Llythyr Iago 4:1-17
4 O le daeth y rhyfeloedd a’r brwydro yn eich plith? Onid ydyn nhw’n tarddu o’ch chwantau cnawdol sy’n parhau i ryfela ynoch chi?
2 Rydych chi’n dymuno rhywbeth, ond eto dydych chi ddim yn ei gael. Rydych chi’n parhau i lofruddio ac i ddymuno, ond heb gael. Rydych chi’n parhau i frwydro ac i ryfela. Dydych chi ddim yn cael oherwydd dydych chi ddim yn gofyn.
3 Pan ydych chi’n gofyn am rywbeth, dydych chi ddim yn derbyn oherwydd eich bod chi’n gofyn am reswm anghywir, er mwyn ichi ei wario ar eich chwantau cnawdol.
4 Chi rai anffyddlon,* onid ydych chi’n gwybod bod cyfeillgarwch â’r byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Felly, mae pwy bynnag sydd eisiau bod yn ffrind i’r byd yn ei wneud ei hun yn elyn i Dduw.
5 Neu ydych chi’n meddwl bod yr ysgrythur yn dweud hyn heb reswm: “Mae’r ysbryd cenfigennus sy’n cartrefu ynon ni yn parhau i ddyheu am bob peth”?
6 Fodd bynnag, mae’r caredigrwydd rhyfeddol mae Duw’n ei roi yn fwy. Felly, mae’r ysgrythur yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu’r rhai ffroenuchel, ond mae’n rhoi caredigrwydd rhyfeddol i’r rhai gostyngedig.”
7 Felly, ufuddhewch* i Dduw; ond gwrthwynebwch y Diafol, ac fe fydd yn ffoi oddi wrthoch chi.
8 Nesewch at Dduw, ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chi sydd rhwng dau feddwl.
9 Byddwch yn drist gan alaru a wylo. Gadewch i’ch chwerthin droi’n alaru, ac i’ch llawenydd droi’n anobaith.
10 Byddwch yn ostyngedig yng ngolwg Jehofa, ac fe fydd yn eich dyrchafu chi.
11 Stopiwch siarad yn erbyn eich gilydd, frodyr. Mae pwy bynnag sy’n siarad yn erbyn brawd neu’n barnu ei frawd yn siarad yn erbyn y gyfraith ac yn barnu’r gyfraith. Nawr os ydych chi’n barnu’r gyfraith, dydych chi ddim yn dilyn y gyfraith, ond barnwyr ydych chi.
12 Dim ond un Gosodwr Cyfraith a Barnwr sydd ’na, yr un sydd â’r gallu i achub ac i ddinistrio. Ond chithau, pwy ydych chi i farnu eich cymydog?
13 Dewch, nawr, chi sy’n dweud: “Heddiw neu yfory gwnawn ni deithio i’r ddinas hon a threulio blwyddyn yno yn gwneud busnes ac ychydig o elw,”
14 ond dydych chi ddim yn gwybod sut bydd eich bywyd yfory. Oherwydd niwl ydych chi, sy’n ymddangos am ychydig ac yna’n diflannu.
15 Yn hytrach, fe ddylech chi ddweud: “Os ydy Jehofa’n dymuno, gwnawn ni fyw a gwneud hyn a’r llall.”
16 Ond nawr rydych chi’n falch o’ch brolio ffroenuchel. Mae pob brolio o’r fath yn ddrwg.
17 Felly, os ydy rhywun yn gwybod sut i wneud yr hyn sy’n iawn ac eto ddim yn ei wneud, mae’n pechu.