Yn Ôl Ioan 18:1-40

  • Jwdas yn bradychu Iesu (1-9)

  • Pedr yn defnyddio cleddyf (10, 11)

  • Iesu’n cael ei gymryd at Annas (12-14)

  • Pedr yn gwadu am y tro cyntaf (15-18)

  • Iesu gerbron Annas (19-24)

  • Pedr yn gwadu am yr ail a’r trydydd tro (25-27)

  • Iesu gerbron Peilat (28-40)

    • “Dydy fy Nheyrnas i ddim yn rhan o’r byd hwn” (36)

18  Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, aeth Iesu allan gyda’i ddisgyblion a chroesi Dyffryn Cidron. Roedd gardd yno, ac fe aeth ef a’i ddisgyblion i mewn iddi. 2  Nawr roedd Jwdas, ei fradychwr, hefyd yn gwybod am y lle, oherwydd bod Iesu wedi cyfarfod yn aml â’i ddisgyblion yno. 3  Felly daeth Jwdas â grŵp o filwyr a swyddogion y prif offeiriaid a’r Phariseaid ac fe ddaethon nhw yno â ffaglau a lampau ac arfau. 4  Yna, gan ei fod yn gwybod yr holl bethau oedd yn mynd i ddigwydd iddo, camodd Iesu ymlaen a dweud wrthyn nhw: “Pwy rydych chi’n chwilio amdano?” 5  Atebon nhw: “Iesu o Nasareth.” Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Fi ydy Iesu.” Nawr roedd Jwdas, ei fradychwr, hefyd yn sefyll gyda nhw. 6  Fodd bynnag, pan ddywedodd Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy Iesu,” fe wnaethon nhw gilio’n ôl a syrthio i’r llawr. 7  Felly gofynnodd ef iddyn nhw unwaith eto: “Pwy rydych chi’n chwilio amdano?” Dywedon nhw: “Iesu o Nasareth.” 8  Atebodd Iesu: “Rydw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy Iesu. Felly os ydych chi’n chwilio amdana i, gadewch i’r dynion hyn fynd.” 9  Roedd hyn er mwyn cyflawni beth roedd ef wedi ei ddweud: “O’r rhai rwyt ti wedi eu rhoi imi, dydw i ddim wedi colli’r un ohonyn nhw.” 10  Yna, tynnodd Simon Pedr y cleddyf roedd ganddo, a tharo caethwas yr archoffeiriad, gan dorri ei glust dde i ffwrdd. Enw’r caethwas oedd Malchus. 11  Fodd bynnag, dywedodd Iesu wrth Pedr: “Rho’r cleddyf yn ôl yn ei wain. Oni ddylwn i yfed o’r cwpan mae’r Tad wedi ei roi imi?” 12  Yna fe wnaeth y milwyr a chadlywydd y fyddin a swyddogion yr Iddewon afael yn* Iesu a’i rwymo. 13  Yn gyntaf fe aethon nhw ag ef at Annas, gan mai ef oedd tad yng nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno. 14  Caiaffas, yn wir, oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon y byddai’n fuddiol iddyn nhw i un dyn farw dros y bobl. 15  Nawr roedd Simon Pedr, ynghyd â disgybl arall, yn dilyn Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn adnabod y disgybl hwnnw, ac aeth gyda Iesu i mewn i gwrt yr archoffeiriad, 16  ond roedd Pedr yn sefyll y tu allan wrth y drws.* Felly fe aeth y disgybl arall, yr un roedd yr archoffeiriad yn ei adnabod, allan a siarad â cheidwad y drws a dod â Pedr i mewn. 17  Yna dywedodd y forwyn a oedd yn cadw’r drws wrth Pedr: “Onid wyt tithau hefyd yn un o ddisgyblion y dyn hwn?” Dywedodd yntau: “Nac ydw.” 18  Nawr roedd y caethweision a’r swyddogion yn sefyll o gwmpas tân siarcol roedden nhw wedi ei wneud, oherwydd ei bod hi’n oer ac roedden nhw’n eu twymo eu hunain. Roedd Pedr hefyd yn sefyll gyda nhw yn ei dwymo ei hun. 19  Felly fe wnaeth y prif offeiriad gwestiynu Iesu ynglŷn â’i ddisgyblion ac ynglŷn â’i ddysgu. 20  Atebodd Iesu ef: “Rydw i wedi siarad yn gyhoeddus â’r byd. Roeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle mae’r Iddewon i gyd yn dod at ei gilydd, a dydw i ddim wedi dweud dim byd yn gyfrinachol. 