Llythyr Iago 2:1-26
2 Fy mrodyr, sut mae’n bosib eich bod chi, ar ôl meithrin ffydd yn ein Harglwydd gogoneddus Iesu Grist, yn dangos ffafriaeth?
2 Oherwydd os ydy dyn yn dod i mewn i’ch cyfarfod yn gwisgo modrwyau aur ar ei fysedd a dillad crand, ond mae dyn tlawd hefyd yn dod i mewn yn gwisgo dillad budr,
3 ydych chi’n dangos ffafriaeth tuag at yr un sy’n gwisgo dillad crand, ac yn dweud: “Eistedda yma mewn lle da,” ac ydych chi’n dweud wrth yr un tlawd: “Arhosa di ar dy draed” neu, “Eistedda fan ’na o dan fy stôl droed”?
4 Os felly, onid ydych chi’n ystyried un grŵp o bobl yn uwch na’r llall, ac onid ydych chi wedi troi’n farnwyr sy’n gwneud penderfyniadau drwg?
5 Gwrandewch, fy mrodyr annwyl. Oni wnaeth Duw ddewis y rhai sy’n dlawd o safbwynt y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y Deyrnas, rhywbeth y gwnaeth Duw ei addo i’r rhai sy’n ei garu?
6 Ond rydych chi wedi dwyn cywilydd ar y tlawd. Onid y rhai cyfoethog sy’n eich erlid chi ac yn eich llusgo chi gerbron y llysoedd?
7 Rhoddodd Duw enw anrhydeddus ichi, ond onid ydyn nhw’n cablu’r enw hwnnw?
8 Nawr, os ydych chi’n dilyn y gyfraith frenhinol yn unol â’r ysgrythur: “Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun,” rydych chi’n gwneud yn dda.
9 Ond os ydych chi’n parhau i ddangos ffafriaeth, rydych chi’n pechu, ac rydych chi wedi cael eich dedfrydu’n droseddwyr gan y gyfraith.
10 Oherwydd petai rhywun yn ufudd i’r holl Gyfraith ond yn torri un o’r gorchmynion, mae wedi torri’r Gyfraith i gyd.
11 Oherwydd fe wnaeth yr un a ddywedodd: “Paid â godinebu,” hefyd ddweud: “Paid â llofruddio.” Nawr, os dydych chi ddim yn godinebu ond rydych chi’n llofruddio, rydych chi wedi torri’r gyfraith.
12 Parhewch i siarad ac ymddwyn yn yr un ffordd â’r rhai a fydd yn cael eu barnu gan gyfraith pobl rydd.*
13 Oherwydd bydd yr un sydd ddim yn dangos trugaredd yn cael ei farnu heb drugaredd. Mae dangos trugaredd yn well na barnu.
14 Fy mrodyr, petai rhywun yn dweud bod ganddo ffydd ond does ganddo ddim gweithredoedd, o ba les ydy hynny? Dydy’r ffydd honno ddim yn gallu ei achub, nac ydy?
15 Os oes ’na unrhyw frodyr neu chwiorydd heb ddigon o ddillad* neu heb ddigon o fwyd ar gyfer y diwrnod hwnnw,
16 ond eto mae un ohonoch chi’n dweud wrthyn nhw: “Ewch mewn heddwch; cadwch yn gynnes a bwytewch ddigon o fwyd,” ond dydych chi ddim yn rhoi’r pethau materol sydd eu hangen arnyn nhw, o ba les ydy hynny?
17 Felly hefyd, mae ffydd ar ei phen ei hun, heb weithredoedd, yn farw.
18 Er hynny, bydd rhywun yn dweud: “Mae gen ti ffydd, ac mae gen i weithredoedd. Dangosa dy ffydd imi heb weithredoedd, ac fe wna i ddangos fy ffydd innau drwy fy ngweithredoedd.”
19 Rwyt ti’n credu mai un Duw sydd ’na. Rwyt ti’n gwneud yn dda. Ond eto mae’r cythreuliaid yn credu ac yn crynu.
20 Ond a wyt ti eisiau gwybod, y dyn anwybodus, fod ffydd heb weithredoedd yn dda i ddim?
21 Oni chafodd ein tad Abraham ei alw’n gyfiawn drwy weithredoedd ar ôl iddo offrymu Isaac ei fab ar yr allor?
22 Rwyt ti’n gweld bod ei ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd a bod ei ffydd wedi cael ei pherffeithio gan ei weithredoedd,
23 a chafodd yr ysgrythur ei chyflawni sy’n dweud: “Rhoddodd Abraham ffydd yn Jehofa, ac roedd yn cael ei ystyried yn gyfiawn,” ac fe gafodd ei alw’n ffrind i Jehofa.
24 Rydych chi’n gweld bod dyn yn cael ei alw’n gyfiawn drwy weithredoedd ac nid drwy ffydd yn unig.
25 Yn yr un modd, oni chafodd Rahab y butain hefyd ei galw’n gyfiawn drwy weithredoedd ar ôl iddi roi croeso i’r negeswyr a’u helpu nhw i ffoi?
26 Yn wir, yn union fel mae’r corff heb ysbryd* yn farw, felly hefyd mae ffydd heb weithredoedd yn farw.