Llythyr Iago 1:1-27
1 Iago, caethwas i Dduw ac i’r Arglwydd Iesu Grist, at y 12 llwyth sydd wedi eu gwasgaru:
Cyfarchion!
2 Llawenhewch, fy mrodyr, pan fyddwch chi’n wynebu gwahanol dreialon,
3 gan wybod bod y prawf hwn ar gyflwr eich ffydd yn eich dysgu i ddyfalbarhau.
4 Ond gadewch i ddyfalbarhad gwblhau ei waith, er mwyn ichi fod yn gyflawn ac yn ddi-fai ym mhob ffordd, heb ddiffyg mewn dim.
5 Felly os oes gan unrhyw un ohonoch chi ddiffyg doethineb, fe ddylai ddal ati i ofyn i Dduw a bydd yn cael ei roi iddo, oherwydd mae ef yn rhoi’n hael i bob un heb weld bai arno.*
6 Ond fe ddylai barhau i ofyn mewn ffydd, heb amau o gwbl, oherwydd bod yr un sy’n amau yn debyg i donnau’r môr sy’n cael eu gyrru gan y gwynt a’u chwythu yma ac acw.
7 Yn wir, ni ddylai’r dyn hwnnw ddisgwyl cael unrhyw beth gan Jehofa;*
8 mae’n ddyn amhendant, yn ansefydlog ym mhob peth mae’n ei wneud.
9 Ond dylai’r brawd o dras isel lawenhau* oherwydd iddo gael ei ddyrchafu,
10 a’r un cyfoethog oherwydd iddo gael ei fychanu, oherwydd fel blodeuyn y maes bydd ef yn diflannu.
11 Oherwydd yn union fel mae’r haul yn codi gyda’i wres tanbaid ac yn achosi i’r planhigyn wywo, ac i’w flodyn syrthio ac i’w harddwch allanol ddiflannu, felly hefyd bydd y dyn cyfoethog yn gwywo wrth iddo geisio cyfoeth.
12 Hapus yw’r dyn sy’n dyfalbarhau yn wyneb treialon, oherwydd pan fydd Duw yn ei gymeradwyo, fe fydd yn derbyn coron bywyd, rhywbeth mae Jehofa wedi ei addo i’r rhai sy’n parhau i’w garu Ef.
13 Pan fydd rhywun yn wynebu treialon, ni ddylai ddweud: “Mae fy nhreialon yn dod oddi wrth Dduw.” Oherwydd does neb yn gallu temtio Duw i wneud pethau drwg, a dydy Duw ddim yn temtio unrhyw un i wneud beth sy’n ddrwg chwaith.
14 Ond mae pob un yn cael ei demtio trwy gael ei ddenu a’i hudo* gan ei chwant ei hun.
15 Yna, mae’r chwant, ar ôl iddo ddod yn ffrwythlon,* yn rhoi genedigaeth i bechod; yn ei dro mae pechod, ar ôl iddo gael ei gyflawni, yn arwain i farwolaeth.
16 Peidiwch â chael eich camarwain, fy mrodyr annwyl.
17 Mae pob rhodd dda a phob anrheg berffaith yn dod oddi uchod, ac yn dod i lawr oddi wrth Dad y goleuadau nefol, yr un sydd ddim yn newid fel y mae’r cysgodion sy’n symud yn newid.
18 Oherwydd ei ewyllys oedd achosi inni fodoli drwy ddefnyddio gair y gwir, er mwyn inni ddod yn flaenffrwyth o’i greaduriaid.
19 Dylech chi wybod hyn, fy mrodyr annwyl: Mae’n rhaid i bawb fod yn gyflym i wrando, yn araf i siarad, yn araf i ddigio,
20 oherwydd dydy dicter dyn ddim yn arwain i gyfiawnder Duw.
21 Felly, mae’n rhaid ichi gael gwared ar bob budreddi a phob mymryn o ddrygioni,* a byddwch yn ostyngedig wrth ichi adael i Dduw blannu ei eiriau y tu mewn ichi, geiriau sy’n gallu eich achub chi.*
22 Fodd bynnag, gweithredwch yn unol â’r gair yn hytrach na gwrando arno’n unig, gan eich twyllo eich hunain â rhesymu ffug.
23 Oherwydd os ydy rhywun yn gwrando ar y gair ond heb weithredu’n unol â’r gair, mae’r un yma fel dyn sy’n edrych ar ei wyneb ei hun* mewn drych.
24 Oherwydd mae’n edrych arno’i hun, ac yna mae’n mynd i ffwrdd ac yn anghofio ar unwaith pa fath o berson ydy ef.
25 Ond mae’r un sy’n edrych yn fanwl ar y gyfraith berffaith sy’n perthyn i ryddid, ac yn parhau i’w dilyn, wedi dod, nid yn rhywun sy’n gwrando ac yn anghofio, ond yn rhywun sy’n gwneud y gwaith; a bydd ef yn hapus yn yr hyn mae’n ei wneud.
26 Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn addoli Duw* ond dydy ef ddim yn ffrwyno ei dafod, mae’n twyllo ei galon ei hun, ac mae ei addoliad yn ofer.
27 Y math o addoliad* sy’n lân ac sydd heb gael ei halogi o safbwynt ein Duw a’n Tad ydy hyn: bod pob un yn edrych ar ôl plant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef, ac yn ei gadw ei hun heb ei lygru gan y byd.
Troednodiadau
^ Neu “heb ddwrdio; heb geryddu.”
^ Llyth., “frolio.”
^ Neu “a’i ddal fel petai gan abwyd.”
^ Llyth., “ar ôl iddo genhedlu.”
^ Neu efallai, “a digonedd o ddrygioni.”
^ Neu “sy’n gallu achub eich eneidiau.”
^ Neu “ei wyneb naturiol.”
^ Neu “yn grefyddol.”
^ Neu “o grefydd.”