21  Pam rwyt ti’n fy nghwestiynu i? Hola’r rhai sydd wedi clywed beth ddywedais i wrthyn nhw. Edrycha! Mae’r rhain yn gwybod beth ddywedais i.” 22  Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, gwnaeth un o’r swyddogion a oedd yn sefyll yno roi slap ar draws wyneb Iesu a dweud: “Ai dyna sut ti’n ateb y prif offeiriad?” 23  Atebodd Iesu ef: “Os ydw i wedi dweud rhywbeth anghywir, dyweda wrtho i* beth ddywedais i; ond os ydy’r hyn a ddywedais i’n iawn, pam rwyt ti’n fy nharo i?” 24  Yna anfonodd Annas ef i ffwrdd, wedi ei rwymo, at Caiaffas yr archoffeiriad. 25  Nawr roedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ei dwymo ei hun. Yna dywedon nhw wrtho: “Onid wyt tithau hefyd yn un o’i ddisgyblion ef?” Fe wadodd y peth a dweud: “Nac ydw.” 26  Dyma un o gaethweision yr archoffeiriad, perthynas i’r dyn y gwnaeth Pedr dorri ei glust i ffwrdd, yn dweud: “Oni welais i ti yn yr ardd gydag ef?” 27  Fodd bynnag, gwadodd Pedr y peth eto, ac ar unwaith dyma geiliog yn canu. 28  Yna fe aethon nhw â Iesu oddi wrth Caiaffas i balas y llywodraethwr. Roedd hi nawr yn gynnar yn y bore. Ond ni wnaethon nhw eu hunain fynd i mewn i balas y llywodraethwr, rhag iddyn nhw gael eu llygru, gan eu bod nhw eisiau bwyta’r Pasg. 29  Felly daeth Peilat allan atyn nhw a dweud: “Pa gyhuddiad rydych chi’n ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?” 30  Atebon nhw: “Petai’r dyn hwn ddim yn ddrwgweithredwr,* fydden ni ddim wedi ei drosglwyddo i ti.” 31  Felly dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Cymerwch ef a barnwch ef yn ôl eich cyfraith.” Dywedodd yr Iddewon wrtho: “Nid yw’n gyfreithlon i ni ladd neb.” 32  Roedd hyn er mwyn cyflawni’r gair a ddywedodd Iesu er mwyn cyfeirio at y math o farwolaeth roedd yn mynd i’w hwynebu. 33  Felly aeth Peilat i mewn i balas y llywodraethwr eto a galw Iesu a dweud wrtho: “Ai ti ydy Brenin yr Iddewon?” 34  Atebodd Iesu: “Wyt ti’n gofyn hyn ar dy liwt dy hun, neu ai eraill wnaeth ddweud wrthot ti amdana i?” 35  Atebodd Peilat: “Ai Iddew ydw i? Mae dy genedl dy hun a’r prif offeiriaid wedi dy roi di yn fy nwylo i. Beth wnest ti?” 36  Atebodd Iesu: “Dydy fy Nheyrnas i ddim yn rhan o’r byd hwn. Petai fy Nheyrnas i’n rhan o’r byd hwn, byddai fy ngweision wedi ymladd er mwyn imi beidio â chael fy nhrosglwyddo i’r Iddewon. Ond y gwir yw, dydy fy Nheyrnas i ddim yn dod o’r byd hwn.” 37  Felly dywedodd Peilat wrtho: “Wel, wyt ti’n frenin felly?” Atebodd Iesu: “Ti sy’n dweud fy mod i’n frenin. Dyma pam y ces i fy ngeni, a dyma pam y des i i’r byd, er mwyn imi allu tystiolaethu am y gwir. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando ar fy llais.” 38  Dywedodd Peilat wrtho: “Y gwir? Beth ydy hwnnw?” Ar ôl dweud hyn, aeth allan eto at yr Iddewon a dweud wrthyn nhw: “Ni alla i weld unrhyw fai arno. 39  Ar ben hynny, mae gynnoch chi ddefod imi ryddhau dyn ichi ar adeg y Pasg. Felly ydych chi eisiau imi ryddhau ichi Frenin yr Iddewon?” 40  Unwaith eto fe waeddon nhw: “Nid y dyn hwn, ond Barabbas!” Nawr, lleidr oedd Barabbas.

Troednodiadau

Neu “arestio.”
Neu “y fynedfa.”
Neu “tystiolaetha am.”
Neu “yn droseddwr.”