At yr Hebreaid 4:1-16
4 Felly, gan fod yr addewid o fynd i mewn i’w orffwysfa yn dal i fodoli, gadewch inni fod yn ofalus nad ydyn ni’n colli’r addewid hwn.
2 Oherwydd mae’r newyddion da wedi cael eu cyhoeddi i ninnau hefyd, yn union fel y cafodd eu cyhoeddi iddyn nhw; ond doedd y gair y gwnaethon nhw ei glywed ddim yn fuddiol iddyn nhw, oherwydd doedd ganddyn nhw ddim yr un ffydd â’r rhai a wnaeth wrando.
3 Oherwydd rydyn ni, y rhai sydd wedi ymarfer ffydd, yn mynd i mewn i’r orffwysfa, yn union fel mae ef wedi dweud: “Felly gwnes i lw yn fy nicter, ‘Fyddan nhw ddim yn mynd i mewn i fy ngorffwysfa,’” er ei fod ef ei hun, ar ôl cwblhau ei waith, wedi bod yn gorffwys ers iddo seilio’r byd.
4 Oherwydd mewn un lle mae ef wedi dweud hyn am y seithfed dydd: “A gwnaeth Duw orffwys ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd,”
5 ac mae’n dweud yma hefyd: “Fyddan nhw ddim yn mynd i mewn i fy ngorffwysfa.”
6 Felly, gan fod cyfle yn dal i fodoli i rai pobl fynd i mewn iddi, a gan fod y rhai cyntaf i glywed y newyddion da heb ddod i mewn iddi oherwydd anufudd-dod,
7 ar ôl amser hir, dywedodd Duw yn salm Dafydd, yn union fel y cafodd ei ysgrifennu uchod yn y llythyr hwn, “Heddiw os ydych chi’n gwrando ar ei lais, peidiwch â chaledu eich calonnau.” Felly, mae ef unwaith eto yn neilltuo dydd penodol sy’n cael ei alw “Heddiw.”
8 Oherwydd petai Josua wedi eu harwain nhw i mewn i orffwysfa, ni fyddai Duw wedi sôn am ddydd arall ar ôl hynny.
9 Felly mae gorffwysfa’r Saboth yn aros ar gyfer pobl Dduw.
10 Oherwydd mae’r dyn sydd wedi mynd i mewn i orffwysfa Duw hefyd wedi gorffwys oddi wrth ei weithredoedd ei hun, yn union fel gwnaeth Duw orffwys oddi wrth ei weithredoedd ei hun.
11 Gadewch i ni, felly, wneud ein gorau glas i fynd i mewn i’r orffwysfa honno, fel na fydd neb yn syrthio i’r un patrwm o anufudd-dod.
12 Oherwydd mae gair Duw yn fyw ac yn hynod o rymus ac mae’n fwy miniog nag unrhyw gleddyf daufiniog ac mae hyd yn oed yn trywanu hyd at wahanu’r enaid* a’r ysbryd,* a’r cymalau a’r mêr, ac mae’n gallu datgelu* meddyliau a bwriadau’r galon.
13 A does dim byd sydd wedi cael ei greu yn guddiedig o’i olwg, ond mae pob peth yn noeth ac yn agored i lygaid Duw, yr un rydyn ni’n atebol iddo.
14 Felly, gan fod gynnon ni archoffeiriad mawr sydd wedi pasio drwy’r nefoedd, Iesu Mab Duw, gadewch inni ddal ati i siarad am ein ffydd ynddo.
15 Oherwydd does gynnon ni ddim archoffeiriad sydd ddim yn gallu cydymdeimlo â’n gwendidau, ond mae gynnon ni un sydd wedi cael ei brofi ym mhob ffordd fel rydyn ninnau, ond heb bechod.
16 Gadewch inni, felly, agosáu at orsedd caredigrwydd rhyfeddol a gweddïo ar Dduw yn llawn hyder, er mwyn inni dderbyn trugaredd a charedigrwydd rhyfeddol i’n helpu ni ar yr amser iawn.