd eu meibion cyntaf-anedig.
29 Drwy ffydd gwnaethon nhw basio drwy’r Môr Coch fel petasen nhw’n cerdded ar dir sych, ond pan geisiodd yr Eifftiaid wneud hynny, fe gawson nhw eu boddi.
30 Drwy ffydd gwnaeth waliau Jericho syrthio ar ôl i’r bobl gerdded o’u hamgylch am saith diwrnod.
31 Drwy ffydd ni wnaeth Rahab y butain farw gyda’r rhai a oedd wedi ymddwyn yn anufudd, oherwydd ei bod hi wedi croesawu’r ysbïwyr mewn ffordd heddychlon.
32 A oes angen imi roi mwy o esiamplau? Oherwydd does gen i ddim digon o amser i fynd ymlaen i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, ynghyd â Samuel a’r proffwydi eraill.
33 Drwy ffydd gwnaethon nhw orchfygu teyrnasoedd, dod â chyfiawnder, derbyn addewidion, cau cegau llewod,
34 diffodd grym tân, dianc rhag cael eu lladd â’r cleddyf, o fod yn wan y cawson nhw eu gwneud yn gryf, daethon nhw’n rymus mewn rhyfel, gwnaethon nhw drechu byddinoedd a oedd wedi ymosod ar eu gwlad.
35 Cafodd anwyliaid merched* eu hatgyfodi, ond cafodd dynion eraill eu harteithio oherwydd wnaethon nhw ddim derbyn cael eu rhyddhau drwy ryw fath o gyfaddawdu, er mwyn iddyn nhw gael atgyfodiad gwell.
36 Yn wir, fe wynebodd rhai eraill dreialon drwy gael eu gwawdio a’u chwipio, ie, yn fwy na hynny, drwy gadwyni a charchar.
37 Cawson nhw eu llabyddio, cawson nhw eu rhoi dan brawf, cawson nhw eu llifio yn eu hanner, cawson nhw eu lladd â’r cleddyf, aethon nhw o gwmpas yn gwisgo crwyn defaid, a chrwyn geifr, tra oedden nhw mewn angen, yn wynebu treialon, ac yn cael eu cam-drin;
38 a doedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw’n crwydro o gwmpas yn yr anialwch a’r mynyddoedd ac mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear.
39 Er bod y rhain i gyd wedi derbyn tystiolaeth ffafriol oherwydd eu ffydd, ni wnaethon nhw weld cyflawniad yr addewid,
40 gan fod Duw wedi rhagweld rhywbeth gwell i ni, fel na fyddan nhw’n cael eu gwneud yn berffaith cyn i ni gael ein gwneud yn berffaith.
Troednodiadau
^ Neu “ein hynafiaid; gan ddynion yr amseroedd a fu.”
^ Neu “ei phensaernïo.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “yn ddibynadwy.”
^ Neu “fe roddodd orchymyn.”
^ Neu “ynglŷn â’i gladdu.”
^ Neu “roedd yn ystyried amarch y Crist.”
^ Neu “y dinistrydd.”
^ Neu “menywod.”